Anne-Marie Imafidon yn sgwrsio â’r Athro Elena Rodriguez-Falcon: Penwythnos y Gaeaf, Gŵyl y Gelli
06.10.2022
Bydd yr Athro Elena Rodriguez-Falcon FREng, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ymuno ag Anne-Marie Imafidon, hyrwyddwr a siaradwr ar arloesi ac amrywiaeth mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), i sgwrsio ar y llwyfan yn ystod Penwythnos y Gaeaf Gŵyl y Gelli nos Wener, 25 Tachwedd.
Teitl y digwyddiad yw She's in Ctrl, How women can take back Tech ac fe’i cynhelir ar Lwyfan Cymru (Neuadd Fawr Castell y Gelli) am 7pm.
Bydd y sesiwn yn trafod pam mae menywod heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes technoleg. Pam mae hyn yn bwysig a beth gallwn ei wneud amdani?’
Yn She's In CTRL, mae Anne-Marie Imafidon yn mynnu nad yw technoleg yn rym na ellir ei newid. Nid yw ychwaith yn faes i’r elît yn unig. Mae yn ein cartrefi ac yn ein dwylo ni. Yn hytrach na theimlo’n ddi-rym i wneud newidiadau yn y ffordd mae technoleg yn gweithio ac yn methu, mae hi’n dadlau ei bod yn bryd cael lle yn yr ystafell lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Neu’n well byth, creu ein hystafelloedd technoleg ein hun.
Anne-Marie Imafidon yw crëwr y fenter gymdeithasol, Stemettes, sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod i mewn i wyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg.
Mae’r Athro Rodriguez-Falcon yn un o’r arweinwyr mwyaf arloesol ym maes diwygio addysg peirianneg yn y DG. Yn dilyn pum mlynedd yn gweithio fel peiriannydd mecanyddol ym Mecsico, cafodd effaith enfawr ym Mhrifysgol Sheffield, gan ganolbwyntio ar fenter, addysg peirianneg ac amrywiaeth.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae wedi dangos arweinyddiaeth ragorol wrth sefydlu’r sefydliad addysg uwch newydd cyntaf yn y DG sy’n ymroddedig i beirianneg. Mae ei hysbrydoliaeth hithau wedi arwain at fabwysiadu addysgeg peirianneg sy’n canolbwyntio ar heriau yn NMITE (Athrofa Fodel Newydd ar gyfer Technoleg a Pheirianneg) a groesawodd ei myfyrwyr cyntaf yn ddiweddar, er gwaethaf y problemau a grëwyd gan bandemig Covid-19.
Mae hi wedi cael cydnabyddiaeth drwy nifer o wobrau a chydnabyddiaethau proffesiynol, gan gynnwys cael ei hethol yn ddiweddar yn Gymrawd o’r Academi Frenhinol Peirianneg, ac yn ystod yr haf eleni fe’i penodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk