Catrin Llwyd yn ennill Gwobr Norah Isaac yng Ngwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


14.07.2022

Mae myfyrwraig o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill Gwobr Norah Isaac yn seremoni flynyddol Gwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gynhaliwyd neithiwr (Gorffennaf 13eg) yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Gwobrau Coleg Cymraeg Cenedlaethol

(Llun: Betsan Evans, Celf Calon ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)

 

Dyfernir Gwobr Norah Isaac yn flynyddol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Sefydlodd y Coleg y wobr hon yn 2014 er cof am Norah Isaac. Dyfernir hi i’r myfyriwr a gafodd y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.

Eleni, Catrin Llwyd o Gaerfyrddin a enillodd y wobr. Mae Catrin yn fyfyrwraig doethur yn y Drindod Dewi Sant, ac fe enillodd  Ysgoloriaeth Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y llynedd i ymgymryd â phrosiect doethurol arloesol ym maes cynllunio iaith. Mae’r gwaith ymchwil y mae Catrin yn ei wneud yn  canolbwyntio ar arweinyddiaeth ieithyddol gymunedol ymysg pobl ifanc ac ar agweddau o waith ieuenctid, datblygu cymunedol a chyfathrebu digidol. Mae’r ymchwil yn cael ei arolygu gan yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones sy’n arbenigo ym maes ieithoedd lleiafrifol, gyda chefnogaeth gan Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd o fod wedi ennill Gwobr Norah Isaac. Mae’n fraint cael cydnabyddiaeth o’m sgiliau iaith er cof am un a fu’n gymaint o ddylanwad ar addysg Gymraeg a diwylliant Cymru. Bydd y wobr yn hwb imi wrth fynd ati i ysgrifennu fy nhraethawd ymchwil dros y cyfnod nesaf. Hoffwn ddiolch i’r Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu cefnogaeth barhaus.”

Datblygwyd y dystysgrif sgiliau iaith er mwyn galluogi myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i ennill tystysgrif sy’n dangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer o gyflogwyr wedi datgan eu cefnogaeth i’r Dystysgrif ers ei sefydlu.

Cyflwynwyd y Dystysgrif am y tro cyntaf yn 2013, ac erbyn hyn mae dros 800 o fyfyrwyr wedi ei chyflawni. Er mwyn ennill y dystysgrif, mae angen i ymgeiswyr gyflawni amryw o dasgau gan gynnwys cyflwyniad llafar a chwblhau profion ysgrifenedig.

Ychwanegodd Dr Lowri Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol: “Rydyn ni'n hynod falch bod Catrin Llwyd wedi ennill Gwobr Norah Isaac eleni.  Dyma'r tro cyntaf i'r wobr gael ei hennill gan fyfyriwr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae'n hyfryd bod hynny wedi digwydd adeg dathlu dengmlwyddiant y Coleg Cymraeg.  Byddai Norah fel cyn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod wedi bod yn hynod falch, fel yn wir yr ydym ni, o lwyddiant arbennig Catrin.  Llongyfarchiadau mawr iddi.”

Meddai Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews: “Llongyfarchiadau mawr iawn i Catrin Llwyd am ennill Gwobr Norah Isaac am dderbyn y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg eleni.  Mae’r enillwyr heno yn haeddu pob canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith academaidd o’r safon uchaf ond hefyd am annog a chefnogi eu cyfoedion a’u cydweithwyr o fewn y prifysgolion a gweithleoedd i arddel eu Cymreictod a thrwy wneud hynny godi proffil y Gymraeg yn y sefydliadau.

“Mae’n braf ein bod yn medru cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb eleni i ddathlu ymroddiad myfyrwyr, dysgwyr a darlithwyr. Nhw sydd wrth galon llwyddiant y Coleg dros y degawd ac rydym yn ymfalchïo heno yn eu llwyddiant ysgubol dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Cliciwch ar y linc ganlynol am wybodaeth bellach ynghylch gweithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Drindod Dewi Sant

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk