Caffi’r Atom yn lansio ‘Rhost yr Urdd’ i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
26.09.2022
Mae Caffi’r Atom yng Nghaerfyrddin wedi lansio coffi arbennig ‘Rhost yr Urdd’ i godi arian tuag at goffrau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.
Mae ‘Rhost yr Urdd’ yn gynnyrch cyfyngedig arbennig i ddathlu fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Sir Gaerfyrddin y flwyddyn nesaf. Mae modd prynu bagiau coffi neu eu prynu fel diod unigol o Gaffi’r Atom, sef Canolfan Gymraeg tref Caerfyrddin.
Cwmni Coffi Alffi (Alfie’s Coffee Company) sy’n rhedeg Caffi’r Atom, ac sydd hefyd yn gyfrifol am greu’r rhost arbennig hwn. Daeth yn syniad yn wreiddiol ar ôl i aelodau o bwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 gwrdd â Paul Cammack, perchennog Cwmni Coffi Alffi i holi a fyddai diddordeb ganddo i greu rhost arbennig i godi ymwybyddiaeth i Steddfod yr Urdd yn dilyn llwyddiant coffi a grëewyd yn arbennig i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionnydd 2023.
Dywedodd Paul: “Rwy’n teimlo’n freintiedig fy mod wedi cael cais i greu coffi arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023. Mae’r ffaith fod sefydliad mor fawreddog wedi fy newis i'w cynrychioli yn anhygoel.
“Dwi mor falch o fod wedi gallu rhostio coffi blasus ac mae proffil blas yn adlewyrchu ethos yr hyn mae'r Eisteddfod yn ei gynrychioli. Mae coffi'n ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd, a dwi'n teimlo mai dyna hanfod yr Eisteddfod. Diolch yn fawr iawn!”
Mae’r ffa coffi wedi’u rhostio yn rhai 100% Arabica ac mae’r ffa eu hunain wedi’u tyfu gan Mr. Laerce Franca Faleiros yn ardal yr Alto Mogiana Mineira ym Mrasil – cynnyrch sydd wedi cael ardystiad gan Gynghrair y Fforestydd Glaw. Mae’n felys iawn gyda nodau o fango blasus a siocled llaeth llyfn. At hyn, mae’r bagiau coffi yn 100% ailgylchadwy ac mae wedi partneru â Ecologi, sy’n golygu am bob archeb sy’n cael ei osod drwy ei wefan, mae coeden yn cael ei blannu ar ran y cwsmer.
Paul sydd hefyd wedi dylunio’r bag coffi. Mae logo Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr yn chwarae rhan yn y cynllun, yn ogystal â chwpled o waith y Prifardd Mererid Hopwood sy’n datgan bod y coffi yn ‘Siario Gwên Coffi Sir Gâr.’
Mae creu coffi arbennig fel hyn nid yn unig yn gyfle i arddangos y cynnyrch sy’n cael ei greu yng nghaffi’r Atom, ond mae hefyd yn ffordd arbennig i ddenu’r cwsmeriaid i’r Atom, codi’u hymwybyddiaeth am waith y ganolfan yn gyffredinol, ac hyrwyddo’r Gymraeg ar draws tref Caerfyrddin
Ychwanegodd Caryl Jones, Rheolydd Yr Atom: “Mae wedi bod yn fraint i gydweithio gyda’r Urdd a Paul er mwyn creu’r coffi arbennig yma. Mae cwmni Alfie’s Coffee Company wedi ennill gwobr ’Great Taste’ yn y gorffennol felly mae ’Rhost yr Urdd’ mewn dwylo da!
“ Mae’r prosiect yma wedi bod yn gyfle euraidd i Gwmni Coffi Alfie Company, ond hefyd i'r Atom, wrth i nifer o bobl newydd ddod yn ymwybodol o fodolaeth a phresenoldeb y Caffi, a’r Ganolfan yn eu chyfanrwydd yng Nghaerfyrddin.
“Roedd hi’n hyfryd i weld y bwrlwm ar draws y dref yn ystod yr Ŵyl Gyhoeddi, ac roedd yn bleser i fod yn ran o stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau a gwaith yr Atom tra’n gwerthu’r coffi yr un pryd.
“Wrth werthu ‘Rhost yr Urdd’ yn Yr Atom mae wedi bod yn hyfryd i gwrdd â chwsmeriaid newydd, ac mae wedi bod yn gyfle iddynt ddod i ymweld â’r Ganolfan arbennig sydd gyda gyda ni yn Stryd y Brenin. Felly tro nesaf rydych yng Nghaerfyrddin, cofiwch alw mewn i'r Atom am goffi a chacen.”
Nododd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C yr Egin, sydd â chyfrifoldeb strategol a gweithredol dros Yr Atom: “Mae cynllun Llywodraeth Cymru : Cymraeg 2050 yn nodi pwysigrwydd creu amdodau ffafriol i‘r Gymraeg er mwyn cyrraedd y nod o miliwn o siaradwyr ac mae’r Atom yn barhaol yn cyfrannu at hynny drwy gydweithio gyda partneriaid a chefnogi’r Gymraeg yn y gymuned. Mae’n wych cydweithio gyda Urdd Gobaith Cymru a Chwmni Coffi Alffie ar y fenter hon er mwyn sicrhau llwyddiant Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023, galwch draw i gaffi’r Atom i fwynhau paned a sgwrs!”
Bydd modd prynu’r bagiau ar wefan Alfie’s Coffee Company neu yng nghaffi’r Atom. Pris bag yw £7.95 a bydd £1 o bob bag yn mynd i’r Urdd.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476