Academydd o’r Drindod Dewi Sant yn derbyn Gwobr ryngwladol Carlos Jaschek
25.10.2022
Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o gyhoeddi bod Dr Nicholas Campion, cyfarwyddwr rhaglen Meistr y Brifysgol mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg wedi derbyn Gwobr Carlos Jaschek, y wobr ryngwladol flaenllaw mewn seryddiaeth ddiwylliannol.
Cyflwynir y wobr bob dwy flynedd gan y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Seryddiaeth mewn Diwylliant i gydnabod cyfraniadau eithriadol i astudio perthynas seryddiaeth a diwylliant ledled y byd. Eleni, cyflwynwyd y wobr yn ystod cynhadledd y Gymdeithas yn Timosoara, Rwmania ac mae’n gydnabyddiaeth sylweddol o waith Dr Campion sydd wedi sicrhau bod y brifysgol yn un o arweinyddion y maes.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Campion, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr yr Athrofa Cytgord yn y Drindod Dewi Sant:
“Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr hon a hoffwn ddiolch i’r Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Seryddiaeth mewn Diwylliant am yr anrhydedd arbennig hon.
Pan edrychwch ar yr unigolion sydd wedi ennill y wobr hon o'r blaen, mae'n fraint fawr i gael fy ngwaith wedi’i gydnabod fel hyn. Rwy’n teimlo bod fy ngwaith yn cynrychioli un o gryfderau mawr y brifysgol - ei rôl fel arloeswr ac fel arweinydd wrth agor disgyblaethau academaidd newydd.”
Mae Seryddiaeth Ddiwylliannol yn canolbwyntio ar yr holl ffyrdd y mae seryddiaeth yn effeithio ar ddiwylliant dynol o grefydd i wyddoniaeth, ac o wleidyddiaeth i'r celfyddydau. Mae gwaith ysgrifennu Dr Campion ei hun yn nodedig am ei ehangder enfawr o ddewiniaeth Babilonaidd hynafol o’r sêr, i wleidyddiaeth a seryddiaeth ers yr unfed ganrif ar bymtheg a moeseg archwilio’r gofod modern. Mae'n adnabyddus am ei ddwy gyfrol History of Western Astrology, y gwaith diffiniol ar y pwnc. Mae hefyd yn Aelod o Bwyllgor Gwaith Rhyngwladol y cynadleddau ar Ysbrydoliaeth Ffenomena Seryddol.
Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Dr Campion wedi derbyn canmoliaeth gan nifer o ffigyrau blaenllaw yn y maes. Dywedodd Dr Fabio Silva, Uwch Ddarlithydd mewn Modelu Archeolegol ym Mhrifysgol Bournemouth a chyd-sylfaenydd a chyd-olygydd y Journal of Skyscape Archaeology, ac un o enillwyr blaenorol y wobr:
“Mae’r wobr hon yn deyrnged addas i gorff ysgolheictod ac ymchwil Dr Campion lle mae wedi archwilio rôl seryddiaeth ar draws diwylliant - mewn crefydd, gwleidyddiaeth, athroniaeth, y celfyddydau a’r amgylchedd adeiledig. Trwy ei swydd fel cyfarwyddwr yr M.A. mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg ers 2004 (ers 2007 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant) mae wedi dysgu cenhedlaeth o fyfyrwyr am bwysigrwydd yr awyr mewn diwylliant hynafol a modern.”
Dywedodd Ed Krupp, Cyfarwyddwr Arsyllfa Griffith Los Angeles:
“Mae Dr Campion wedi darparu model calonogol i eraill, a bydd y gydnabyddiaeth hon yn helpu i amlygu’r meddylgarwch a’r cyfranogiad gweithredol y mae wedi’i gyflwyno i’n hastudiaethau.”
Ychwanegodd J. McKim Malville, Athro Emeritws a chyn Gadeirydd Astrogeoffiseg yn yr Adran y Gwyddorau Astroffiseg a Phlanedol ym Mhrifysgol Colorado, sydd hefyd wedi ennill y wobr yn y gorffennol:
“Mae gwaith Dr Campion yn dangos sut mae cymaint o agweddau ar ddiwylliant dynol yn gysylltiedig â’n syniadau am seryddiaeth, trwy ei ddysgeidiaeth a’i ymchwil, wedi agor ein llygaid i gymhlethdod a chyfoeth ein hymwneud â’r nefoedd.”
Sefydlwyd y wobr i goffau cyfraniadau rhagorol Carlos Jaschek a fu farw yn Ebrill 1999, yn athro emeritws ym Mhrifysgol Strasbwrg, cyfarwyddwr Arsyllfa Strasbwrg a chrëwr y ganolfan wybodaeth ar gyfer data stellar. Roedd yn astroffisegydd adnabyddus a weithiodd yn bennaf gyda ffiseg serol a thetaxonomeg sbectra serol.
Gwybodaeth Bellach
Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076