Coleg Celf Abertawe PCYDDS yn arddangos talent fel rhan o’r Prosiect byd-eang ‘Without Borders’


18.03.2022

Mae staff a myfyrwyr Coleg Celf Abertawe PCYDDS ymhlith 300 o gyfranogwyr sy’n gysylltiedig ag 21 o grwpiau ar draws y byd sydd wedi cyfrannu at brosiect celf byd-eang newydd. Mae ‘Without Borders’ wedi ceisio diddymu ffiniau, creu cynghreiriau a chysylltu â chymdogion gyda’r bwriad o ddod a phobl greadigol ynghyd er mwyn cydweithio ar arddangosfa deithiol ryngwladol o weithiau ar bapur – casgliad o dudalennau gan artistiaid.

‘Without Borders’ has sought to remove barriers, create alliances, and connect with neighbours and aims to bring creative people together, to collaborate in an international touring exhibition of works on paper – a collection of artists pages.

Mae Without Borders wedi’i guradu gan Jonathan Powell, Cyfarwyddwr Oriel yr Elysium, a  Heather Parnell, artist, a chyd-olygydd 1SSUE. Mae’r arddangosfa hon o weithiau celf bellach wedi gwneud ei ffordd o Kyoto i Nagoya yn Japan ar ran nesaf ei thaith o gwmpas y byd.

Ar ddiwedd yr arddangosfa hon, caiff y tudalennau hyn eu casglu at ei gilydd a’u hanfon ymlaen i leoliad arall er mwyn cael eu datgysylltu, eu harddangos ac yna, eu hail-gydosod cyn symud eto i’r lleoliad nesaf. Gwnaiff yr arddangosfa deithio ledled y byd, ac ar ddiwedd y daith, caiff y llyfr ei roi mewn llyfrgell o gasgliadau arbennig. Gallwch hefyd gael at y tudalennau yma.

Meddai Katherine Clewett, Cyfarwyddwr Rhaglen Sylfaen Tyst. AU Celf a Dylunio PCYDDS: “Rwyf wrth fy modd wrth weld bod yr arddangosfa erbyn hyn wedi cyrraedd ei chyfnod nesaf. Mae ‘Without Borders' yn cynnwys gwaith gan aelodau staff a myfyrwyr Coleg Celf Abertawe mewn cydweithrediad ag Oriel Gelf yr Elysium.

“Mae hwn yn brosiect digidol ac yn arddangosfa ffisegol sy’n esblygu gyda’r bwriad o ddod â chymunedau ac artistiaid ynghyd o bob rhan o’r byd.

“Mae teitl yr arddangosfa yn ategu syniadau a safbwyntiau ynglŷn â ffiniau gwleidyddol-gymdeithasol cyfredol. Roedd y prosiect yn gyfle i fyfyrwyr a staff adfyfyrio ar gysylltiadau cyfyng a chwilio am ymatebion cyfunol.

“Mae cyfranwyr Coleg Celf Abertawe yn cynnwys myfyrwyr a staff y cyrsiau Sylfaen, Gradd a MA, ac maent yn arddangos gwaith mewn amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys arlunio, paentio, ffotograffio a gwnïo.

“Rydym unwaith eto yn ddiolchgar i Jonathan yn Oriel Gelf yr Elysium am ein gwahodd ni i gyfrannu at yr arddangosfa amserol hon ac am weithio gyda ni wrth i ni ei dilyn o gwmpas y byd.”

Meddai Jonathan Powell: “Diolch yn fawr i Izuru Mizutani – Cyfarwyddwr Canolfan Celf a Meddwl Nagoya am gynnal yr arddangosfa uchelgeisiol hon. Hefyd, diolch yn fawr i Masahiro Kawanaka ac Art Spot Korin, Kyoto am ein croesawu ni yn flaenorol.”

Meddai’r artist a’r trefnydd prosiect Heather Parnell: “Mae’r arddangosfa hon, a’r hyn y mae hi’n ei gynrychioli, wedi dod yn fwy arwyddocaol nag erioed. Mae’r rhyddid i gysylltu â, ac i rannu gyda’n cymdogion, heb unrhyw rwystrau, ac mewn heddwch, yn sylfaenol i lwyddiant dynolryw.”

Mewn ymateb i’r argyfwng sy’n datblygu yn Wcráin, caiff cornel ‘Gweddi am Heddwch’ arbennig ei osod yn Oriel yr Elysium, lle gall artistiaid fynegi eu bwriad i weddïo am ddiogelwch pobl Wcráin. 

Students and staff at UWTSD’s Swansea College of Art are amongst 300 participants connected to 21 groups around the world who have contributed to a new global art project.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk