Coleg Celf Abertawe ac orielau lleol yn lansio arddangosfa aml-leoliad gydweithredol i ddathlu creadigedd yn y ddinas
28.09.2022
Mae arddangosfa gelf aml-leoliad a chydweithrediad rhwng Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Oriel Glynn Vivian, Artistiaid GS, Oriel Mission ac Oriel Elysium wedi cael ei lansio ar draws canol dinas Abertawe.
Mae’r arddangosfa arbennig hon ar draws lleoliadau gwahanol yn dod â gorffennol a phresennol cymuned greadigol Abertawe ynghyd, gan gydnabod y cydweithrediadau pwysig rhwng sefydliadau celf lleol sydd wedi digwydd dros y degawdau a’r canrifoedd diwethaf.
Yn cynnwys cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol PCYDDS, ynghyd ag artistiaid lleol, yn ogystal â deunydd archifau a chyfweliadau, mae’r digwyddiad yn dathlu blwyddyn ddaucanmlynyddol PCYDDS o Addysg Uwch yng Nghymru a’r rôl annatod y mae addysg gelf gan Goleg Celf Abertawe wedi’i chwarae o ran cymuned ddiwylliannol a hunaniaeth y ddinas.
Gwnaeth y lleoliadau agor ddydd Sadwrn Medi 24ain, a chafodd amseroedd agor pob un o’r lleoliadau eu darwahanu er mwyn bod ymwelwyr yn gallu mynychu’r lansiad ym mhob lleoliad yn olynol, ac roedd yna naws gyffrous a bywiog wrth i’r siaradwyr, gan gynnwys yr Athro Ian Walsh, Profost Campws Abertawe PCYDDS, agor yr arddangosfa.
Gwnaeth Katherine Clewett ac Alex Duncan, darlithwyr yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS, chwarae rhan gyfrannol yn y cysylltu rhwng yr orielau. Medd Clewett: “Mae PCYDDS yn dathlu ei daucanmlwyddiant drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws y ddinas. Mae’n gydweithrediad o ddwyochredd a haelioni a rennir rhwng Coleg Celf Abertawe ac orielau lleol, sy’n dangos haenau sîn gelf fywiog Abertawe.”
Ychwanega Alex Duncan: “Mae Oriel Mission, Oriel Elysium, Oriel Glynn Vivian a Stiwdios GS, pob un ohonynt, wedi cynorthwyo graddedigion mewn llawer o ffyrdd ac wedi deall bod ysgolion celf yn darparu lle i holi, i ddadlau ac i gydweithio. Man lle mae gweithiau sydd ar hanner yn cael cyfle i aros a chael eu hystyried, yn hytrach na bod pobl yn brysio heibio nhw. Safle lle gall dysgu ac arbrofi ffynnu.
“Mae’r arddangosfa hon, nid dim ond yn dathlu Coleg Celf Abertawe o fewn PCYDDS, ond mae’n cydnabod gwerth cyfredol a pherthnasedd ysgolion celf ar draws y DU, sydd, mewn rhai achosion, dan fygythiad.”
Medd, Katy Freer, Swyddog Arddangosfeydd Oriel Glynn Vivian: Rydym wedi ein cynhyrfu’n fawr i fod yn rhan o’r prosiect hwn sy’n dathlu daucanmlwyddiant Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r berthynas sy’n bodoli rhwng Oriel Glynn Vivian a’r coleg celf bob amser wedi bod yn un agos – curadur cyntaf yr oriel, sef William Grant Murray, oedd hefyd cyfarwyddwr cyntaf Coleg Celf Abertawe.
“Enw’r rhan y mae Oriel Glynn Vivian yn ei chwarae yn y prosiect hwn yw Art Society, arddangosfa mewn dwy ran mewn partneriaeth ag Artistiaid GS sy’n dathlu pwysigrwydd celf, artistiaid, addysg gelf a chydweithrediad drwy arddangos gwaith o’r Casgliad, deunydd archifau, ffotograffau a storïau gan bobl o’u hamser mewn ysgol gelf.”
Graddiodd cyn-fyfyriwr PCYDDS Tomos Sparnon gyda gradd BA Celf Gain yn 2018. Medd ef “Rwy wedi cynhyrfu’n fawr fy mod yn cymryd rhan yn yr arddangosfa a gynhelir yn Oriel Elysium i ddathlu daucanmlwyddiant y Brifysgol. Mae’n arddangosfa ragorol, sy’n dangos ehangder y dalent sydd wedi cael ei meithrin dros y blynyddoedd gan Goleg Celf Abertawe. Roedd fy nghyfnod yno yn ffantastig, un a wnaeth fy llunio i fod yr artist yr wyf erbyn heddiw, ac rwy’n ddiolchgar i’r darlithwyr Celf Gain a wnaeth fy herio a’m hannog i roi hwb ymlaen i’m gwaith er mwyn cyrraedd y lefel nesaf.”
Hwn hefyd oedd agoriad swyddogol man oriel newydd Coleg Celf Abertawe, sef Stiwdio Griffith. Yn ystod y lansiad, meddai’r Athro Ian Walsh: “Mae hi’n wych gweld cyn-fyfyrwyr a staff yn ailgysylltu â’i gilydd yma heddiw. Rydym wedi creu’r man unigryw hwn yn Ninefwr, sydd wedi’i yrru gan fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr, ac sy’n dathlu unigolrwydd yr artistiaid a’u hymateb i’r byd sydd ohoni.”
Gwnaiff yr arddangosfa barhau ar agor tan Dachwedd 5ed a dylai ymwelwyr wirio amser agor pob un o’r lleoliadau ar wahan.
Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ddarparwr blaenllaw yng Nghymru a’r DU o gyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Celfyddydau, ac mae wedi dod yn 3ydd yn y DU am Ddylunio a Chrefft, 5ed yn y DU am Gelf, a 9fed yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078