Cafodd un o’n Graddedigion BA Perfformio le yn ystod Clirio a dywed mai dyna oedd man cychwyn llwyddiant ei yrfa


19.08.2022

Drwy wneud un alwad yn ystod Clirio, dechreuodd Dan Rowbotham, a raddiodd o BA Perfformio Y Drindod Dewi Sant, ar ei lwybr gyrfa i lwyddiant.

 

Just one phone call during Clearing started UWTSD BA Performance graduate Dan Rowbotham on his career path to success.

Mae Dan, sy’n gweithio fel Swyddog Cangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar hyn o bryd, yn cyfaddef nad oedd wedi meddwl mynychu prifysgol yn y dyddiau cyn ei ganlyniadau Safon Uwch, ond pan gyrhaeddodd y diwrnod hwnnw, taniodd rhywbeth ei ddiddordeb mewn addysg uwch.

“Yn sydyn, meddyliais, reit dyna ni, dwi’n mynd i gofrestru ar gwrs gradd a dechrau ar y llwybr tuag at yrfa,” meddai.

Gan ei fod yn byw yn Llangeitho, Ceredigion, campws Caerfyrddin y Brifysgol oedd y dewis naturiol. “Nid oedd yn rhy bell, ond hefyd yn ddigon pell o adref,” ychwanegodd.

“Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi mynychu diwrnod agored, ond roeddwn i wedi bod ar ymweliadau ysgol, felly roedd gen i brofiad da ohono yn barod ac roedd gan y cwrs enw ardderchog.”

Dywedodd Dan ei fod wedi codi’r ffôn a gwnaethpwyd argraff dda arno ar unwaith gan natur gyfeillgar y person ar ben arall y ffôn. “Nid dyna roeddwn wedi’i ddisgwyl, roeddwn wedi meddwl efallai y byddai’n anodd, efallai y byddai’n rhaid i mi ateb cwestiynau na fuaswn yn gallu eu hateb,” meddai. “Ond roedd y gwrthwyneb yn wir. Gwnaeth i mi deimlo’n gartrefol a thrwy’r un alwad honno cefais le ar y cwrs a dyna sut rydw i ble’r ydw i nawr!

“Mae’r cwrs wedi fy helpu i gyflawni cymaint ac nid dim ond yn academaidd. Rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd na fuaswn wedi’u cael hebddo.”

Bu Dan, a raddiodd o’r Drindod yn 2016, gynt yn Gydlynydd Yr Atom, Canolfan Y Gymraeg Caerfyrddin.

Yn ystod ei amser yn Y Drindod cafodd ei ethol yn llywydd Grŵp Undeb y Myfyrwyr ac yn ystod ei flwyddyn olaf, ef oedd Llywydd Cenedlaethol Yr Urdd ac fe enillodd Wobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Hefyd, helpodd Dan i redeg côr y brifysgol; cynrychiolodd y myfyrwyr ar Bwyllgor Materion Cymraeg y brifysgol; bu’n Swyddog Materion Cymraeg gwirfoddol etholedig yn Undeb y Myfyrwyr a threfnodd ddosbarthiadau Cymraeg ar gyfer ei gyd-fyfyrwyr. Bu hefyd yn gweithio’n agos gyda Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y pryd o fewn Y Drindod i drefnu digwyddiadau Croeso yng Nghaerfyrddin a chydlynodd nifer o weithgareddau cymdeithasol.

Yn ogystal, gweithiodd Dan fel Llysgennad Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer y brifysgol i hyrwyddo cyrsiau cyfrwng Cymraeg a hyrwyddo ethos a bywyd Cymraeg Y Drindod Dewi Sant. Hefyd, gwirfoddolodd gydag Adran Ryngwladol y Brifysgol.

Dan oedd Llywydd yr Urdd yn ystod 2016; yn Gadeirydd Bwrdd Ieuenctid Sir IfanC; a chyd-arweiniodd Aelwyd Myrddin – clwb ieuenctid iaith Gymraeg yng Nghaerfyrddin a gwirfoddolodd gyda’r sefydliad ar draws De Orllewin Cymru ar nifer o weithgareddau.

Yn ogystal, mae wedi cefnogi gwaith Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymraeg ym Mhrifysgol Rio Grande, Ohio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, addysgodd y Gymraeg mewn ysgolion ac arweiniodd ar amrywiaeth o brosiectau cymunedol i ddathlu treftadaeth Gymraeg yr ardal. Ar yr un pryd, roedd yn dilyn gradd MA mewn Addysg: Celfyddydau Integredig (M.Ed. Celfyddydau Integredig)

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk