Côr Lleisiau'r Academi yn y Drindod Dewi Sant yn cynrychioli Cymru yng Nghastell Windsor.
13.05.2022
Bydd côr Lleisiau'r Academi o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynrychioli Cymru yn y Sioe Geffylau Frenhinol yr wythnos hon fel rhan o Ddathliadau'r Jiwbilî Blatinwm.
Bydd y côr, a ffurfiwyd gan yr Uwch Ddarlithydd Eilir Owen Griffiths, yn perfformio yng Nghastell Windsor, lle bydd tri deg o fyfyrwyr yn rhannu'r llwyfan gyda'r mezzo-soprano Katherine Jenkins yn canu emyn Cymraeg enwog Daniel James 'Calon Lân.' Wedi'i berfformio'n fyw i gynulleidfa o dros 5,000, bydd y digwyddiad hefyd yn cael ei ddarlledu i'r genedl ar ddydd Sul 15 Mai gan ITV. Mae'r sioe yn cynnwys dros 500 o geffylau a 1,000 o bobl gan gynnwys actorion ac artistiaid enwog, cerddorion, arddangosfeydd milwrol rhyngwladol o'r Gymanwlad ac Ewrop, y Lluoedd Arfog, dawnswyr ac arddangosfeydd marchogol byd-eang.
Mae'r côr yn cymryd rhan mewn cadwyn o alawon arbennig a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Debbie Wiseman, ac yn rhannu'r llwyfan gyda Emerald Storm, dawnswyr o Ogledd Iwerddon, a dawnswyr yr Edinburgh Tattoo Dance Troop o'r Alban ac yng nghwmni'r Gerddorfa Tri-Service ac aelodau o gerddorfa Symffoni Genedlaethol Lloegr.
Mae cymryd rhan mewn digwyddiad rhyngwladol fel hwn yn gyfle gwych i’r myfyrwyr gynrychioli Cymru.
Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes, DL,
"Mae hwn yn brofiad gwych i’r myfyrwyr, ac yn gyfle euraidd iddynt gymryd rhan mewn digwyddiad mor bwysig yn genedlaethol sy'n dathlu Jiwbilî Blatinwm y Frenhines.”
Bydd y myfyrwyr yn perfformio yng Nghastell Windsor o'r 12fed tan y 15fed o Fai.