Anrhydeddu Graddedigion Tystysgrif Ôl-radd Cyfieithu ar y Pryd ar Faes yr Eisteddfod.
08.08.2022
Mae tair myfyrwraig sydd newydd raddio gyda chymhwyster ôl-radd Cyfieithu ar y Pryd o Brifysgol Cymru Y Drindod wedi cael eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo arbennig ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yr wythnos ddiwethaf.
Mae’n rhaglen unigryw yn yr ystyr mai dyma’r unig gymhwyster o’i fath yng Nghymru ac mae’n derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru sydd wedi gwobrwyo tair myfyrwraig eleni, sef Sioned Pugh o’r Drindod Dewi Sant a Ffion Parrington ac Amy Mason o Rondda Cynon Taf.
I Sioned, “Roedd ennill y wobr yn syrpreis hyfryd ac yn gwbl annisgwyl! Gwnes i fwynhau’r profiad o ddysgu, ymchwilio ac ysgrifennu’n academaidd eto yn fawr. Roedd y darlithwyr fu’n ein tywys ni’n wych, yn hawdd iawn gweithio gyda nhw, ac mae eu hadborth yn hynod o werthfawr o ganlyniad i’w profiad estynedig ar lefel broffesiynol!”
Meddai Amy Mason, “Mae’n wych bod y Brifysgol yn cydnabod y sgil ac yn cynnig hyfforddiant. Mae galw am gyfieithwyr ar y pryd ac rydw i bellach yn rhoi’r sgiliau a ddysgais yn rhan o’r cwrs ar waith yn fy swydd. Mae’r sgiliau a’r profiad sydd gan arweinwyr y cwrs yn hynod werthfawr a bob amser yn barod i gynnig cymorth a chefnogaeth i ni – yn enwedig yn ystod cyfnod heriol y pandemig.”
Dywedodd Ffion Parrington, “Dyma gwrs difyr ar y naw, ac yn gyfle gwych i ddysgu rhagor. Roedd clywed fy mod i wedi ennill y wobr yn hwb aruthrol i’m hyder ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Gymdeithas a’r Brifysgol am fod mor hael. Cefais hefyd gyfle i ddod i adnabod nifer o gyfieithwyr eraill o bob cwr o Gymru.”
Nod y cwrs yw sicrhau bod yna ddarpariaeth safonol oddi fewn i’r sector addysg uwch sy’n cynnig hyfforddiant cydnabyddedig ac addas ar gyfer unigolion sy’n dymuno mentro i’r maes.
Dywedodd Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru,
“Hoffem longyfarch y tair yn wresog ar ennill gwobr y Gymdeithas i’r myfyrwyr mwyaf addawol. Roeddem yn falch o glywed fod dilyn y Dystysgrif wedi bod yn brofiad gwych i’r tair ohonyn nhw a’u bod yn llawn canmoliaeth i’r cwrs.”
Mae’n gwrs galwedigaethol sy’n ymateb yn uniongyrchol i strategaeth Llywodraeth Cymru: Cymraeg 2050 drwy greu cyflenwad parod o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd galluog a chymwysedig. Mae’r cwrs hefyd yn sicrhau bod yna weithlu cymwys fydd yn medru ymateb i ofynion statudol Safonau’r Iaith Gymraeg gan gefnogi’n ymarferol yr egwyddor i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Mae’r myfyrwyr yn astudio’r cymhwyster yn rhan amser, fel arfer tra’n gweithio. Nod y rhaglen yw paratoi myfyrwyr i fedru mynd allan i’r byd gwaith ac i gyfieithu ar y pryd mewn ystod eang o gyd-destunau gan hefyd fedru ymdopi gyda’r datblygiadau diweddar yn y maes o ran technoleg er mwyn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o safon wyneb yn wyneb, o bell ac yn ‘hybrid’.
Yn ystod y cwrs mae myfyrwyr yn derbyn cyfarwyddyd gan gyfieithwyr ar y pryd profiadol sy’n gweithio’n broffesiynol yn y maes. Hefyd cynigir cyfle i fyfyrwyr ymweld â’r Senedd yng Nghaerdydd a chwrdd â’r tîm o gyfieithwyr sy’n gweithio yno ynghyd â dilyn profiad gwaith yn y maes.
Dywedodd Lynwen Davies, un o ddarlithwyr y cwrs;
'Dros y blynyddoedd rydym wedi bod wrthi'n datblygu adnoddau i gefnogi'r dysgu ac addysgu ar y Dystysgrif hon; o'r Llwyfan Cyfieithu ar y Pryd a lansiwyd yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019 i'r E-lyfrau sydd i'w lansio yn Eisteddfod Tregaron eleni. Mae cyfieithu ar y pryd yn wasanaeth proffesiynol, a rhaid i'r hyfforddiant yn y maes adlewyrchu hynny, ac felly mae'r cydweithio sy'n bodoli rhwng y Brifysgol a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn un rydym yn hynod falch ohono. Hoffwn longyfarch y myfyrwyr hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ennill gwobrau'r Gymdeithas eleni.'
https://cyfieithuarypryd.cymru/
https://adnoddau.s3.eu-west-2.amazonaws.com/E-lyfrau+Cyfieithu/E-lyfr+Cyfieithu+Ar+Y+Pryd.pdf
Y bwriad yn y dyfodol yw cynnig ysgoloriaeth i fyfyrwyr gyda’r Gymdeithas yn penderfynu ar yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am y cwrs Cyfieithu ar y Pryd, ebostiwch rhagoriaith@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476