Academyddion PCYDDS yn cyfrannu at gyhoeddiad newydd sy’n ymwneud â chwarae
09.05.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o ddatgan cyhoeddiad y llyfr Introduction to Play, sydd wedi cael ei olygu gan yr Athro Cysylltiol, Dr Jane Waters-Davies, ac sy’n cynnwys cyfraniadau gan nifer o staff academaidd.
Mae’r gwerslyfr hanfodol hwn, ar gyfer plant 0-8 mlwydd oed, yn archwilio natur chwarae, pam mae’n bwysig, a lle a sut mae’n digwydd. Mae’r llyfr yn ein hannog ni i feddwl yn feirniadol am chwarae a darpariaeth chwarae, deall sut olwg sydd ar arfer da, gweld sut mae theori yn cael ei gweithredu mewn sefyllfaoedd byd go iawn, ac archwilio’r materion, dadleuon a’r heriau sy’n rhan o chwarae a dysgu cynnar.
Cyn lansio’r llyfr, meddai Dr Jane Waters-Davies, PCYDDS:
“Bydd y gwerslyfr hwn yn ddarlleniad hanfodol i fyfyrwyr, yn ogystal ag ymarferwyr, yn darparu negeseuon allweddol sy’n ymwneud â chwarae plant ac a gasglwyd ar draws ystod eang o gyd-destunau a safbwyntiau. Mae’r holl gyfranwyr at y llyfr hwn yn arbenigwyr yn eu gwahanol feysydd, ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu tynnu eu lleisiau ynghyd mewn llyfr mor addysgiadol.”
Cynhelir y digwyddiad ar-lein hwn ar Fai 18fed am 5pm, gan archwilio themâu sy’n codi o’r llyfr ac sy’n llunio penderfyniadau a wneir bob dydd ynglŷn â darpariaeth chwarae. Caiff cyflwyniadau gan awduron y penodau eu dilyn gan drafodaeth panel Holi ac Ateb.
COFRESTRWCH – yma
Cyfranwyr PCYDDS:
- Dr Glenda Tinney
- Nanna Ryder
- Natalie Macdonald
- Alison Rees Edwards
- Alison Murphy
- Charlotte Greenway
- Lara Hutchings
Amdano’r golygydd:
Mae Dr Jane Waters-Davies yn Athro Cysylltiol Addysg Plentyndod Cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn wreiddiol, yn athrawes yn Llundain, mae hi wedi gweithio ym maes addysg uwch yng Nghymru am dros 20 mlynedd, yn arwain rhaglenni Astudiaethau Plentyndod Cynnar ac Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae Jane bellach yn gweithio gyda myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ym maes addysg, ac mae hi’n aelod o banel ymgynghorol Llywodraeth Cymru ar faterion blynyddoedd cynnar. Gwnaeth ei doethuriaeth archwilio’r defnydd y gellid ei wneud o ryngweithio ac asiantaeth plant ym mannau awyr agored a dan do’r ysgol yn ystod y blynyddoedd cynnar. Mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud â chwarae a dysgu gan blant ifanc, chwarae awyr agored a datblygiad cysyniadau cynnar, yn ogystal ag addysg broffesiynol y sawl sy’n gweithio gyda phlant ifanc. Mae hi’n frwdfrydig dros bwysigrwydd addysgwyr plentyndod cynnar yn deall cymhlethdodau’r gwaith maent yn ei wneud, a’u bod nhw’n gallu pleidio ar ran plant dros ddysgu chwareus, a chael eu parchu am eu proffesiynoliaeth anferth.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk