Athro Emerita Y Drindod Dewi Sant yn lansio’i chyfrol ‘Tosturi’ yng Nghanolfan S4C Yr Egin.


08.04.2022

Neithiwr (7fed o Ebrill, 2022), fe lansiodd Menna Elfyn, Athro Emerita Ysgrifennu Creadigol ym Mhrrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ei chyfrol newydd ‘Tosturi.

Canolfan S4C yr Egin

Yn ystod y lansiad a gynhaliwyd yng Nghanolfan S4C Yr Egin, cafwyd darlleniadau o’r gyfrol, yn ogystal â sgwrs rhwng Menna a’i ffrind Elinor Wyn Reynolds, ac ambell i gân gan ferch Menna, Fflur Dafydd.

Dyma’r gyfrol gyntaf o farddoniaeth sydd wedi’i chyhoeddi trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig gan Menna ers deng mlynedd.  Mae ‘Tosturi’ yn gasgliad o gerddi sy’n marwnadu ac yn moli, yn cofio ac yn pryfocio, yn herio ac yn tosturio wrth i’r bardd ymateb i’r camweddau a wnaed yn erbyn menywod dros y canrifoedd.

Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o gerddi sy’n cynnwys rhai hunangofiannol, cerddi gwleidyddol, rhai sydd wedi’u hysbrydoli gan y cyfnod clo, ac ambell un am fyd natur.

Dywedodd Menna,

“ Bûm yn myfyrio yn hir uwchben y gair ‘Tosturi’ , ac am wn i – dyma un o’r emosiynau mawr yn fy marddoniaeth  a hynny wrth ymateb i droeon bywyd:  yn ddwys, yn afieithus ac yn gynhyrfus.  Yr hyn yr ydw i’n ceisio ei wneud wedyn yw oeri’r teimladau wrth eu gollwng yn eiriau ar ddalen yn y gobaith y bydd eraill, yn ddarllenwyr neu’n wrandawyr yn medru uniaethu â theimlo o’r newydd y math o wewyr neu wefr a gefais innau o’u mynegi. Mae yna nifer o gerddi am ferched, yn ddwys ac yn ddigri, llawer o gerddi am natur a’r cyfnod clo, a’r ymrafael â’r byd ysbrydol gyda cherddi fel  ‘Iachawdwriaeth’, ac ‘Amen’.

“Rwy hefyd yn hoffi canfod eironi bywyd ac er na all barddoniaeth newid y byd, mae  bardd yn aml am newid ambell ymagwedd tuag at ein byw a’n bod yn y byd sydd ohono.”

“Hon yw’r bymthegfed gyfrol o farddoniaeth imi ei chyhoeddi a’r gyntaf yn Gymraeg am gryn dipyn, felly rwy’n falch iawn ohoni am y rheswm hynny, ac i Barddas am anwesu’r gyfrol o’r cychwyn cyntaf wrth ddymuno ei chyhoeddi.”

 

Canolfan S4C Yr Egin

I gyd-fynd â’r cerddi, mae’r arlunydd Meinir Mathias wedi creu darluniau trawiadol drwy’r llyfr gan gynnwys llun arbennig o Catrin Glyndŵr, un o’r merched sydd â cherdd iddi yn y gyfrol, ar y clawr. Meddai Meinir,

“Roeddwn mor falch o dderbyn y comisiwn hwn gan Menna Elfyn ar gyfer y llyfr anhygoel yma a'r cyfle i ymateb i’w cherddi. Mae gen i lawer o barch at Menna a phopeth mae hi wedi ei gyflawni ac mae hi'n Gymraes Gyfoes ysbrydoledig ac yn 'role-model' creadigol i ferched.

“Roedd yr her i weithio ar lun o Catrin Glyndŵr yn apelio’n fawr ataf. Nid yw cymeriadau hanesyddol o hanes Cymru wedi'u cynrychioli'n dda iawn mewn Celf ac anaml y gwelir ffigurau benywaidd fel Catrin Glyndŵr mewn gweithiau Celf. Roedd ymchwilio i’r dillad a’r steiliau a wisgwyd gan ffigurau yn ystod y cyfnod hwn yn rhan o’r ymchwil ar gyfer y comisiwn hwn ac roedd yn ddiddorol iawn ail-ddychmygu arfbais Glyndŵr ar ei chlogyn. Wrth weithio ar gomisiwn, trafodwyd rhai penderfyniadau am ei golwg gyda Menna.”

“Gwnaethom y penderfyniad i'w phortreadu ar ddiwrnod ei phriodas. Tusw o flodau gwyllt yw’r blodau i gynrychioli harddwch ac eiddilwch y dirwedd Gymreig y mae hi wedi’i phlethu â hi. Mae ei gwallt i lawr, yn rhydd ac yn wyllt mewn cyferbyniad â’r hyn a ddisgwylid gan ferched â statws yn y cyfnod hwnnw, sy’n cyfeirio at gryfder ei chymeriad a’i natur wrthryfelgar. Mae lliwiau llachar ei dillad yn awgrymu pwysigrwydd a statws ei llinach. Mae naws wahanol iawn i’r darlun du a gwyn ohoni yn y tŵr i gymharu â’r clawr llachar gyda chyferbyniadau llym, gwacter lliw, yn adlewyrchu’r sefyllfa a’r teimlad o’r sefyllfa o gael ei dal fel aderyn mewn cawell.”

Mae’r gyfrol ‘Tosturi’ gan Menna Elfyn bellach ar werth mewn siopau llyfrau lleol.

Tosturi

Nodyn i'r Golygydd

Lluniau: Tudur Dylan Jones

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk