Cerebra a’r Drindod Dewi Sant yn cydweithio unwaith eto gyda chymhorthion cerdded i Henry
01.11.2022
Yn gynharach eleni, gwnaeth yr elusen i blant, Cerebra, set o faglau arloesol i fachgen ifanc â Pharlys yr Ymennydd drwy eu Canolfan Arloesi ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.
Mae Henry yn 9 mlwydd oed ac yn byw yn Midsomer Norton, Gwlad yr Haf, a derbyniodd set o faglau ysgafn dros ben ar ôl i’w fam, Lara, gysylltu â Chanolfan Arloesi Cerebra. Esboniodd yr anawsterau a gafodd wrth geisio dod o hyd i set briodol o faglau i Henry, a ddymunai dreulio mwy o amser allan o’i gadair olwyn.
Roedd y baglau’n arbennig o bwysig i Henry i helpu i gynyddu ei stamina, yn enwedig am fod diwrnod chwaraeon ei ysgol yn ystod yr haf. Roedd wedi tyfu’n rhy fawr i’w hen faglau, gyda’r canlyniad ei fod yn crymu’i gefn drostynt wrth gerdded a doedd hyn ddim yn dda i’w osgo, yn ogystal â bod yn anghyfforddus.
Ymatebodd Canolfan Arloesi Cerebra drwy weithio gyda chydweithwyr yn y Drindod Dewi Sant: y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) a Chanolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol Cymru (CBM), i ddylunio rhywbeth a oedd yn ysgafn dros ben, ond hefyd yn gryf dros ben.
Esbonia Lara na chymerodd Henry yn hir i ddod i arfer â’i faglau newydd: ‘Cymrodd Henry at ei faglau mor dda. Byddai’n eu defnyddio gydol y diwrnod yn yr ysgol, yn ystod ffisiotherapi ac wrth fynd o A i B. Buon nhw’n gymorth mawr i gynyddu’i stamina ar gyfer diwrnod chwaraeon ei ysgol pryd cystadlodd ef yn ei ffrâm-redwr. Roedd yn gallu ei ddefnyddio am fwy nag awr a chymerodd ran mewn saethyddiaeth, rhedeg a’r clwydi hyd yn oed!
Hwn oedd y prosiect cyntaf o’i fath a gynhaliwyd gan y tîm yng Nghanolfan Arloesi Cerebra ac, yn yr un modd ag unrhyw brosiect peilot, bu modd iddynt edrych arno eto a gweld sut gallai addasiad posibl wella symudedd Henry hyd yn oed yn fwy. Doedd hi ddim yn hir cyn i Lara dderbyn galwad gan y Rheolwr Dylunio Cynnyrch, Ross Head, gyda chynnig o set o faglau newydd a gwell i Henry.
Meddai Ross wrthym: ‘Mae’r set hon o faglau i Henry yn addasiad bach ar y set ddiwethaf. O’r blaen roeddem yn ffodus iawn i gael cymorth gan CBM. Gwnaethon nhw rai darnau i ni o ditaniwm i wneud set o faglau cryf ond ysgafn. Y tro hwn, fodd bynnag, buom ni’n cydweithio’n agos â nhw i helpu i wneud y rhannau hyd yn oed yn fwy ysgafn.
‘Oherwydd cymhareb cryfder i bwysau anhygoel titaniwm, bu modd i ni leihau pwysau’r darnau ymhellach, gan arwain efallai at y baglau titaniwm a ffeibr carbon mwyaf ysgafn a mwyaf cŵl yn y byd drwy argraffu 3D!
‘Gyda chymorth pellach gan Carbon Fibre Tubes LTD, a fu’n hael iawn yn darparu tiwbiau ffeibr carbon syfrdanol ar gyfer y prosiect, mae tîm dylunio Canolfan Arloesi Cerebra wedi cynhyrchu set o faglau prydferth, gweithredol a rhyfeddol i Henry.’
Mae nifer o fisoedd yn llawn hwyl ar y gorwel i Henry, yn llawn o weithgareddau, felly dyma amseru perffaith. Yn gyntaf mae ras 100m yn ei ffrâm-redwr, gyda thaith sgïo i ddilyn, cyn dod â’r ffrâm-redwr allan eto i gymryd rhan mewn ras 5km! Y ras hon fydd y pellaf i Henry ei rhedeg ac ar ben hynny, bydd ef hefyd yn cwrso ar ôl Rhedwr Paralympaidd!
Gan ddymuno’r gorau i Henry gyda’i ymdrechion ym myd chwaraeon!
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk