Coleg Celf Abertawe ac orielau lleol yn cydweithio i gynnal arddangosfa aml-leoliad sy’n dathlu creadigedd yn y ddinas
20.09.2022
Gwnaiff arddangosfa gelf aml-leoliad a chydweithrediad rhwng Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Oriel Glynn Vivian, Artistiaid GS, Oriel Mission ac Oriel Elysium agor gyda digwyddiad lansio ar Fedi 24ain ar draws canol dinas Abertawe.
Gwnaiff yr arddangosfa arbennig hon ar draws lleoliadau gwahanol ddod â gorffennol a phresennol cymuned greadigol Abertawe ynghyd, gan gydnabod y cydweithrediadau pwysig rhwng sefydliadau celf lleol sydd wedi digwydd dros y degawdau a’r canrifoedd diwethaf.
Yn cynnwys cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol PCYDDS, ynghyd ag artistiaid lleol, yn ogystal â deunydd archifau a chyfweliadau, mae’r digwyddiad yn dathlu blwyddyn ddaucanmlynyddol PCYDDS o Addysg Uwch yng Nghymru a’r rôl annatod y mae addysg gelf gan Goleg Celf Abertawe wedi’i chwarae o ran cymuned ddiwylliannol a hunaniaeth y ddinas.
Ar ddydd Sadwrn Medi 24ain, fe fydd hwnt-agoriad i bob un o’r lleoliadau er mwyn bod ymwelwyr yn gallu mynychu’r lansiad ym mhob lleoliad yn olynol a heb frys. Mae’r amseroedd fel a ganlyn:
Stiwdio Griffith, Coleg Celf Abertawe, Campws Dinefwr, 2-4pm
Oriel Glynn Vivian, 4-6pm
Oriel Mission, 4-6pm
Artistiaid GS, 5-7pm
Oriel Elysium, 7-9pm
Mae Katherine Clewett ac Alex Duncan, darlithwyr yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS, wedi chwarae rhan gyfrannol yn y cysylltiad. Medd Clewett: “Mae PCYDDS yn dathlu ei daucanmlwyddiant drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws y ddinas. Mae’n gydweithrediad o ddwyochredd a haelioni a rennir rhwng Coleg Celf Abertawe ac orielau lleol sy’n dangos haenau sîn gelf fywiog Abertawe.
Ychwanega Alex Duncan: “Mae’r Oriel Mission, yr Oriel Elysium, yr Oriel Glynn Vivian a’r Stiwdios GS, pob un ohonynt, wedi cynorthwyo myfyrwyr mewn llawer o ffyrdd ac wedi deall bod ysgolion celf yn darparu lle i holi, i ddadlau ac i gydweithio. Mae’n fan lle mae gweithiau sydd ar hanner yn cael cyfle i aros a chael eu hystyried, yn hytrach na bod pobl yn brysio heibio nhw. Safle lle gall dysgu ac arbrofi ymarferol ffynnu.
“Nid dathliad o Goleg Celf Abertawe fel rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn unig yw hwn, ond mae hefyd yn gydnabyddiaeth o werth a pherthnasedd cyfredol ysgolion celf ar draws y DU, lle mewn rhai achosion, mae eu bodolaeth dan fygythiad.”
Gwnaiff yr arddangosfa barhau ar agor tan Dachwedd 5ed a dylai ymwelwyr wirio amser agor pob lleoliad unigol bob dydd, ac eithrio pan fydd yr amserlen uchod yn gymwys. Mae croeso i bob ymwelydd, ac fe fydd lluniaeth ar gael ar eu cyfer.
Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ddarparwr blaenllaw yng Nghymru a’r DU o gyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Celfyddydau, ac mae wedi dod yn 3ydd yn y DU am Ddylunio a Chrefft, 5ed yn y DU am Gelf, a 9fed yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078