Y Drindod yn croesawu cynhadledd IEAN i Gymru


19.10.2021

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AS i gynhadledd ryngwladol bwysig a gynhelir gan Yr Athrofa: Canolfan Addysg y Brifysgol ar 20 a 21 Hydref.

Logo Yr Athrofa

Cynhelir Cynhadledd ddeuddydd ar-lein y Rhwydwaith Asesu Addysgol Rhyngwladol (IEAN) yn rhithwir yng Nghymru am y tro cyntaf a bydd yn cynnwys cyfraniadau gan academyddion a llunwyr polisi o bedwar ban byd.

Ymhlith y gwledydd a gynrychiolir mae Cymru, Canada, Denmarc, Gwlad yr Iâ, Iwerddon, Seland Newydd, Norwy, Awstralia, Singapore a’r Alban.

Bydd y gynhadledd yn ystyried ac yn archwilio cyfleoedd a heriau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru gan dynnu ar arbenigedd nifer o siaradwyr gan gynnwys Dr Sonny Singh, yr Athro Louise Hayward, a’r Athro Anne Looney.

Bydd ysgolion o Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol, partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon lewyrchus Y Drindod, hefyd yn cyflwyno ochr yn ochr â’r Gweinidog a chynrychiolwyr rhyngwladol eraill.

Cynhaliwyd y gynhadledd ddiwethaf yn Iwerddon yn 2019, yna bu’n rhaid ei gohirio am flwyddyn oherwydd pandemig COVID-19. Trefnwyd iddi gael ei chynnal ar-lein er mwyn cynnal momentwm mewn perthynas â rhai o’r datblygiadau a’r trafodaethau addysgol allweddol sy’n mynd rhagddynt ar draws y byd.

Yr Athrofa yw Canolfan addysg Y Drindod. Mae’n dod â rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon a chymwysterau proffesiynol i addysgwyr ym mhob sector o’r system addysg at ei gilydd; ynghyd â chyfleoedd a rhaglenni dysgu proffesiynol gyrfa-gyfan, a gynlluniwyd yn defnyddio ymchwil a chydweithio agos gydag ysgolion partner; arbenigedd ymchwil addysg, prosiectau ac arbenigedd; a’r Ganolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg (CEPRA).

Cynhelir trafodaethau grŵp a gweithdai yn ystod y Gynhadledd fydd hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan gynrychiolwyr o bartneriaeth Ysgolion y Brifysgol.

Yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor y Drindod fydd yn agor y gynhadledd, gyda sgwrs â’r teitl ‘Taith Addysg yng Nghymru; Gwireddu Diwygiadau’ a bydd Is-Ganghellor Y Drindod yr Athro Medwin Hughes yn rhannu gwaith y brifysgol a’i chenhadaeth – ‘Trawsnewid Addysg. Trawsnewid Bywydau.’

Nodyn i'r Golygydd

Daw IEAN ag arbenigwyr ymchwil a pholisi rhyngwladol at ei gilydd o genhedloedd a gwladwriaethau bach i rannu tystiolaeth ymchwil ac ymarfer, creu syniadau newydd a mynd i’r afael â phroblemau tymor hir mewn asesu addysgol. Mae’r rhwydwaith yn cynnig lle agored, diogel a chydweithredol lle caiff meddwl newydd ei sbarduno gan bedwar maes her: systemau asesu cynaliadwy, asesu ar gyfer cyfoethogi dysgu, defnydd o wybodaeth asesu a dyfodol asesu. Mae gwaith y rhwydwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar asesu a dilyniant dysgu, defnydd o ddata asesu, diwylliannau asesu a Covid-19.