£800 mil o gyllid ESRC wedi ei rhoi i brosiect ymchwil newydd a arweinir gan y Drindod Dewi Sant
22.02.2022
Mae prosiect ymchwil a arweinir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi derbyn £800 mil oddi wrth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Gwobr ar y cyd yw hon rhwng PCYDDS, Prifysgol Caeredin a Phrifysgol Coventry.
Llun gan yr Athro Gary Bunt
Mae’r prosiect tair blynedd, o’r enw ‘Digital British Islam: How do Cyber Islamic Environments impact everyday life?’, yn brosiect arloesol aml-sefydliad a arweinir gan Yr Athro Gary R. Bunt. Fel y Prif Ymchwilydd, bydd Yr Athro Bunt yn gweithio mewn cydweithrediad â’r Cyd-Ymchwilydd Dr Sariya Cheruvallil-Contractor (Prifysgol Coventry) a’r Cyd-Ymchwilydd Yr Athro Frédéric Volpi (Prifysgol Caeredin). Mae’r tîm hefyd yn cynnwys dau gymrawd ymchwil, Dr Khadijah Elshayyal a Dr Sadek Hamid, ynghyd â dau Gynorthwyydd Ymchwil Ôl-Doethurol (i’w penodi).
Mae ‘Cyber-Islamic environments’ (CIEs) yn derm ambarél a ddefnyddir i ddisgrifio sut y defnyddir gwahanol ffurfiau ar gyfryngau’r rhyngrwyd o fewn cyd-destunau Mwslimaidd amrywiol. Bydd yr ymchwil yn mapio sut mae CIEs yn tyfu ac yn esblygu mewn perthynas â newidiadau rhwng y cenedlaethau o fewn amrywiol gymunedau Mwslimaidd y DU. Bydd y tîm ymchwil yn archwilio sut mae arferion digidol yn llunio credoau bob dydd, ‘gwir’ a wyneb-yn-wyneb Mwslimiaid ym Mhrydain. Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar dair thema sy’n cynhyrchu llawer o ddadleuon cyhoeddus – awdurdod crefyddol, rhywedd, a gweithrediad gwleidyddol. Bydd y prosiect yn defnyddio archif ar-lein, arolwg a chyfweliadau.
Yn ymateb i’r newyddion, meddai’r Athro Gary Bunt:
“Mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol yn ogystal â’r ymchwil academaidd gwirioneddol cyntaf ar Islam Brydeinig Ddigidol yn y DU, a fydd yn cynnig buddion i gymunedau a sefydliadau yn ogystal ag academyddion yn y maes. Mae hefyd yn adeiladu ar fy ymchwil ar amgylcheddau seiber-Islamaidd.
Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm rhyngddisgyblaethol profiadol, sy’n cyfrannu arbenigedd cyflenwol ar Islam a Mwslimiaid yn y DU.”
Yn sylwi ar yr ymchwil, ychwanegodd y Cyd-Ymchwilydd Dr Sariya Cheruvallil-Contractor:
“Mae hyn yn gyfle gwych i ymgymryd â darn o ymchwil sy’n archwilio arwyddocâd cynyddol y digidol neu’r ‘rhithiol’ wrth siapio’r ‘real’. Gobeithiwn y bydd ein canfyddiadau ymchwil yn cynorthwyo dealltwriaeth well o grefydd ddigidol. Drwy wneud felly, bydd ein hymchwil yn creu mannau rhithiol a real ar gyfer trafodaethau ystyrlon am Islam a Mwslimiaid ym Mhrydain.”
Yn adlewyrchu ar y prosiect, meddai’r Cyd-Ymchwilydd Yr Athro Frédéric Volpi:
“Mae Prifysgol Caeredin yn falch o fod yn bartner i’n cydweithwyr yn PCYDDS a Phrifysgol Coventry er mwyn dwyn ynghyd ein cyd-arbenigedd ar effaith a dylanwad y digidol ar fywydau Mwslimiaid ar draws y DU. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld tro byd-eang digynsail tuag at y digidol, sy’n golygu nad yw prosiect fel hwn erioed wedi bod mor bwysig.”
Rhoddodd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol grant werth £804,000 ar gyfer y prosiect tair-blynedd a fydd yn dechrau ym Mai 2022. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddod o hyd i wybodaeth bellach am yr ymchwil: https://gtr.ukri.org/projects?ref=ES%2FW002175%2F1
Cefnogwyd y gwaith gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol [rhif y grant yw ES/W002175/1].
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076