Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant yn dathlu pen-blwydd yn 21ain yn ystod blwyddyn Daucanmlwyddiant y Brifysgol


13.01.2022

Wrth i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddathlu blwyddyn ei daucanmlwyddiant, mae dathliadau pwysig ar y gweill hefyd yn y ddisgyblaeth Astudiaethau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg, lle mae tîm y Blynyddoedd Cynnar yn dathlu 21 mlynedd ers cyflwyno’r rhaglenni cyntaf yn y Drindod Dewi Sant.

Mae’r tîm yn trefnu blwyddyn o ddigwyddiadau’n cychwyn gyda noson arbennig ar-lein ar 17 Ionawr yng nghwmni Dr Siân Wyn Siencyn, a fu’n gyfrifol am ddatblygu’r rhaglenni Blynyddoedd Cynnar.  

Yn ystod y noson ‘Cynnal Sgwrs’ bydd Siân yn trafod gyda myfyrwyr cyfredol a chyn-fyfyrwyr, themâu a syniadau allweddol o’r 21 mlynedd ddiwethaf yn gysylltiedig â llesiant, hawliau a chynhwysiant plant.  Bydd hefyd yn gyfle i adfyfyrio ar yr arloesi a ddarparwyd gan y rhaglenni a ddatblygodd hi.  

O’r cychwyn roedd Siân a’r tîm o blaid gwahardd cosbi plant yn gorfforol, ac eleni bydd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 yn cael ei gweithredu. Bydd datblygiad y cwricwlwm newydd i Gymru hefyd yn rhoi ffocws ar ddysgu dan arweiniad plant gyda phwyslais ar chwilfrydedd a dysgu drwy ddarganfod, a oedd hefyd yn ffocws allweddol yng ngwaith Siân ei hun.

Mae Dr Siân Wyn Siencyn yn edrych ymlaen at y noson, a nododd:

“Ugain mlynedd yn ôl, roedd yn amser cyffrous ym maes astudiaethau plentyndod cynnar ac i’r rheini, fel myfi, a oedd wedi bod yn y maes am flynyddoedd lawer, roedd hi’n wych cael y cyfle i sefydlu disgyblaeth academaidd newydd ar lefel brifysgol. Er bod rhai o’m syniadau i, ar y pryd, yn eithaf heriol efallai – er enghraifft nid oedd gan unrhyw brifysgol yng Nghymru lwybr dysgu hyblyg llawn amser - roedd y Drindod Dewi Sant, fodd bynnag, bob amser yn gefnogol i’r dull newydd hwn gan ymateb i anghenion y myfyrwyr.”

Mae gan y Drindod Dewi Sant ethos cryf o ran ehangu mynediad, er mwyn i fyfyrwyr ddychwelyd i astudio ar unrhyw bwynt yn eu bywydau.  Roedd Siân yn ganolog o ran cefnogi’r gwaith hwn.  Roedd y rhaglenni Blynyddoedd Cynnar cyntaf yn llwybrau dysgu hyblyg a luniwyd i ddileu’r rhwystrau i astudio i ymarferwyr y blynyddoedd cynnar, gyda’r myfyrwyr yn gallu astudio gyda’r nos ac ar y penwythnos.   Mae’r rhaglenni hyn yn parhau i fod yn rhan allweddol o’r portffolio Blynyddoedd Cynnar ochr yn ochr â llwybrau mwy traddodiadol yn ystod y dydd, ac yn y blynyddoedd diweddar mae’r ddarpariaeth gyda’r nos wedi datblygu’n rhaglen lwybr carlam ddwy flynedd sy’n unigryw yng Nghymru.

Roedd Siân yn ganolog hefyd wrth ddatblygu rhaglenni cyfrwng Cymraeg sy’n parhau i fod wrth wraidd y portffolio Blynyddoedd Cynnar ac yn darparu graddedigion sy’n hollbwysig o ran arwain darpariaeth ddwyieithog ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar.  I ddechrau cyflwynwyd y rhaglenni blynyddoedd cynnar ar gampws Caerfyrddin. Fodd bynnag mae’r portffolio o raddau hefyd yn cael ei gyflwyno bellach ar gampws Abertawe ac yng Nghaerdydd gan ganiatáu i’r tîm ehangu’r egwyddorion ac ethos allweddol a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Siân.

Ychwanega: “Wrth gwrs fe ddaeth llawer o’r myfyrwyr ffantastig a gawson ni maes o law yn ddarlithwyr ar y rhaglenni eu hunain, ac mae eraill wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd nodedig yn y maes.   Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld rhai ohonyn nhw eto!”

Roedd Sioned Saer yn un o raddedigion cyntaf Blynyddoedd Cynnar.  Cofia: -

“Mae’n teimlo fel ddoe pan es i, ym mis Medi 2001, i ddarlith cyntaf rhaglen radd newydd a chyffrous o’r enw Addysg Blynyddoedd Cynnar, a gyflwynwyd gan Siân Wyn Siencyn ar Foeseg, Gwerthoedd a’r Gyfraith, modwl a ddaeth yn rhan ganolog o’m taith ddysgu broffesiynol ers y cyfnod hwnnw.

“Fel myfyriwr gyda’r nos, roedd cydbwyso gwaith llawn amser ac astudio gyda’r nos yn her newydd, ond her a gefnogwyd gan dîm newydd a chynyddol o addysgwyr cefnogol, gwybodus a brwdfrydig.  Ar ôl graddio, roeddwn i’n ffodus i ymuno â’r tîm Blynyddoedd Cynnar a than arweinyddiaeth, gweledigaeth a chefnogaeth Siân, ces i fy ngrymuso i fynd ymlaen i gael y profiadau mwyaf cofiadwy a rhai a newidiodd fy mywyd, gan weithio wrth ochr y staff blynyddoedd cynnar mwyaf gwych.  Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd bod yn rhan o daith mor unigryw ac arbennig a bod yn dyst i rai o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol ym maes Blynyddoedd Cynnar yn y cyfnod hwn.”

Astudiodd yr Uwch Ddarlithydd, Glenda Tinney, ei MA mewn Plentyndod Cynnar yn rhan o grŵp Siân Wyn Siencyn ac mae’n edrych ymlaen at y noson yn fawr iawn.

“Ces i fy mesmereiddio gan ddarlithoedd Siân.  Roedden nhw’n tynnu syniadau ac ymchwil a oedd yn torri tir newydd at ei gilydd mewn modd hygyrch iawn.  Byddwn i’n edrych ymlaen at ddarlithoedd a thrafodaethau a ches i fy herio i feddwl yn wahanol ac adfyfyrio’n ddwfn.  Byddwn i’n chwerthin yn fawr iawn hefyd am fod hiwmor Siân hefyd yn rhan o’r profiad. Roedd cyfleoedd o’r fath yn ganolog i’m dealltwriaeth o bwysigrwydd y sector blynyddoedd cynnar.  

“Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus iawn i ymuno â thîm blynyddoedd cynnar Siân sydd wedi caniatáu i mi ddatblygu fy niddordeb fy hun mewn cynaliadwyedd a’r awyr agored i blant bach.  Roedd Siân bob amser yn arwain y ffordd yn y blynyddoedd cynnar gan annog y tîm i wneud yr un peth.  Mae materion a drafododd hi ddegawdau yn ôl, bellach yn cael eu hystyried yn arloesol.  Rwy’n edrych ymlaen at 17 Ionawr yn fawr iawn.”

Bydd y digwyddiad yn cychwyn amrywiaeth o ddigwyddiadau y mae Astudiaethau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn eu cynllunio i ddathlu daucanmlwyddiant y Drindod Dewi Sant gan gynnwys y noson i raddedigion (wythnos yn cychwyn 17 Ionawr) a darlithwyr gwadd ac ymweliadau eraill ar hyd y flwyddyn.  

Nodyn i'r Golygydd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Glenda Tinney g.tinney@uwtsd.ac.uk

Ffôn: 01267 676605

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk