Cyn-fyfyriwr Actio yn disgleirio mewn comedi Shakespearaidd yn Theatr Y Crucible, Sheffield


12.10.2022

Graddiodd Lee Farrell yn 2013 gyda gradd BA mewn Actio, ac ers hynny, mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth. Rheswm Lee am yr hyder a’r sgiliau sydd ganddo i lwyddo ym myd cystadleuol actio yw’r cyfnod y gwnaeth ef dreulio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Meddai ef: “Roedd fy amser yn Y Drindod Dewi Sant yn wych. Gwnes gyfeillion oes yno sydd yn dal i fod yn rhan enfawr o’m bywyd. Cefais y cyfle mwyaf anhygoel. Gwnaeth y cwrs fy helpu’n fawr gyda fy hunan-barch a’m hyder. Roedd yr athrawon yn gefnogol iawn a gwnaethant bob amser fy annog a’m gwthio. Gwnes hoffi’n fawr y modwl ‘Absurd Theatre’, hwn oedd un o’r uchafbwyntiau, ac yn eithaf addas, mwynheais yn fawr y modwl ar Shakespeare, ac fel mae’n digwydd, y marc a gefais am y modwl hwnnw oedd un o’r marciau gorau i mi ei gael.”   

Ar hyn o bryd, mae Lee yn cymryd rhan yn un o gomedïau mwyaf hoffus William Shakespeare, sef  ‘Much Ado about Nothing’, sydd wedi’i gyd-gynhyrchu gan Ramps on the Moon, ac a agorodd yn Theatr Y Crucible ym mis Medi, cyn dechrau ar Daith o gwmpas y DU. Consortiwm o theatrau yw Ramps on the Moon, sy’n ceisio cyfoethogi storïau a’r ffyrdd y cânt eu hadrodd drwy roi artistiaid a chynulleidfaoedd byddar ac anabl wrth galon ei waith. Mae Lee, sy’n chwarae’r cymeriad Verges, yn mwynhau’n fawr yr hwyl ac yr ailadrodd creadigol o un o’r hoff glasuron, sydd ar daith tan Dachwedd 12fed.

Meddai Lee, wrth adfyfyrio ar y byd actio a’i wahanol lwybrau: “Hyd yn hyn, mae fy ngyrfa wedi bod yn anhygoel. Mae hi wedi bod yn siwrnai anodd dros ben, a bu rhaid i mi ymgymryd â llawer o waith caled a chadw ati. Mae’r diwydiant hwn yn un ymdrechgar iawn ac felly, mae’n bwysig i mi ganolbwyntio a chadw’n gryf fy mhendantrwydd a fy nghred ynddo fi fy hun.” Mae Lee wedi ymddangos yn y Theatr Genedlaethol mewn drama newydd o'r enw ‘Common’, profiad a newidiodd ei fywyd, gan ei alluogi i weithio ochr yn ochr ag Anne Marie Duff a Cush Jumbo. Ar ôl hynny, cymerodd ran mewn perfformiad yn y Tŷ Opera Brenhinol o’r cynhyrchiad newydd o ‘Lessons in Love and Violence’ wedi’i gyfarwyddo gan Katie Mitchell. Ochr yn ochr â’i raglen gynhyrfus o berfformiadau, y mae llawer o glyweliadau a sesiynau ymarfer i’w mynychu.

Meddai Lynne Seymour, Uwch-ddarlithydd ar y cwrs BA Actio: “Cefais y pleser o weithio gyda Lee yn 2013, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ar y prosiect cyntaf i mi ei gyfarwyddo. Roedd ei ymrwymiad a’i ymroddiad bod amser yn disgleirio, ynghyd â’i dalent! Roedd ef nid dim ond yn aelod gwych o’r cwmni, ond yn fyfyriwr a oedd bob amser yn mynd yr ail filltir er mwyn datblygu ei gymeriadau ar gyfer y prosiect yr oeddem yn gweithio arno, a gwnaethom chwerthin llawer ar hyd y ffordd hefyd. Rwyf wedi dilyn ei yrfa ers iddo raddio, ac rwyf wedi bod hollol wrth fy modd yn gweld ei gyflawniadau hyd yn hyn, ond nid ydynt wedi peri syndod i mi oherwydd roedd ef bob amser yn mynd i wneud ei farc ar y diwydiant, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn symud ymlaen ymhellach ac yn parhau i greu gwaith aruthrol.”

Yn cynllunio i’r dyfodol, meddai Lee: “Hoffwn barhau i fynychu clyweliadau a thyfu fel actor. Rwy’n awyddus iawn i gymryd rhan mewn prosiectau sgrîn ac i barhau ymgymryd â gwaith da ar gyfer y Theatr. Rywbryd, rwy’n wir obeithio gwneud rhywfaint o fy ngwaith i fy hun hefyd. Nifer o weithiau, rwyf wedi teimlo fel rhoi’r gorau iddi a gadael y diwydiant. Mae cael eiliadau fel hyn yn beth hollol naturiol. Rwyf wedi dysgu sut i’w goresgyn. Mae’n ddiwydiant anodd ond boddhaol – mae rhaid i chi ei hoffi a chadw ati, gan ymladd.”

Gwybodaeth Bellach

Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM. MCIPR
Principal Communications and PR Officer Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184  (4184) / 07850 321687                                                               
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk   / alumni@uwtsd.ac.uk
LinkedIn: https://www.linkedin.com/showcase/uwtsd-alumni/