Cyfres arddangosfeydd haf sydd ar y gweill gan Goleg Celf Abertawe ar ddod
04.05.2022
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brysur yn paratoi gwaith i'w arddangos yn yr arddangosfa haf flynyddol, a fydd yn digwydd mewn lleoliadau amrywiol o amgylch y ddinas ymhen rhai wythnosau.
Yn agor ar 20 Mai, bydd gwaith gan fyfyrwyr ym mlwyddyn olaf eu gradd o amrywiaeth o gyrsiau creadigol yn cael ei arddangos yn adeiladau Dinefwr, ALEX a'r BBC yn y Drindod Dewi Sant, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Cwadrant Abertawe ac Oriel Elysium, gyda sioeau dethol hefyd yn arddangos yn Llundain yn ddiweddarach yn yr haf.
Ar 20 Mai, bydd orielau'n agor rhwng 6-9pm ar gyfer gwesteion gwadd, a bydd yr arddangosfeydd yn parhau i gael eu harddangos i'r cyhoedd tan 1 Mehefin (ac eithrio dyddiau Sul a gwyliau banc).
Wrth edrych ymlaen at yr arddangosfeydd, dywedodd yr Athro Ian Walsh, Profost Campws Abertawe Y Drindod Dewi Sant: "Mae'r Drindod Dewi Sant yn falch iawn ein bod, unwaith eto, ym mlwyddyn ein daucanmlwyddiant, yn gallu agor ein drysau i'r cyhoedd a chroesawu ymwelwyr i weld gwaith y myfyrwyr sy'n graddio eleni o Goleg Celf Abertawe.
“Fel un o brif ganolfannau'r DU ar gyfer celf, dylunio a'r cyfryngau, mae'r Drindod Dewi Sant yn falch o lwyddiant ei myfyrwyr a'r safonau y maent yn eu cyflawni. Mae pwysigrwydd yr artist, y dylunydd, y gwneuthurwr ffilmiau, a'r meddwl creadigol wrth ddehongli ein hamseroedd ac adrodd straeon pwysig yn hanfodol yn y cyfnod heriol hwn.”
Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd yng Ngholeg Celf Abertawe: "Mae'r Sioe Graddedigion yn ddathliad ac yn benllanw astudiaeth israddedig ac ôl-raddedig myfyrwyr, lle byddwch yn profi creadigrwydd gwych ar draws amrywiaeth eang o feysydd pwnc celf a dylunio. Mae colegau celf yn newid y byd – bydd ein myfyrwyr, y byddwch yn gweld eu gwaith pan fyddwch yn ymweld â'r sioe, yn mynd yn eu blaenau i newid y byd”.
Dyluniwyd poster yr arddangosfa (yn y llun) gan Cameron Ridgeway, un o raddedigion BA ac MA Dylunio Graffig yn y Drindod Dewi Sant, sydd bellach yn gweithio fel technegydd ar gyfer Coleg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant. Mae ei ddyluniad wedi’i ddylanwadu gan brint Riso a’r cyfleusterau sgrîn-brintio sydd ar gael yn yr adran.
Mae manylion y cyrsiau sy’n arddangos ym mhob lleoliad i’w gweld ar wefan y sioe haf, ac maent wedi’u cynnwys isod:
Dinefwr: SA1 3EU
- Hysbysebu Creadigol
- Celf Gain
- Dylunio Graffig
- Ffotograffiaeth
- Patrymau Arwyneb a Thecstilau
ALEX: SA1 5DU
- Celf a Dylunio Sylfaen
- Crefftau Dylunio
- Dylunio Cynnyrch a Dodrefn
- MA Deialogau Cyfoes
BBC: SA1 5DT
- Technoleg Cerddoriaeth Greadigol (20 Mai yn unig)
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: SA1 3RD
- Darlunio
Elysium: SA1 5BH
- MA Deialogau Cyfoes (Y sioe ar agor 11am-3pm bob dydd tan 28 Mai)
Canolfan Siopa’r Cwadrant, Uned 26-27 SA1 3QW
- Celf Gain (Y sioe ar agor 11am-5pm, 21-29 Mai)
IQ, Campws Glannau Abertawe: SA18EW
- Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth (Y sioe yn agor am 6.30pm 9 Mehefin, ac yna 10am-5pm bob dydd, 10-16 Mehefin)
Canolfan Dylan Thomas : SA11RR
- Ffilm a Theledu (10 Mehefin yn unig)
Bydd arddangosfa eleni ar gael i’w gweld ar-lein o 7 Gorffennaf, tra bod gwaith carfan 2021 yn cael ei arddangos yn ddigidol ar hyn o bryd.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk