Y Drindod Dewi Sant yn dathlu Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang


03.11.2021

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn nodi Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang (Tachwedd 8-12) drwy gynnal cyfres o anerchiadau a digwyddiadau i ennyn diddordeb ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) is marking Global Entrepreneurship Week (GEW) (November 8-12) by hosting a series of talks and events to engage and inspire the next generation of entrepreneurs.

Mae gan y Brifysgol hanes trawiadol o fusnesau newydd gan raddedigion.  Yn ôl yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch roedd safle’r Drindod Dewi Sant yn 2019/2020 fel y ganlyn:

1af yn y DU am fusnesau newydd oedd yn dal i weithredu ar ôl 3 blynedd.

2il yn y DU am gyfanswm y cwmnïau gweithredol.

9fed yn y DU am gyfanswm y rheini a gyflogir mewn busnesau newydd gan raddedigion.

Mae tîm Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter (INSPIRE) y Brifysgol y tu ôl i lawer o’r llwyddiant. Maent yn cynnig amrywiaeth o gymorth i fusnesau newydd, gyda’r rhan fwyaf o’r busnesau wedi’u hysbrydoli gan y cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd hyn ac wedi’u cynllunio ar y cyd â nhw. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’u menter Syniadau Mawr Cymru, mae’n gymysgedd pwerus.

O fewn INSPIRE, mae’r Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (IICED) yn arweinydd byd cydnabyddedig gan ddatblygu mathau o addysg sy’n paratoi ar gyfer y dyfodol ac sy’n helpu dysgwyr i lwyddo, ac mae’r cyhoeddiad newydd yn parhau â’r thema hon.

Meddai Dr Kathryn Penaluna, Athro Cysylltiol mewn Addysg Fenter yn y Drindod Dewi Sant: “Agwedd allweddol ar waith y brifysgol wrth gefnogi entrepreneuriaeth a menter yw ei bod yn addysgu sgiliau sy’n ddefnyddiol nid yn unig ar gyfer dechrau eich busnes eich hun, ond hefyd ar gyfer symud eich gyrfa yn ei blaen os ydych yn gweithio i gwmni, yn enwedig pan fydd angen pobl greadigol sy’n datrys problemau ar y cwmni hwnnw.

“Nid yw bod yn entrepreneuraidd yn golygu bod angen i ni gychwyn busnes, ond yn hytrach bod y potensial gennym i’w wneud, boed hynny nawr neu’n hwyrach yn ein gyrfa.  Mewn llawer o achosion gallai hyn fod yn nod hirdymor, ac i bobl eraill efallai nad ydynt yn bwriadu gwneud hynny o gwbl.

“Mae’r dystiolaeth yn glir iawn fod angen pobl ar fusnesau sy’n gallu cyflwyno syniadau, awgrymu ffyrdd o’u gwireddu a chymryd y cam cyntaf. Mae cwmnïau’n ystyried sgiliau mentrus fel dangosydd o ba mor dda y byddwch yn gallu cefnogi’r cwmni yn y tymor hwy – trwy ddyrchafiad a’r mathau o gyfrifoldebau o ran arwain sy’n dod ynghlwm â hynny.

“Felly, mae gwella sgiliau entrepreneuraidd, megis creadigrwydd a meddwl beirniadol, a bod yn hyblyg ac â’r gallu i addasu i her a chyfleoedd, yn golygu eich bod ar eich ennill, ac mae’n gallu eich helpu i fynd â’ch gyrfa ble bynnag byddwch yn dymuno.  Bydd yr elfen Entrepreneuriaeth hefyd yn eich helpu i ddeall sut mae cwmni’n gweithio a pham, er enghraifft, mae rhai pethau’n cael eu blaenoriaethu cyn pethau eraill.  Mae gweithiwr sy’n deall beth sy’n ysgogi ei gwmni yn weithiwr gwerthfawr iawn.”

Mae cyn-fyfyrwyr sydd bellach yn rhedeg busnesau llwyddiannus wedi canmol yn gyson y gefnogaeth a gawsant gan y brifysgol, sy’n cefnogi’r syniad y gall y Brifysgol, yn ei thro, ddysgu ganddynt hwythau.

Graddiodd Neil Dyer, sylfaenydd yr ymgynghoriaeth fusnes NeoDynamic, o’r Drindod Dewi Sant gyda rhagoriaeth yn ei radd MBA (Meistr mewn Gweinyddu Busnes). Meddai:

“Rhoddodd fy ngradd yr hyder a’r sgiliau imi roi cynnig arni. Roeddwn ar drobwynt yn fy ngyrfa. Roedd gen i swydd fel uwch reolwr a theulu oedd yn tyfu, ond roedd y sbarc a’r cyffro i fynd i’r gwaith wedi diflannu.  Roeddwn i’n chwarae gyda’r syniad o gychwyn ar fy mhen fy hun, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud a doeddwn i ddim yn credu ynof fy hun ddigon.  Helpodd yr MBA i gadarnhau fy ngwybodaeth am fusnes, gwnaeth y darlithwyr hybu fy nealltwriaeth ac fe wnaeth un yn arbennig roi’r amser a’r anogaeth i mi i ddechrau fy ymgynghoriaeth fusnes fy hun. Dechreuais gynllunio fy musnes yn fy mlwyddyn gyntaf a dechreuodd NeoDynamic fasnachu yn fy ail flwyddyn.”

Enillodd Sara Holden radd Meistr mewn Menter Celfyddydau Gweledol yn y Drindod Dewi Sant ar ôl ennill gradd mewn Celf Gain yn Llundain yn flaenorol. Yn 2005, sefydlodd Sculpture by the Sea UK, Cwmni Celfyddydol Amgylcheddol yn gweithredu yn ne a gorllewin Cymru.

Meddai: “Mae’r Drindod Dewi Sant wedi edrych ar bob agwedd ar redeg busnes creadigol o farchnata i wneud celf ac mae wedi cynllunio cyrsiau sy’n wirioneddol ddefnyddiol i fyfyrwyr. Maent wedi cyflogi’r darlithwyr gorau posibl i ddarparu’r cyrsiau hyn sy’n realistig a hefyd yn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr.”

Graddiodd Naomi Bishop, cyd-sylfaenydd Hozah, sy’n arbenigo mewn rheolaeth tir ddigidol ar gyfer y Ddinas Glyfar yn y sector Cludiant a Pharcio, o’r Drindod Dewi Sant gyda gradd BA (Anrh) Dylunio Cynnyrch. Bellach, mae Hozah yn gweithio gyda llu o Awdurdodau Lleol, safleoedd GIG a busnesau preifat ar draws y DU.

Meddai Naomi: “Rhoddwyd llawer o ymdrech i mewn i wneud Y Drindod Dewi Sant yn ganolfan creadigrwydd dros y blynyddoedd. Anogwyd entrepreneuriaeth a chreadigrwydd ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd myfyrwyr a ddaeth ar fy ôl i yn ffynnu yn y Brifysgol am flynyddoedd i ddod. Ochr yn ochr â’r cyfleusterau gwych sydd ar gael i fyfyrwyr, mae ansawdd y darlithwyr sy’n eich hyfforddi. Rwy’n credu ei bod yn eithriadol o werthfawr bod pobl yn eich addysgu sy’n gyfarwydd â’r maes eu hunain, ac mae’r darlithwyr a’m haddysgodd i yn Y Drindod Dewi Sant yn dal i fod yn rhai o’r bobl fwyaf talentog i mi eu cwrdd erioed.”

Dydd Llun 8 Tachwedd 10.00am-11.30pm

Sut i ddechrau eich busnes eich hun

Dewch i gychwyn Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang gyda chipolwg ar sut i ddechrau busnes.

Ydych chi wedi bod yn ystyried dechrau busnes nawr neu yn y dyfodol? Efallai yr hoffech ddysgu a fyddai dechrau busnes yn syniad da neu ddarganfod sut i fynd ati.  Yn ystod y sesiwn hon clywch gan berchennog busnes am ei daith i ddechrau busnes.  Beth aeth yn dda iddo/iddi a beth na fyddai’n ei wneud eto.  Bydd y sesiwn hon yn eich ysbrydoli ac yn eich galluogi i ystyried a ydy dechrau busnes yn iawn i ti a chael atebion i rai o’ch pynciau llosg.  

DOLEN Â’R SESIWN -  https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_YjU4NGJmMTgtMWJiNS00YjU3LTkyNDMtYTIxNzBiNzY1N2Fl%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%2258ab6024-4571-49d6-883f-9485fbe5dc99%22%7d

Dydd Llun 8 Tachwedd 12 hanner dydd - 1.30pm

Dechrau busnes tra ydych yn dal i astudio

Ydych chi’n fyfyriwr ac yn ystyried dechrau neu ydych chi eisoes wedi dechrau eich busnes eich hun? Mae’r sesiwn hon i chi.

Yn ystod y sesiwn hon byddwch yn cwrdd ac yn clywed gan dri pherchennog busnes a phob un wedi cychwyn ei fusnes ei hun wrth astudio yn y brifysgol.  Byddant yn rhannu eu profiadau, da a drwg, o jyglo astudio â dechrau busnes.  Mae pob un ohonynt ar wahanol bwynt ar y daith felly byddwch yn siŵr o ddarganfod pob math o awgrymiadau a syniadau i’ch helpu gyda’ch cynlluniau i ddechrau busnes tra ydych yn cwblhau’ch astudiaethau’ch hun.   

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_MTk4Zjk4NGEtZmU1NS00YzE4LTg2YjktNDBlZDczN2IzMmQw%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%2258ab6024-4571-49d6-883f-9485fbe5dc99%22%7d

Dydd Llun 8 Tachwedd 2.30pm - 4.00pm

Does dim rhaid i drethi godi ofn  

Os ydych chi’n cael eich troi yn erbyn dechrau busnes am nad ydych yn deall goblygiadau Treth ac ariannol busnes, ymunwch â ni ar y sesiwn hon i ddysgu pam nad oes angen i chi fod ag ofn.  Caiff y sesiwn hon ei harwain gan berchennog busnes profiadol a bydd yn ceisio ateb cynifer o’ch cwestiynau ag y bo modd.  

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_MmFhNGFmOTMtYWNlZC00MDM2LTkyZGQtNThkNDJjOTI3YmRk%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%2258ab6024-4571-49d6-883f-9485fbe5dc99%22%7d

Dydd Llun 8 Tachwedd 4.00pm-5.30pm

Bŵt-camp Marchnad Myfyrwyr Cymru – GWERTHWCH AR-LEIN!

Hoffech chi ddysgu sut i werthu ar-lein? Ymunwch â ni am ddiwrnod 1 y bŵt-camp 3 diwrnod hwn a fydd yn eich helpu i ddechrau’ch taith e-fasnach.  

Bwciwch yma am y digwyddiad allanol hwn https://www.eventbrite.co.uk/e/wales-student-market-bootcamp-get-selling-online-tickets-171861752127

Dydd Mawrth 9 Tachwedd 10.00am - 11.30am

Datblygu Ap ar gyfer eich Busnes  

Os ydych yn ystyried datblygu Ap fel eich syniad busnes, ymunwch â ni am y sesiwn hwyl hon i ddysgu mwy gan berchennog busnes sy’n datblygu Apiau yn rhan o’r hyn sydd gan ei fusnes i’w gynnig.  

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_ZWY3M2QzMjMtMDZmMy00NzBjLTgwMDEtNmJhMjg4NTMzNzlm%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%22abbc7c69-4720-4933-838a-1cbd8d06af66%22%7d

Dydd Mawrth 9 Tachwedd 12.30pm - 1.30pm

Sut i gael cymorth mentor ar gyfer eich busnes  

Mae cael mentor i’ch cefnogi ar daith eich busnes yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddwch yn llwyddo.  Mae llawer o entrepreneuriaid mwyaf y byd yn priodoli llawer o’u llwyddiant i’r mentoriaid sydd wedi gweithio gyda nhw.  Ond sut mae mynd ati i ddod o hyd i fentor? I ddysgu rhagor am beth mae mentor yn ei wneud, sut cewch gymorth gan fentoriaid ac unrhyw gwestiynau eraill a allai fod gennych, ymunwch â ni ar y sesiwn wych hon.  

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_NDMxYThkM2UtMDVlNC00Yzg1LTkwMzktMWYyZTM4YTEwZTFm%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%2258ab6024-4571-49d6-883f-9485fbe5dc99%22%7d

Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2.30pm - 4.00pm

Marchnata Digidol

Mae marchnata digidol bellach yn weithgaredd creiddiol i unrhyw berchennog busnes newydd.  Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio marchnata digidol i’ch hyrwyddo’ch hun neu’ch syniad busnes, dewch i’r sesiwn hon i ddysgu rhagor gan gwmni sy’n darparu’r gwasanaeth hwn ar gyfer ei gleientiaid.

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_NWU5ZDYzMDktNzVjNi00ZWYwLWFhOTEtYTc2NTYxZGEwMmQw%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%22abbc7c69-4720-4933-838a-1cbd8d06af66%22%7d

Dydd Mawrth 9 Tachwedd 4.00pm-5.30pm

Bŵt-camp Marchnad Myfyrwyr Cymru – GWERTHWCH AR-LEIN!

Hoffech chi ddysgu sut i werthu ar-lein? Ymunwch â ni am ddiwrnod 2 y bŵt-camp 3 diwrnod hwn a fydd yn eich helpu i ddechrau’ch taith e-fasnach.

Bwciwch yma am y digwyddiad allanol hwn https://www.eventbrite.co.uk/e/wales-student-market-bootcamp-get-selling-online-tickets-171861752127

Dydd Mercher 10 Tachwedd 10.00pm - 11.30pm

Mentrau Cymdeithasol  

Ydych chi wedi ystyried rhedeg menter gymdeithasol? Dewch i glywed gan Ben Reynolds o’r Urban Foundary. “Mae ein gwaith yn cael ei yrru gan elfen greadigol gref, a ddechreuodd yn y sector creadigol, gan ddarparu digwyddiadau cerddoriaeth fyw, orielau dros dro, prosiectau cymunedol a mentrau cymdeithasol.  Ar yr un pryd, cawsom ein sefydlu ar sail disgyblaeth gadarn yn y gwyddorau cymdeithasol- ymchwil cymdeithasol, dylunio ac adfywio trefol, ac economeg gymdeithasol.”

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_ZWIzYmEwNGQtNDU3Zi00Njk4LWFmNGItMDk2YmE2YTc2MDNi%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%2258ab6024-4571-49d6-883f-9485fbe5dc99%22%7d

Dydd Mercher 10 Tachwedd 12 hanner dydd - 1.00pm

Mentrau Cymdeithasol

Ydych chi wedi ystyried o ble y gallech gael cyllid i gychwyn eich Menter Gymdeithasol? Dewch i glywed gan UnLtd sy’n cynnig cyllid i’ch helpu i gychwyn neu fynd i gam nesaf eich taith.  O £500 - £20,000. Ond maent hefyd yn gwneud llawer mwy!

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_MjIyZWY2ZTctYTBjMC00NmI2LWFkNDMtMTBiMjllMTYxNDk4%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%2258ab6024-4571-49d6-883f-9485fbe5dc99%22%7d

Dydd Mercher 10 Tachwedd 1.00pm - 2.30pm

Mentrau Cymdeithasol

Ydych chi wedi ystyried rhedeg menter gymdeithasol? Dewch i glywed gan Harri Helvon-Hardy o FABRIC. Mae hwn yn sefydliad sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n gwneud gwahaniaeth positif i bobl ifanc dros 16 oed sydd naill ai mewn gofal neu’n gadael gofal.

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_OGQ4ODA5ZGQtMmIzMy00MjQ1LTkxZDgtNDM0YzI1MTgwOTYx%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%2258ab6024-4571-49d6-883f-9485fbe5dc99%22%7d

Dydd Mercher 10 Tachwedd 3.00pm - 4.30pm

Beth yw Menter Gymdeithasol  

Ydych chi wedi ystyried rhedeg menter gymdeithasol ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Dewch i wrando ar siaradwyr o Ganolfan Gydweithredol Cymru sy’n arbenigo mewn cynnig cymorth a chyngor i ddarpar entrepreneuriaid cymdeithasol i droi’u syniadau’n realiti.

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_ZGI3ZTMyOWEtZDJmOS00NjFjLThkNjctYzIwNmEzZjUyNDYz%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%22abbc7c69-4720-4933-838a-1cbd8d06af66%22%7d

Dydd Mercher 10 Tachwedd 4.00pm - 5.30pm

Bŵt-camp Marchnad Myfyrwyr Cymru – GWERTHWCH AR-LEIN!

Hoffech chi ddysgu sut i werthu ar-lein? Ymunwch â ni am ddiwrnod 3 y bŵt-camp 3 diwrnod hwn a fydd yn eich helpu i ddechrau’ch taith e-fasnach.

Bwciwch yma am y digwyddiad allanol hwn https://www.eventbrite.co.uk/e/wales-student-market-bootcamp-get-selling-online-tickets-171861752127

Dydd Iau 11 Tachwedd 10.00pm – 11.30pm

Sut i fod yn weithiwr llawrydd i’r rheini sydd yn y sector creadigol  

Ydy’ch gradd yn debygol o’ch arwain i fyd gweithwyr llawrydd?  Ydy hyn yn eich poeni neu efallai eich bod yn gyffrous iawn wrth feddwl amdano, ond yn parhau i fod yn y tywyllwch ynghylch beth mae’n ei olygu neu sut bydd yn gweithio?  Bydd y sesiwn hon yn ystyried gwaith llawrydd i’r rheini sy’n gweithio yn y sectorau creadigol ac yn tynnu ar brofiad gweithiwr llawrydd presennol.  Dewch i ofyn eich holl gwestiynau am weithio’n llawrydd.  

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_NzRmZDJlODUtNjQ0Ny00Yzg3LTg4YzUtMjM2YmZiMWQ4OWFl%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%2258ab6024-4571-49d6-883f-9485fbe5dc99%22%7d

Dydd Iau 11 Tachwedd 12 hanner dydd – 1.30pm

Marchnata Targed  

Yn dilyn ein sesiwn Marchnata Digidol, plymiwch i ddyfnderoedd dynodi a datblygu strategaeth effeithiol ar gyfer marchnata i’ch marchnad darged.  Yn aml dyma’r elfen sydd ar goll mewn 99% o ymdrechion marchnata BBaChau.

DOLEN Â’R SESIWN -  https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_ZTdiZTU4M2YtMjA4YS00ZTJmLThmZmUtZmE3YjM5YzQzYTY3%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%2258ab6024-4571-49d6-883f-9485fbe5dc99%22%7d

Dydd Iau 11 Tachwedd 1.00pm – 2.30pm

Sut i redeg a marchnata gweithgaredd busnes   

Ydy’ch syniad busnes yn y sector awyr agored, twristiaeth neu weithgareddau? Ymunwch â ni i glywed gan berchennog busnes sy’n cynnig gweithgareddau awyr agored gwych wrth iddi hi rannu ei hawgrymiadau â ni ynghylch sut i farchnata busnes o’r math hwn.  

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_YWUzMDI0ZWMtOTdjZC00NWFhLTg5MjMtYTAzNDFhYTM3YTIw%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%22abbc7c69-4720-4933-838a-1cbd8d06af66%22%7d

Dydd Iau 11 Tachwedd 6.00pm – 8.00pm

Cymysgu a Chynnig Syniadau  

 diddordeb mewn gwaith llawrydd neu gychwyn busnes?  Dewch i gwrdd â myfyrwyr ac entrepreneuriaid o’r un anian, meithrin cysylltiadau, rhwydweithio a datblygu sgiliau cynnig syniadau yn y sesiwn Cymysgu a Chynnig Syniadau eleni!

Mae’r digwyddiad ar-lein, anffurfiol hwn yn ymwneud â meithrin eich rhwydweithiau a datblygu sgiliau entrepreneuraidd.  Cewch gyfle i rwydweithio a chymysgu ag entrepreneuriaid a myfyrwyr o’r un anian o bob cwr o Gymru. Gall y rheini sy’n dymuno hynny hefyd ddewis cynnig eu syniadau busnes ar gyfer adborth a gwobrau.

Wrth gofrestru, gofynnir i chi a ydych yn dymuno rhwydweithio, neu rwydweithio a chynnig syniadau.  Byddwch yn cynnig syniadau dim ond os dymunwch hynny!

I gofrestru am y digwyddiad hwn dilynwch y ddolen hon - https://bit.ly/3B1dBg1  

Dydd Gwener 12 Tachwedd 9.30am – 11.30am

Sut i greu gwefan i’ch busnes  

Beth bynnag yw’ch syniad busnes mae’n debygol y bydd arnoch angen gwefan.  Dewch i’r sesiwn hon i ddysgu rhagor am wefannau, sut i’w creu, eu defnyddio a chael pobl i ymweld â nhw. Dewch â’ch cwestiynau i’r sesiwn hon sy’n cael ei chynnal gan berchennog busnes a chrëwr i’r gwe profiadol iawn.  

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_NmNkMDM4ZjUtZDk4Mi00NDJlLWIzOWYtMzNjMGI1NmM3NmI5%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%22abbc7c69-4720-4933-838a-1cbd8d06af66%22%7d

Dydd Gwener 12 Tachwedd 12 hanner dydd – 1.00pm

Sut i ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol megis Instagram i farchnata eich busnes  

Dewch i ddysgu am yr awgrymiadau sydd eu hangen i drawsnewid y ffordd rydych yn defnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol o bostio’ch cynnyrch a’ch gwasanaethau i ddysgu sut i ryngweithio’n uniongyrchol â’ch cwsmeriaid a darganfod sut i ddefnyddio’r rhai mwyaf priodol i’ch cynulleidfa darged.

DOLEN Â’R SESIWN -  https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_NDVlNWQ0ZjMtYmIwOC00OWY4LWE0NWEtMjBhYTY0YjMzYmU4%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%22abbc7c69-4720-4933-838a-1cbd8d06af66%22%7d

Dydd Gwener 12 Tachwedd 1.00pm – 2.00pm

Sut i ddefnyddio YouTube yn eich busnes  

Hoffech chi ddefnyddio YouTube yn eich syniad busnes? Ymunwch â ni am y sesiwn hwyl hon sy’n cael ei chynnal gan ddefnyddiwr YouTube profiadol sydd â bron iawn 10 mil o danysgrifwyr.  Dysgwch sut i ddefnyddio YouTube i wneud arian, adeiladu busnes a phwy a ŵyr, efallai dod yn seren!

DOLEN Â’R SESIWN - https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_MzAxMDM5NWUtZTM0My00ZWRhLWExNDgtZDIxNzUyZTg3Zjhm%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%224e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21%22%2c%22Oid%22%3a%2258ab6024-4571-49d6-883f-9485fbe5dc99%22%7d

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk