Artist ifanc o Gymru wedi ennill Gwobr Gymreig bwysig
22.04.2022
Mae Tomos Sparnon, un o raddedigion Celf Gain PCYDDS, wedi ennill Gwobr Datblygu Jiwbilî Arian werth £2,500, gwobr fawreddog a ddyfarnwyd yn flynyddol gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
Mae Tomos, sy’n 24 mlwydd oed, wedi ennill sawl gwobr fel arlunydd; mae ef hefyd yn gerflunydd medrus, yn defnyddio deunyddiau clai a charreg, sydd wedi arddangos ei waith yn y ddau faes hyn.
Gwnaiff y wobr hon alluogi Tomos i greu cyfres o gerflunweithiau cyfoes ar thema’r Fam a’r Plentyn. Gobeithir y caiff y gweithiau gorffenedig eu harddangos mewn amrywiol orielau o gwmpas Cymru yn y dyfodol agos; gwnaiff Tomos ddefnyddio’r cyfleoedd hyn hefyd ar gyfer rhoi sgyrsiau am y cerflunweithiau a’r broses a ddefnyddiwyd ganddo i’w creu.
Wedi’i sefydlu yn 1993 fel Urdd Lifrai Cymru er mwyn hyrwyddo addysg, y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru, rhoddwyd i’r Urdd, yn 2013, Siarter Frenhinol, a chafodd hi ei hailenwi’n Gwmni Lifrai Anrhydeddus Cymru (Worshipful Livery Company of Wales - WLCOW).
Mae WLCOW wedi ymrwymo ei hun i helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu eu talentau a’u sgiliau drwy gynnal rhaglen Wobrau o ysgoloriaethau a bwrsarïau ar gyfer myfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal â phrentisiaid a phobl ifanc sydd yn y lluoedd arfog. Yn 2018, dathlodd y Cwmni, a sefydlwyd yn 1993, ei Jiwbilî Arian.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk