Ansawdd Mentrus Newydd mewn Prifysgolion wedi dechrau yn Y Drindod Dewi Sant
03.05.2022
Mae Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch (ASA) wedi cyhoeddi'n ddiweddar mai cyfres o 14 o Ddatganiadau Meincnod Pwnc yw'r cyntaf i ystyried yr angen i arfer addysgol mewn pynciau Prifysgol ystyried nodau cymdeithasol ehangach. Rhoddir sylw i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, Datblygu Cynaliadwy a gofynion pobl anabl, yn ogystal â'r galw am addysg menter ac entrepreneuriaeth sy'n benodol i’r pwnc.
Mae gwefan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn esbonio bod "Datganiadau Meincnod Pwnc yn disgrifio natur yr astudio a'r safonau academaidd a ddisgwylir gan raddedigion mewn meysydd pwnc penodol. Maent yn dangos yr hyn y byddai’n rhesymol disgwyl i raddedigion ei wybod, ei wneud a'i ddeall ar ddiwedd eu hastudiaethau."
Yn 2007 – 2011 arweiniodd Y Drindod Dewi Sant waith yr Academi Addysg Uwch, ac yn seiliedig ar natur ryngddisgyblaethol ei ymchwil, comisiynwyd yr Athro Emeritws Andy Penaluna gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd i sefydlu a chadeirio canllawiau sicrhau ansawdd cyntaf y byd ar sut i ddysgu i fod yn fwy entrepreneuraidd wrth ddysgu mewn Prifysgolion. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig ymhlith y rhai sydd wedi benthyca'n agored o'r gwaith hwn, ac yn ôl cyn-Brif Swyddog Gweithredol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a gomisiynodd Andy i arwain y datblygiad, mae wedi cael effaith sylweddol. Pan dorrodd y newyddion ar Twitter, roedd gan yr Athro Andrew Henley, Llywydd y Sefydliad Busnesau Bach a Rheoli, un gair i'w ddweud, "waw!"
Meddai Andy wrthym, "Ar y pryd, nid oedd y rhan fwyaf o academyddion yn edrych y tu hwnt i'w hysgolion busnes na rheolwyr, gan eu bod mewn sefyllfa dda i addysgu arferion busnes. Ar y pryd roeddwn i wrthi’n dysgu am yr holl wybodaeth a sgiliau y gallai disgyblaethau eraill eu cynnig, er enghraifft, pwy gwell i'ch perswadio na myfyriwr Theatr a Drama a allai eich argyhoeddi eu bod yn berson hollol wahanol?"
Aeth ymlaen i egluro, "Bellach rydyn ni wedi cwblhau’r cylch llawn, oherwydd caiff y canllawiau rydyn ni wedi eu llunio eu defnyddio erbyn hyn i roi gwybodaeth i arbenigwyr pwnc y Brifysgol. Efallai nad yw Archaeoleg, a Groeg a'r Clasuron yn fannau amlwg i edrych arnyn nhw, ond maen nhw’n dda iawn am roi dadleuon da at ei gilydd pan nad oes modd darganfod rhai ffeithiau. Gwneud penderfyniadau heb yr holl dystiolaeth yw'r hyn y mae entrepreneuriaid yn ei wneud o hyd, felly dyma ni’n benthyca o'u profiad nhw i wneud y cysylltiadau."
Y 14 pwnc cyntaf i gofleidio meddwl y tîm hwn yw:
Archaeoleg
Cemeg
Clasuron a Hanes yr Henfyd (gan gynnwys Astudiaethau Bysantaidd a Groeg Modern)
Cyfrifiadureg
Cwnsela a Seicotherapi
Troseddeg
Astudiaethau Plentyndod Cynnar
Gwyddorau'r Ddaear, Gwyddorau Amgylcheddol ac Astudiaethau Amgylcheddol
Gwyddoniaeth Fforensig
Daearyddiaeth
Hanes
Astudiaethau Tai
Plismona
Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol
Meddai Andy i gloi, "Ein gwaith ni yn yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd oedd bod y cyntaf i ystyried jig-so'r hyn y gall gwahanol adrannau'r Brifysgol ei gynnig, ac chreodd hynny'r cefndir i ganllawiau eraill gan yr ASA ar Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, a fenthyciodd ein dull gweithredu. Mewn gwirionedd mae’r naill a’r llall yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd, oherwydd mae'r ddau yn dibynnu ar fod yn arloesol a meddwl am y dyfodol, a dyna beth sydd angen i ni feddwl amdano fel Prifysgolion."
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk