Artist Preswyl Y Drindod Dewi Sant yn dylunio a chreu tlysau ar gyfer Gwobrau’r Selar.
18.02.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth ei bodd bod un o'i artistiaid preswyl – Ffion Richardson - wedi cael cyfle i ddylunio tlysau ar gyfer Gwobrau’r Selar 2021.
Daw Ffion Richardson o Sir Benfro, ac fe raddiodd o Goleg Celf Abertawe'r llynedd ar ôl astudio’r cwrs BA Patrwm Arwyneb, lle'r oedd hi’n dylunio ar gyfer arwynebau meddal fel tecstilau, a hefyd arwynebau caled fel cerameg. Ffion hefyd yw perchennog ‘Clai gan Ffion’, busnes bach y mae wedi sefydlu ar Instagram sy’n gwerthu gemwaith cerameg.
Mae gwaith Ffion fel arfer yn efelychu naws y môr sy’n cael ei fynegi yn ei arddull haniaethol a phaentiadol. Mae’n mwynhau defnyddio lliw mewn ffordd hyderus ac amlwg gan greu rhywbeth sydd â harmoni wrth ddewis lliwiau cryf i fynd gydag un neu ddau liw ysgafnach er mwyn i’r cyfansoddiad fod yn gytbwys.
Mae arddull Ffion yn cael ei gyfleu yn ei sgwariau collage bach sydd wedi cael ei greu ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni. Mae bob sgwâr yn unigryw, ac wedi’u dylunio wrth wrando ar ganeuon Cymraeg. Cafodd rhai elfennau o eiriau/ enwau’r caneuon ei rhoi yn y gwaith, er enghraifft dynodiadau i ‘Môr o Gariad’ gan Meic Stevens; ‘Aberystwyth yn y Glaw’ gan Ysgol Sul; ‘Cwîn’ gan Gwilym i enwi ond ychydig. Defnyddiodd Ffion hen ddarnau o ffabrig sydd wedi cael ei sgrîn-printio, carpiau o garthenni Cymraeg, ac yna’u torri nhw’n haniaethol a dewis lliwiau penodol er mwyn creu’r un awyrgylch a glywir yn y gerddoriaeth.
Wrth ymateb i’r cyfle i ddylunio’r tlysau ar gyfer y gwobrau eleni, dywedodd Ffion Richardson,
“Braint oedd creu’r gwobrau am Gwobrau’r Selar 2021, mae ‘di bod yn gyfle anhygoel i uno fy rhinweddau cerddorol gyda fy ngwaith i greu rhywbeth sbeshal.
“Mae’r broses o ailddefnyddio / ailgylchu hen racs o ffabrig a’i dorri nhw’n abstract wedi bod yn weithred lyfli ac yn profi pa mor bosib yw hi i greu rhywbeth newydd allan o wastraff!”
Mae Gwenllian Beynon yn Uwch Ddarlithydd mewn Celf ac yn gydlynydd y ddarpariaeth Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant, ac fe nododd: “Mae’n wych i weithio gyda gwobrau’r Selar unwaith eto eleni. Mae cysylltu gyda’r byd cerddoriaeth a bod yn rhan o ddathlu rhan hanfodol diwylliant Cymru gyda chelf i ni yma yng ngholeg Celf Abertawe yn beth hynod o wych i’w wneud.
“Mae Ffion wedi creu gwobrau hyfryd a phob un yn unigryw wedi gwneud â llaw allan o ffabrig, ac mae’n braf gweld dylanwad cerddoriaeth yn y gwaith.”
Mae Gwobrau’r Selar yn seremoni wobrwyo a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n cael ei threfnu gan y cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg, Y Selar. Owain Schiavone yw trefnydd y digwyddiad. Dywedodd,
"Mae'r Selar yn falch iawn o'r berthynas gydag Adran Gelf a Dylunio Prifysgol y Drindod Dewi Sant sy'n ymestyn yn ôl sawl blwyddyn bellach. Mae'n grêt gallu cydweithio unwaith eto eleni a rhoi cyfle i artist ifanc greu gwaith celf y gwobrau ar gyfer Gwobrau'r Selar. Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn o safon yr artistiaid sydd wedi creu'r gwobrau dros y blynyddoedd - pob un yn cynnig rhywbeth unigryw, a gwobrau arbennig i'w trysori gan yr enillwyr. Mae gwaith Ffion Richardson ar gyfer y gwobrau eleni'n hynod o hardd, a dwi'n siŵr bydd yr enillwyr wrth eu bodd â hwy."
Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bartneriaeth ehangach gyda Gwobrau’r Selar hefyd wrth i’r Brifysgol noddi’r categori Cyfraniad Arbennig, a braf oedd gweld y cerddor Tecwyn Ifan yn derbyn y wobr hynny.
Nodyn i'r Golygydd
Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r cyrsiau Celf a Dylunio a gynigir o fewn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ewch i https://www.uwtsd.ac.uk/cy/cyfadran-celf-a-dylunio/
Ac am wybodaeth bellach ynglŷn â Gwobrau’r Selar, ewch i https://selar.cymru/
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476