Arddangosfa ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw: Cysylltiadau Creadigol rhwng Cymru ac Iwerddon' yn agor yn Amgueddfa Ceredigion y mis hwn


04.05.2022

Bydd arddangosfa o gelf newydd a gomisiynwyd gan brosiect ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw: Croesiadau Diwylliannol rhwng Cymru ac Iwerddon’ yn agor yn Amgueddfa Ceredigion, am 2.00 yh, ar ddydd Sadwrn 14 Mai. 

A new exhibition of artworks commissioned by the project ‘Ports, Past and Present: Cultural Crossings between Ireland and Wales’ opens 2pm, Saturday 14 May, at Ceredigion Museum.

Mae prosiect ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw’ yn ymwneud â gwahanol borthladdoedd a’u cymunedau naill ochr Môr Iwerddon: Dulyn, Rosslare, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro. Y nod yw cynyddu nifer yr ymwelwyr a chyfoethogi profiadau twristiaid yn y pum cymuned, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth yn lleol am dreftadaeth naturiol a diwylliannol y porthladdoedd a’u pwysigrwydd i dwf economaidd yn y dyfodol. Mae’r arddangosfa hon yn ddetholiad o waith sy’n deillio o ddeuddeg comisiwn, ac yn cynnwys barddoniaeth, chwedlau, sgript radio, cerfluniau a serameg, animeiddio, ffotograffiaeth a ffilm. Mewn gair a llun, mae’r arddangosfa yn adlewyrchu bywyd ar y môr, ar yr arfordir ac o dan y tonnau dros amser maith: ac yn fan cychwyn i sawl siwrnai chwilfrydig yn y dyfodol.

Dangosir gwaith gan Rua Barron, David Begley, Zillah Bowes, Gillian Brownson, Kathy D’Arcy, Jon Gower, Robert Jakes, Julie Merriman, Peter Murphy, Augustine O Donoghue, Marged Pendrell, Hannah Power, Peter Stevenson and Jacob Whittaker. Gwelwch wefan y prosiect am fwy o wybodaeth am eu gwaith ar gyfer ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw’: https://creative-connections.pubpub.org/

Cynhelir y lansiad yn rhad ac am ddim, 2.00-4.00yh, ddydd Sadwrn 14 Mai 2022. Croeso i bawb! Bydd Cysylltiadau Creadigol rhwng Cymru ac Iwerddon yn rhedeg yn Amgueddfa Ceredigion tan 25 Mehefin 2022, cyn symud ymlaen i leoliadau eraill yn Rosslare, Doc Penfro, Dulyn, Abergwaun a Chaergybi.

Mae’r Amgueddfa ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn, o 11.00 yb tan 4.00 yh. Mae’n bosibl mynd mewn cadair olwyn i’r rhan fwyaf o’r safle. Ond, oherwydd natur hanesyddol rhai o’r adeiladau, gallai mynediad fod yn anodd. Mae lifft i bob llawr. Mae toiledau hygyrch ar gael ar y llawr gwaelod, wrth y siop a’r ganolfan groeso. Mae croeso i Gŵn Cymorth ddod i’r amgueddfa.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Liz Edwards: e.edwards@wales.ac.uk

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen Iwerddon Cymru. Pedwar sefydliad sy’n rhedeg y prosiect hwn, sef Prifysgol Corc a Chyngor Sir Wexford yn Iwerddon, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Aberystwyth yng Nghymru.

the Arts in Ireland and Wales and the Ports Past and Present Project is delighted to announce the awarding of twelve commissions of £5,000 each to creative practitioners based in Ireland and Wales.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076