Andrew Killen a pham mae Ymchwil a Datblygu mor bwysig


31.03.2022

Mae Andrew Killen yn Gydymaith Ymchwil ar dîm MADE Cymru. Fel arfer, mae'n mynd o amgylch Cymru’n cydweithio â gweithgynhyrchwyr. Fe wnaethom ni lwyddo i gael gafael arno’n mwynhau paned haeddiannol o de a gofyn ambell gwestiwn iddo am ei arbenigedd ac am effaith y gwaith ymchwil a datblygu mae’n ei wneud.

Andrew Killen is a Research Associate on the MADE Cymru team.

Beth yw eich cefndir?

Yn gynnar yn fy ngyrfa, roeddwn i’n gweithio ym maes adeiladu ac yna symudais i'r diwydiant pŵer lle bues i’n gweithio ar orsafoedd pŵer olew a nwy. Roedd hyn yn help mawr i mi ddatblygu'r profiad ymarferol rydw i’n dal i alw arno.

Dechreuodd fy nhaith addysgol yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant flynyddoedd lawer yn ôl lle dechreuais ar BEng mewn Peirianneg Beiciau Modur. Yna, fe wnes i barhau â’m hastudiaethau i gwblhau MEng integredig.

Roeddwn i'n arbenigo mewn technoleg peiriannau ac yn cymryd diddordeb mawr mewn modelu cyfrifiadurol. O'r fan hon, cymerais ran yn y rhaglen EngD ym Mhrifysgol Abertawe yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer Rolls-Royce Plc lle edrychais ar effeithiau diffygion lefel micron mewn Titaniwm 64.

Beth yw eich rôl yn MADE Cymru?

Rwy’n arbenigo mewn Dadansoddiad Strwythurol FEA-Efelychiadau Statig (Dadansoddiad Statig Llinol, Dadansoddiad Statig Aflinol, Dadansoddiad Lled-Statig Aflinol), Efelychu Llwyth Deinamig (Dadansoddiad Trothol Eglur Aflinol, Dadansoddi Ymateb Dros Dro, Dadansoddi Blinder), Dadansoddiad Thermol (Trosglwyddo Gwres Cyflwr Sefydlog Aflinol), Dadansoddiad Dirgrynol (Ymateb Amlder), Bwclo Llinellol, Efelychu Toriadau, Optimeiddio Màs, Dyluniad Cynhyrchiol yn Seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial.

Felly pam ddylai gwneuthurwr gydweithio â chi a'r tîm?

Mantais gystadleuol

O’m profiad ymchwil a datblygu gyda’r tîm ADE yma yn PCYDDS, rydw i wedi darganfod mai un o’r manteision allweddol yw creu mantais gystadleuol i gwmnïau sefyll allan oddi wrth eu cystadleuwyr.

Mae arloesi'n sbarduno llwyddiant ym myd gweithgynhyrchu a thrwy integreiddio technoleg fodern i fusnes gall sbarduno twf gwirioneddol. Mae'n ddealladwy y gall cwmnïau fod yn betrusgar i ddechrau arbrofi gyda thechnoleg newydd gan ofni arafu cynhyrchiant, dyma lle y gallwn ni helpu.

Gyda'n tîm o weithwyr proffesiynol, gellir gadael yr holl waith ymchwil a datblygu wrth weithredu technoleg newydd i ni gan sicrhau integreiddio di-dor a thrwy hynny gymryd y risg oddi wrth y cleient. 

Mae’n helpu cwmni i sefyll allan

Gall ymchwil a datblygu wella busnes trwy ei helpu i fod yn wahanol i bawb arall. Mae cael atebion unigryw ar gyfer problemau peirianneg presennol nid yn unig yn ennyn diddordeb yn eich cynnyrch ond hefyd yn ei gwneud hi'n anodd iawn i bobl eraill ei ddyblygu. Mae hyn yn rhoi mantais wirioneddol mewn marchnadoedd cystadleuol.

Er enghraifft, yn ystod prosiect diweddar yma yn MADE Cymru yn gweithio gyda meddalwedd dylunio cynhyrchiol a yrrir gan ddeallusrwydd artiffisial, cafodd cydrannau newydd eu creu yn y fath fodd fel y byddai bron yn amhosibl i gwmni arall eu dyblygu.

Mae dyluniadau unigryw yn denu sylw, ac mae'n eithaf cyffredin i rywun wneud sylwadau ar ba mor ddyfodolaidd neu estron yw'r dyluniadau newydd. Mae dylunio cynhyrchiol hefyd yn helpu i leihau'r amser a gymerir yn ystod y broses ddylunio wrth i nifer o opsiynau gael eu cynhyrchu ar gyfer amodau ffiniau penodol gan wella cynhyrchiant.   

Mae gennym fynediad at feddalwedd peirianneg uwch

Gan dynnu ar ddegawdau o brofiad ym maes peirianneg a gwyddoniaeth, gall y tîm Ymchwil a Datblygu yma yn MADE Cymru helpu cwmnïau i ddod o hyd i atebion i broblemau cymhleth gan ddefnyddio meddalwedd peirianneg uwch. Weithiau ni all y rhain fod yn ariannol hyfyw i gwmnïau fuddsoddi ynddynt. Gall MADE Cymru ymdrin â’r gwaith ymchwil a datblygu gan ddefnyddio'r feddalwedd uwch yma heb fod angen i'r cleient brynu trwyddedau drud na'r angen i gyflogi gweithredwyr medrus.

Enghraifft o hyn fyddai prosiectau a gynhaliwyd gennym ni a oedd yn edrych ar fodelu dynameg hylif cyfrifiadurol ar gyfer dyfeisiau meddygol. Ynghyd ag optimeiddio torfol topolegol ar gyfer cydrannau a weithgynhyrchwyd i ganiatáu gweithrediadau codi diogel.  

Diogelu busnesau at y dyfodol

Mae ymchwil a datblygu yn helpu i ddiogelu busnesau at y dyfodol ac yn eu cadw ar flaen y gad drwy ddatgelu technolegau neu ddulliau newydd ac nad oedd yn hysbys cyn hynny. Mae datblygiadau mewn technoleg peirianneg yn tyfu ar gyfradd esbonyddol ac nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod y cwmnïau mwyaf llwyddiannus yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil a datblygu helaeth sy'n caniatáu iddynt gynllunio ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol a newidiadau yn y farchnad.

Yma yn MADE Cymru mae gennym dîm talentog o arbenigwyr sy’n arbenigo mewn gweithredu ac addysgu systemau ymreolaethol a digidol Diwydiant 4.0 sef dyfodol gweithgynhyrchu, ac rydym yma i roi help llaw i chi wrth i chi foderneiddio eich busnes.

Byddwch yn arweinydd yn eich sector

Mae cwmnïau gweithgynhyrchu sy'n cymryd ymchwil a datblygu o ddifrif yn dangos i'r byd bod y cwmni'n bwriadu aros ar flaen y gad yn eu sector. Mae hyn yn ei dro yn denu'r aelodau staff mwyaf talentog ac addas sy'n cryfhau craidd y busnes.     

Bydden ni wrth ein boddau’n gweithio gyda chi

Mae ein cyllid yn dod i ben yn fuan a dim ond ychydig wythnosau sydd ar ôl i weithio gyda’r tîm ADE. Anfonwch e-bost atom ar MADE@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch 01792 481199.  Hyd yn oed os nad yw'r prosiect hwn yn addas i chi, mae mentrau gwych eraill yn y Drindod Dewi Sant a allai fod yn briodol.

Ariennir yn Llawn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru. Darperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk