Cyhoeddi Darlith INSPIRE Y Drindod Dewi Sant ac ASLE UK yng Ngŵyl y Gelli 2022 ar Lenyddiaeth a Chynaliadwyedd: Rhyngweithiadau a Chysylltiadau
06.06.2022
'Straeon Solar: Sut mae Awduron wedi Harneisio Grym yr Haul' Sut mae'r ddynoliaeth wedi ceisio harneisio pŵer yr haul, a pha rolau y mae llenyddiaeth, celf a diwylliant wedi'u chwarae wrth ddychmygu posibiliadau ynni'r haul?
Bydd Gregory Lynall, Athro Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl, yn archwilio'r straeon sydd wedi eu hadrodd am bŵer solar, o'r Dadeni hyd heddiw, sut maen nhw wedi llunio datblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, a sut y gallan nhw ein helpu i feddwl am atebion i'r argyfwng hinsawdd yn Narlith INSPIRE ac ASLE UK ar Lenyddiaeth a Chynaliadwyedd yng Ngŵyl y Gelli 2022: Rhyngweithiadau a Chysylltiadau ar 30 Mai.
Trefnir Darlith flynyddol y Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter (INSPIRE) gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a'r Gymdeithas Astudio Llenyddiaeth a'r Amgylchedd, y DU ac Iwerddon (ASLE-UK). Bydd cyhoeddiad o ddarlithoedd blaenorol, sy'n dyddio'n ôl i'r ddarlith gyntaf yn 2013, yn cael ei lansio yn y digwyddiad eleni yn rhan o’r dathliadau i nodi Deucanmlwyddiant y Brifysgol.
Mae darlith INSPIRE yn seiliedig ar gystadleuaeth a'i nod yw tynnu sylw at ymchwil sy'n archwilio'r berthynas rhwng llenyddiaeth a'r ddadl ar gynaliadwyedd. Gwahoddodd y panel beirniadu gyflwyniadau sy'n archwilio sut mae llenyddiaeth, ar unrhyw un o'i ffurfiau, yn ymateb i'n gallu i amgyffred â’r byd naturiol yng nghyd-destun dadleuon ynghylch cynaliadwyedd ac yn cael ei lunio gan y gallu hwn.
Dilynir y ddarlith gan drafodaeth gyhoeddus rhwng yr Athro Lynall, Dr Jane Davidson, Dirprwy Is-Ganghellor Emeritws ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sylfaenydd INSPIRE a chyn Weinidog Llywodraeth Cymru dros Gynaliadwyedd, a'r Athro Brycchan Carey, Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Northumbria ac Is-lywydd o'r Gymdeithas Astudio Llenyddiaeth a'r Amgylchedd, y DU ac Iwerddon.
Meddai’r Athro Carey: "Rydym yn gyffrous am barhau i gefnogi'r gystadleuaeth bwysig hon, sydd bellach yn ei degfed flwyddyn. Mae beirdd, dramodwyr a nofelwyr wedi ysbrydoli pobl ers amser maith i ddisgrifio a mwynhau yn y byd naturiol ac i feddwl yn ofalus am ein perthynas â'r amgylchedd. Fel y dengys Gregory Lynall, mae awduron wedi dychmygu potensial ynni'r haul ers canrifoedd, a'r math hwn o ddychymyg a chreadigrwydd y mae arnom ei angen yn awr i helpu i greu dyfodol cynaliadwy."
Meddai Dr Davidson: "'Bob blwyddyn mae'n bleser mawr ymgysylltu ag artistiaid dawnus sydd â diddordeb mewn natur a'r amgylchedd sy'n dod â dealltwriaeth newydd i ni oherwydd eu cyfleuster eithriadol gyda geiriau. Mae'r gystadleuaeth flynyddol yn galluogi ymwelwyr y Gelli i weld y doniau anhygoel sydd yn ein prifysgolion ac sy’n creu cyfle i ailfframio materion pwysig. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at archwilio beth sydd y tu ôl i'r ddarlith fuddugol eleni a hefyd i ailbrofi darlithoedd blaenorol drwy gyhoeddi'r casgliad."
Nodyn i'r Golygydd
Sefydlwyd INSPIRE (Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn wreiddiol gan Dr Jane Davidson. Mae INSPIRE wedi esblygu i sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn sail i strategaeth arloesi, ymchwil a menter y brifysgol. Mae'n parhau i fod yn allweddol i genhadaeth y Brifysgol i ymgorffori cynaliadwyedd yn ei harferion ei hun ac i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau i'w myfyrwyr a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu cyfraniad i'r economi, y gymuned a'r amgylchedd yn y dyfodol.
Enillodd INSPIRE yn Y Drindod Dewi Sant wobr 2013 y Guardian am y fenter gynaliadwyedd fwyaf effeithiol mewn addysg uwch yn y DU, Gwobr Aur 2014 Cymdeithas y Pridd am ei chefnogaeth i gynhyrchwyr lleol ac yn 2015, cododd Y Drindod Dewi Sant o'r 113eg safle yng Nghynghrair Prifysgolion People and Planet i’r wythfed yn y DU a’r cyntaf yng Nghymru.
Am ASLE-UKI
Sefydlwyd Cymdeithas y DU ac Iwerddon ar gyfer Astudio Llenyddiaeth a'r Amgylchedd (ASLE-UKI) yn 1998. Ei nod yw cynrychioli a chefnogi ysgolheigion ac awduron, ym Mhrydain Fawr, Iwerddon, a thu hwnt, sydd â diddordeb yn yr amgylchedd a'i fynegiant yn y dychymyg diwylliannol.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk