Y Drindod Dewi Sant yn Lansio Gradd Perfformio Lleisiol Newydd.


15.11.2021

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cyflwyno llwybr llais poblogaidd newydd o fewn ei rhaglen BMus Perfformio Llais ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglenni lleisiol yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA), mae’r BMus (Anrh) Perfformio Lleisiol newydd yn rhaglen arbenigol i gantorion sy’n canolbwyntio ar y diwydiant. Mae’r rhaglen newydd gyffrous hon wedi’i lleoli yn ninas Caerdydd a chaiff ei chyflwyno gan arbenigwyr o fri cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r ffocws penodol ar ‘llais’ wedi galluogi i WAVDA lunio rhaglen wedi’i siapio’n llwyr ar ofynion y diwydiant perfformio lleisiol, gan gofleidio amrywiaeth y ddisgyblaeth a chreu cyfle unigryw i gantorion. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant lleisiol 1 i 1, a dosbarthiadau meistr gan artistiaid byd-enwog, ac wrth gwrs caiff hyn oll ei leoli yn ein cyfleuster arbenigol yng Nghaerdydd.

Mae perfformio lleisiol yn ddisgyblaeth gymhleth sy’n dod â llu o sgiliau at ei gilydd o blith y celfyddydau perfformio; mae’r rhaglen hon yn cofleidio hynny a’i nod yw galluogi myfyrwyr i fod yn berfformwyr hyblyg ac sy’n medru addasu.

Mae prif agweddau’r dysgu ar y cwrs BMus Perfformio Lleisiol yn cynnwys techneg lleisiol ac astudio repertoire, crefft lwyfan, theori cerddoriaeth, recordio, iechyd lleisiol, y diwydiannau creadigol a nifer o gyfleoedd i berfformio. Bob blwyddyn bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiect perfformio dwys ar raddfa fawr yn gweithio gydag arbenigwyr y diwydiant i gyflwyno perfformiad cyhoeddus.

Mae staff Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yn edrych ymlaen at fyfyrwyr gofrestru ar y llwybr gradd newydd hwn, sy’n cyfoethogi’r portffolio o raglenni o fewn WAVDA a’r cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr israddedig. Meddai David Bebbington, Rheolwr yr Academi a Chyfarwyddwr y Rhaglen:

 “Mae’n bleser gennym lansio’r llwybr newydd hwn mewn Llais Poblogaidd, sy’n datblygu ein portffolio ymhellach, gan gyfoethogi’r cyfleoedd sydd ar gael i ddarpar gantorion y brifysgol yng Nghaerdydd. Bydd myfyrwyr yn gallu gweithio ar draws amrywiaeth eang o arddulliau a thynnu ar sgiliau ac arbenigedd y rhaglenni clasurol a theatr gerddorol sefydledig yn y brifysgol. Bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ffocysu’n benodol ar Berfformio Lleisiol gyda rhaglen a luniwyd yn arbennig ar gyfer cantorion, gan gofleidio natur amlweddog y ddisgyblaeth ei hun, a’r diwydiant.”

Meddai Barry Liles, Pro Is-Ganghellor a Phennaeth Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA): “Mae’n bleser gan y Brifysgol weld cyfnod nesaf datblygiad y BMus Perfformio Lleisiol, drwy gyflwyno’r llwybr newydd mewn llais poblogaidd. Credwn y bydd y rhaglen hon yn darparu cyfle cyffrous i’r rheiny sy’n dymuno astudio llais mwy cyfoes, gan adeiladu ar ein casgliad llwyddiannus o raglenni yng Nghaerdydd. Yn seiliedig ar ein henw clodwiw yn y maes lleisiol hwn, bydd y rhaglen newydd yn darparu cyfleoedd dilyniant ar gyfer ein myfyrwyr ymlaen i astudiaeth ôl-raddedig neu fel ymarferwyr yn y sector.”

Rhagwelir y bydd graddedigion y rhaglen Perfformio Lleisiol yn cychwyn eu gyrfaoedd fel perfformwyr, athrawon, artistiaid recordio, ac o fewn amrywiol ddisgyblaethau cysylltiedig eraill. Gall y BMus (Anrh) Perfformio Lleisiol arwain hefyd at astudiaeth ôl-raddedig bellach.

Nodyn i'r Golygydd

Am ragor o wybodaeth ynghylch y radd Perfformio Lleisiol newydd, ewch i:  Perfformio Lleisiol (BMus) | Y Drindod

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk