Athrofa Confucius y Drindod Dewi Sant yn cynnal prawf Tsieinëeg i Ieuenctid ar gyfer plant Abertawe
18.05.2022
Ar 14 Mai 2022 ymgasglodd plant o gymuned Tsieineaidd Abertawe yn Adeilad IQ y Drindod Dewi Sant i gymryd y Prawf Tsieinëeg i Ieuenctid (YCT).
Dyma'r tro cyntaf mewn dwy flynedd i'r plant, sydd wedi cofrestru yn Ysgol Tsieinëeg Athrofa Confucius, allu cymryd y prawf a gydnabyddir yn rhyngwladol, ers codi cyfyngiadau Covid. Er gwaethaf y tarfu ar addysgu a achoswyd gan Covid dros y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd llawer o rieni a phlant yn frwdfrydig i fanteisio ar y prawf. Gwnaeth cyfanswm o 58 o blant, rhwng 7 a 15 oed, sefyll arholiadau Lefel 2, 3 a 4 Tsieinëeg i Ieuenctid.
Tsieinëeg i Ieuenctid yw’r prawf safonedig rhyngwladol a sefydlwyd ar gyfer dysgwyr Tsieinëeg o dan 15 oed sydd ag iaith heblaw Tsieinëeg yn famiaith iddynt. Er bod disgyblion yr Ysgol Tsieinëeg yn Tsieineaid o ran ethnigrwydd, nid yw pob un ohonynt yn gallu darllen ac ysgrifennu Tsieinëeg pan fyddant yn cofrestru yn yr ysgol am y tro cyntaf. Sefydlwyd yr ysgol gyda'r nod penodol o sicrhau bod gan blant o gefndir Tsieineaidd sgiliau cyfathrebu rhagorol yn yr iaith Tsieinëeg ar gyfer eu haddysg a’u gobeithion am swydd yn y dyfodol, a hefyd i'w galluogi i gyfathrebu â'u teulu estynedig yn Tsieina.
Dywedodd Lisa Liu, Cyd-gyfarwyddwr y Tsieinëeg yn Athrofa Confucius: "Gan mai dyma'r tro cyntaf mewn dwy flynedd i’r prawf Tsieinëeg i Ieuenctid gael ei gynnal, gwnaeth staff Athrofa Confucius lawer o waith paratoi trylwyr, gan drefnu cofrestru, cwblhau gwaith papur ac yn bwysicaf oll, paratoi'r plant fel y gallent gymryd y prawf yn gwbl hyderus o sicrhau canlyniadau da. Rwy'n falch o'r plant a'r staff am gymryd cymaint o ofal i sicrhau bod yr holl drefniadau ar y dydd mor llwyddiannus.”
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Krystyna Krajewska yn k.krajewska@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076