Cyhoeddi enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2022.


27.07.2022

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi mai enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2022 yw Ffion Hann-Jones, myfyrwraig BA Addysg Gynradd gyda SAC o ardal Abertawe.

Enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2022 (graddio)

Dyfernir Gwobr Goffa Norah Isaac i’r myfyriwr a gyfrannodd fwyaf, yn nhyb y Brifysgol, at fywyd Cymraeg y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bu Norah Isaac yn  Brif Ddarlithydd Drama a’r Gymraeg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin am flynyddoedd lawer lle ysbrydolodd genedlaethau o fyfyrwyr. Magodd do ar ôl to o fyfyrwyr i fod, yn eu tro, yn athrawon medrus, a hwythau'n diolch am y cyfle a gawsant i fod wrth draed meistr.      

Gyda chefnogaeth a thrwy haelioni Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, trefnwyd bod Ffion yn derbyn ei gwobr mewn derbyniad ar gampws Caerfyrddin yn gynt yr wythnos hon.

Bu Ffion yn llysgennad gwych ar ran y Gymraeg yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol.  Yn ystod ei hail a’i thrydedd flwyddyn, bu’n llysgennad ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC), lle bu’n brysur ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud clipiau, yn rhannu gwybodaeth ac yn tynnu sylw at ddigwyddiadau’r Brifysgol ar Tiktok ac Instagram. Cafodd gyfle hefyd i recordio cyfweliadau ar gyfer BBC Radio Cymru yn rhannu ei phrofiad fel myfyrwraig a oedd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu hefyd yn cydweithio gydag adrannau gwahanol o fewn y Brifysgol fel yr adran iechyd a lles er mwyn denu mwy i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.  Fel llysgennad hefyd, bu Ffion yn helpu i gyd-gynllunio Penwythnos y Glas, yn ogystal â helpu gyda threfnu Diwrnodau Agored, siarad gydag ysgolion a cholegau chweched dosbarth,  yn ogystal â chael y cyfle i gael Interniaeth gydag INSPIRE.

Meddai Ffion: “Fel merch sy’n dod o deulu lle does neb yn siarad Cymraeg, mae’r ffaith fy mod wedi llwyddo yn fy ngradd ac i gyflawni gweithgareddau allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn fraint enfawr. Ymhellach, mae’r ffaith fy mod i wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr o ganlyniad i fy ngwaith caled i ddenu sylw at bwysigrwydd y Gymraeg yn codi fy nghalon.”

Yn dilyn profiadau addysgu llwyddiannus, bydd Ffion yn cychwyn swydd fel athrawes gynradd  fis Medi gan barhau i fod yn llysgennad dros y Gymraeg a’i diwylliant. Ychwanegodd:

“Fel athrawes gynradd mewn ysgol benodedig Gymraeg, mae’n hynod o bwysig i mi addysgu’r plant pa mor allweddol yw hi i ddiogelu’r iaith ar gyfer y dyfodol.”

Enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2022

Dywedodd y darlithydd Aled Williams, o Athrofa Addysg y Brifysgol: “Graddiodd Ffion eleni ar ôl astudio cwrs tair blynedd BA Addysg Gynradd. Profodd i fod yn fyfyriwr cydwybodol a gweithgar trwy gydol ei chwrs. Roedd addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iddi. Fel cynrychiolydd myfyrwyr, roedd yn llais cryf dros ei chyd-fyfyrwyr a thros y Gymraeg o fewn y Brifysgol.

“Roedd ganddi egni a brwdfrydedd fel darpar athrawes. Un o'i phrif rinweddau yw ei hawydd i gynnal safonau uchel iawn bob tro, nodwedd y byddai Norah Isaac ei hun yn falch ohoni. 

“Mae'n cychwyn ar ei swydd gyntaf fel athrawes yn ysgol Bryn y Môr ym mis Medi. Fel Prifysgol rydyn ni'n dymuno'n dda iddi ac yn hollol hyderus y bydd hi'n gwneud gwahaniaeth positif i fywydau plant Cymru yn ystod ei gyrfa.”

Ychwanegodd Huw Iorwerth, ysgrifennydd Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin,

“Mae Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin wedi noddi’r wobr hon oddi ar 2015. Fel Cymdeithas mae’n nôd gennym ni i hyrwyddo balchder yn ein cymuned. Mae’n addas iawn cysylltu enw arloeswr ym myd addysg fel Norah Isaac, oedd mor angerddol dros ddatblygu talentau pobl ifainc, â’r wobr hon. Rydym yn llongyfarch Ffion Hann-Jones ar ei llwyddiant a dymunwn yn dda iddi hi am y dyfodol.”

Nododd Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Caerfyrddin,

"Mae’r Brifysgol yn llongyfarch Ffion yn ddidwyll iawn ar ei llwyddiant. Mae’n llwyr haeddu’r anrhydedd hon yn sgil ei chyfraniadau gwerthfawr wrth hyrwyddo’r Gymraeg yn y brifysgol gan hefyd ennill gradd dosbarth cyntaf yn ddiweddar. Dymunwn y gorau iddi yn ei gyrfa fel athrawes yn Ysgol Gymraeg Bryn-y-Môr, Abertawe."

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk