Astudiaeth i gyflymu lansio cynnyrch fferyllol arloesol ZeroSole gan Kaydiar ar y farchnad a fydd ar gael dros y cownter


06.12.2022

Yn ddiweddar mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cwblhau astudiaeth beilot ar y cyd â’r cwmni o Abertawe Kaydiar Ltd sy’n arbenigo mewn technoleg  all-lwytho (lleihau pwysedd - offloading) ar gyfer briwiau pwyso ar y droed, o faes gofal diabetig i esgidiau chwaraeon.

Pressure diagrams of feet with high pressure around the ball of the foot highlighted in red.

Bu’r astudiaeth yn asesu ailddosbarthu pwysedd uniongyrchol ar ran ddethol o wadn y droed gan ddefnyddio mewnwadn silicôn ZeroSole y cwmni. Mae’r mewnwadnau o ddyluniad modiwlaidd, y gellir eu gosod mewn esgidiau confensiynol, i helpu i drin ac atal briwiau poenus cyffredin ar y droed a achosir gan bwysedd.

Hwyluswyd yr astudiaeth drwy raglen £24 miliwn Cyflymu Cymru, dan arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a ariennir ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru.

Lluniwyd y mewnwadn ZeroSole i helpu i reoli poen ac mae’n chwarae rôl hanfodol wrth drin briwiau troed a achosir gan bwysedd, megis cyrn caled cyffredin (heloma durum), trwy all-lwytho.  Mae all-lwytho yn ffordd o drin drwy ymyrraeth sy'n cael ei gydnabod a'i fabwysiadu'n gyffredin gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae dyluniad modiwlaidd arloesol y mewnwadn yn caniatáu i rannau o'r mewnwadn gael eu tynnu'n barhaol yn y man lle mae’r briw, gan gynorthwyo i liniaru poen ac atal briwiau rhag ailffurfio.  Bwriedir i ZeroSole gael ei ddefnyddio ar gyfer briwiau troed isel eu risg a achosir gan bwysedd, megis cyrn a chaledennau.

Mae mewnwadn ZeroSole yn amlbwrpas ac yn gwbl addasadwy, gan ganiatáu iddo leihau’r pwysedd ar unrhyw un rhan, neu sawl rhan, o'r droed a effeithir gan friwiau a achosir gan bwysedd. Mae hyn felly’n gweithredu fel triniaeth therapiwtig ar unwaith ar gyfer briwiau o'r fath; a bydd ar gael i’r cyhoedd.  

Oherwydd hiroedledd y ddyfais, mae’n gost-effeithiol, ac nid yn unig yn trin ond yn helpu i atal y briwiau hyn sy’n tueddu dychwelyd.

Meddai David Barton, Cyd-sylfaenydd a Chyd-Brif Swyddog Gweithredol Kaydiar: "Cysylltodd Kaydiar ag ATiC, drwy'r rhaglen Cyflymu, i fanteisio ar arbenigedd y ganolfan i'n cynorthwyo i ddatblygu'r mewnwadn ZeroSole yn barod ar gyfer ei lansio ar y  farchnad, ac i gipio data ar gyfer dadansoddiad cymharol a datblygu cynnyrch newydd.

"Nod yr astudiaeth beilot oedd gwerthuso'r ZeroSole drwy asesu data ailddosbarthu pwysedd yn gysylltiedig â’r man all-lwytho.  

Rhagwelwn y bydd ein cynnyrch wedi’i ddatblygu'n llawn erbyn mis Chwefror 2023.  Ein mewnwadn modiwlaidd silicôn ni fydd y cyntaf ar y farchnad fferyllol dros y cownter (OTC-pharma) i leihau pwysedd yn effeithiol wrth eu defnyddio mewn esgidiau cyffredin er mwyn lleddfu briwiau traed poenus a achosir gan bwysedd, megis heloma durum.”

Meddai Dr Yajie Zhang, Cymrawd Arloesi ATiC yn y Drindod Dewi Sant: "Defnyddiodd yr astudiaeth gyfuniad o offer ymchwil sydd wedi'u lleoli yn labordy Profiad Defnyddwyr (UX) o’r radd flaenaf AtiC, gan gynnwys mapio pwysedd F-Scan mewn esgidiau i gipio data pwysedd traed, ar y cyd â system cipio symudiad ar gyfer fideo cerddediad. Yn ogystal cipiwyd profiad defnyddwyr.

 

"Nod yr ymchwil oedd archwilio effeithiolrwydd mewnwadn ZeroSole gyda grŵp sampl o gyfranogwyr iach, â chydbwysedd rhwng y rhywiau, a meintiau traed amrywiol, fel cam i wirio effeithiau’r mewnwadn o ran lleihau pwysedd.

Gwnaeth ATiC brofi’r cyfranogwyr yn cerdded mewn pedair ffordd: yn gwisgo eu hesgidiau arferol heb ZeroSole; gyda ZeroSole ond heb dynnu modiwlau; gyda ZeroSole gan dynnu  modiwlau ar un mewnwadn;  gyda ZeroSole gan dynnu modiwlau ar y ddau fewnwadn.

Roedd lleoliad y modiwlau a dynnwyd, h.y., y ceudod, o dan yr ail gymal metatarsol-ffalangol, wedi'i safoni ar gyfer pob unigolyn iach.

“Nododd yr astudiaeth fod gwisgo mewnwadnau ZeroSole nid yn unig yn llwyddo i leihau’r pwysedd ar yr ardal darged o'i gymharu â gwisgo mewnwadnau arferol yn esgidiau'r cyfranogwyr, ond hefyd wedi clustogi’r droed gyfan, heb newid paramedrau cerddediad sylfaenol y cyfranogwyr," ychwanegodd Dr Zhang.

“Gan weithio gyda chanolfan ATiC a'i phartneriaid, gall cyfleoedd ymchwil yn y dyfodol hwyluso  gwerthuso cynhyrchion Kaydiar yn glinigol, ac o bosibl gyda chleifion sy'n derbyn gofal anhwylderau cyhyrysgerbydol y traed a'r aelod isaf," meddai David Barton.

Nodyn i'r Golygydd

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)

Mae canolfan ATiC yn ganolfan ymchwil unigryw, aml-foddol, o’r radd flaenaf a grëwyd i gefnogi anghenion arloesi a sbarduno newid a thrawsnewid yn y sector gwyddorau bywyd a’r GIG yng Nghymru.   Mae labordy ymchwil y Ganolfan, gwerth £1.1m, sy’n ymwneud ag ymchwil i brofiadau defnyddwyr (UX) a pheirianneg defnyddioldeb (UE), wedi’i leoli ar gampws y Drindod Dewi Sant yn Ardal Arloesi Abertawe.

Gyda thîm amrywiol, amlddisgyblaethol o artistiaid, dylunwyr, penseiri, gwyddonwyr a pheirianwyr, mae ffocws ATiC ar ddeall anghenion pobl drwy feddwl sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, dulliau ymchwil dylunio, ac offer mesur ffisegol gwrthrychol.

Mae ATiC yn bartner yn y rhaglen arloesol Cyflymu, sy’n helpu arloeswyr yng Nghymru i droi eu syniadau’n atebion.  Mae Accelerate wedi’i gydariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a byrddau iechyd, a’i nod yn y pendraw yw creu gwerth economaidd sy’n para yng Nghymru.

 

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk