Caiff arbenigedd PCYDDS o ran datblygiad corfforol yn ystod Plentyndod Cynnar ei gydnabod yn y gyngres CIAPSE a gynhelir yn Lwcsembwrg


02.09.2022

Caiff ymchwil gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i ddatblygiad corfforol yn ystod Plentyndod Cynnar ei gydnabod yn y Gynhadledd CIAPSE, 2022, a gynhelir yn Lwcsembwrg rhwng y 7fed a’r 9fed o fis Medi

Research into early childhood physical development by The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) will be recognised at the CIAPSE 2022 Conference in Luxembourg on September 7 to 9.

Cyflwynir astudiaethau gan staff a myfyrwyr ôl-raddedig, gan amlygu effaith y gwaith arloesol yr ymgymerwyd ag ef ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ymarferwyr a theuluoedd.

Bydd Dr Nalda Wainwright, Dr Amanda John ac Anna Stevenson o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymuno ag ymchwilwyr ac addysgwyr blaenllaw o bob rhan o Ewrop er mwyn mynd i’r afael â heriau a datblygiadau, ac i gyflwyno cydsyniadau arloesol yn y 4ydd digwyddiad blynyddol hwn. 

Gwnaiff cyflwyniadau PCYDDS rannu ymchwil myfyrwyr ar lefelau meistr a doethurol. Gwnaeth ymchwil  Pippa Matthews ganolbwyntio ar ddealltwriaeth rieni o ymddygiadau gweithgaredd corfforol eu plant. Cyflwynodd Pippa hefyd bortffolio o adnoddau a gweithgareddau sy’n ddatblygiadol addas er mwyn bod rhieni yn gallu chwarae gyda’u plant, a gwnaeth hyn roi tipyn o fewnwelediad diddorol ar sut y dylanwadodd hwn ar eu persbectifau.  

Astudiodd Pippa am radd meistr mewn Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol  ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, cwrs sydd wedi’i gynllunio er mwyn datblygu dealltwriaeth fanwl o sut i gynorthwyo llythrennedd corfforol mewn pob cyd-destun, pe baech yn rhiant (fel Pippa), yn athro, yn hyfforddwr neu yn gweithio yn y gymuned.

Roedd Dr Amanda John hefyd yn fyfyrwraig gradd meistr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ymunodd Dr John, sy’n dod o Orllewin Cymru, â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant pan oedd hi’n gweithio yn ysgolion Sir Benfro, yn cynorthwyo addysg gorfforol. Wedi cwblhau ei gradd meistr, enillodd hi ysgoloriaeth PhD amser llawn i archwilio effaith rhaglen datblygiad proffesiynol SKIP Cymru.

Mae rhaglen SKIP Cymru yn cael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru a deunyddiau atodol WBFG, ac fe fydd Dr John yn cyflwyno casgliadau ei hymchwil a wnaeth arwain at newidiadau a datblygiadau pellach yn y rhaglenni datblygiad proffesiynol sy’n cael eu cyflwyno ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol.

Er bod gwaith Pippa a Dr John sy’n cael ei gyflwyno yn Lwcsembwrg yn canolbwyntio ar blentyndod cynnar, mae’r rhaglen meistr sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn archwilio cwrs bywyd yn ei gyfanrwydd, ac mae hyblygrwydd y rhaglen yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso eu hastudio at y meysydd hynny sydd o ddiddordeb personol iddynt.

Meddai Dr Nalda Wainwright (Cyfarwyddwr y Rhaglen MA a Goruchwyliwr PhD):  “Rwy mor falch i weld gwaith rhagorol ein myfyrwyr ôl-raddedig yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae’n fraint i weithio gyda myfyrwyr ar y lefel hon lle maent yn cymhwyso eu dysgu at eu bywydau eu hunain a’u cymunedau, ac mae hi mor foddhaol i weld yr effaith y gallant ei chael. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r grŵp nesaf o fyfyrwyr gradd meistr a PhD wrth iddynt ddatblygu eu hymchwil.” 

Prif bynciau ac is-themâu y Gyngres CIAPSE yw:

* Hyrwyddo Gweithgareddau Corfforol a Chwarae Plant

* Llythrennedd Corfforol Plant 

* Addysg Gorfforol yn ystod Plentyndod Cynnar ac Addysg Gynradd 

* Addysg Athrawon o ran Addysg Gorfforol yn ystod Plentyndod Cynnar ac Addysg Gynradd 

* Gweithgaredd Corfforol mewn Lleoliadau Ysgol Gweithredol 

* Gweithgaredd Corfforol ar gyfer Hyrwyddo Iechyd  a Chymuned Weithredol mewn Byd Cynaliadwy ac Iach

* Dysgu Rhyngddiwylliannol, Amrywiaeth a Chynhwysiad o fewn Addysg Gorfforol a Gweithgaredd Corfforol  

* Addysg Gorfforol, Gweithgaredd Corfforol a Thechnolegau Newydd

Cynhelir seminar cyn-gyngres am Blentyndod Cynnar ar Fedi 6ed 2022, gydag AIESEP SIG a CEREPS yn llywyddu.

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am raglen meistr PCYDDS, cysylltwch â Dr Nalda Wainwright ar nalda.wainwright@uwtsd.ac.uk

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk