Cyn-fyfyriwr Animeiddio Cyfrifiadurol a lwyddodd ar gwrs israddedig yn dychwelyd i astudio ar gwrs ôl-raddedig


25.08.2022

Dechreuodd Tiegan Hughes, a raddiodd â BA Animeiddio ac Effeithiau Gweledol, ar ei thaith gyda'r Drindod Dewi Sant ar y cwrs Celf a Dylunio Sylfaen. Ar ôl darganfod gwaith celf animeiddiedig 3D ysbrydoledig, a grëwyd gan gyd-fyfyriwr israddedig ar gyfer Sioe Haf Coleg Celf Abertawe, ymgeisiodd am le ar y cwrs Animeiddio Cyfrifiadurol yn 2018 ar ôl cwblhau ei chwrs sylfaen.

Dywedodd Tiegan "Roeddwn i wir eisiau dysgu sut i greu celf 3D a dyluniadau cymeriad, yn fwy na'r animeiddio ei hun, ond roeddwn hefyd yn edrych ymlaen at ddysgu animeiddio a rendro yn ogystal. Fe wnes i fwynhau ambell fodwl nodedig yn fawr a rhoddodd rhai o'r rhain gyfleoedd allanol i mi hefyd. Yn 2019 , ar ôl i mi ddychwelyd i Instagram, daeth fy ngwaith i sylw Wacom, felly ar gyfer un o'm modylau yn yr ail flwyddyn penderfynais wneud Hysbyseb ar gyfer Wacom, gyda'u caniatâd, o'r enw First Cinpressions. Roedden nhw'n hoff iawn o'r animatig a greais ar gyfer y cyn-gynhyrchiad, felly dyma nhw'n ei bostio ar eu cyfryngau cymdeithasol. 

Yn 2020, penderfynais wneud ychydig o brosiectau personol fy hun wedi'u hysbrydoli gan OMEN gan HP, ac roedden nhw'n eu hoffi'n fawr, ac yn 2021 roedd gen i fodwl o'r enw Tueddiadau Datblygol a chefais ganiatâd ganddyn nhw i ddefnyddio eu brandio ar gyfer y modwl. Roeddwn i’n gweithio gydag un myfyriwr arall o'r adran gyfrifiadura i greu'r prosiect hwn,  ac roedd e’n gweithio ar y prisio a'r cyllidebu, a minnau’n dylunio'r cynnyrch ac yn hysbysebu. Fe wnes i bostio’r posteri hysbysebu ar Instagram, a chefais gyfle i greu amrywiol bapur wal ar gyfer OMEN i lansio PC gan eu bod yn eu hoffi cymaint. Ers hynny, mae fy gwaith hefyd wedi dod i sylw Alienware yn sgil darlun a greais ar gyfer fy mhortffolio.”

Meddai Phil Organ, Uwch Ddarlithydd ar y cwrs Animeiddio Cyfrifiadurol: “Mae llwyddiant Tiegan, ei gradd a'i chysylltiadau â diwydiant, yn gymeradwy - ond nid yn eithriad. Mae ein myfyrwyr Animeiddio ac Effeithiau Gweledol yn ymateb yn dda i unrhyw her newydd neu ffordd newydd o ddysgu, gan arddangos cryn gryfder a gwydnwch wrth iddynt ymarfer dulliau animeiddio newydd neu feddalwedd ac offer effeithiau gweledol, i addasu i dechnolegau newydd cyffrous. Mae'r datblygiadau a'r trawsgroesiadau yn y diwydiant yn rhedeg yn gyfochrog mewn addysg, gan ganiatáu mwy a mwy o greadigrwydd ac addasiadau gwych. Mae ein myfyrwyr bellach yn cyfuno gwaith clasurol gyda 2D neu 3D, ac efelychiadau effaith gyda chymeriadau - a mwy - yn eu dyluniadau, eu lluniau a’u dilyniannau. Mae'r profiadau hyn yn rhoi'r llwyfan gorau ar gyfer cyflogaeth. 

Maent yn dechrau fel prentisiaid, sy’n gweithio gydag offer digidol y Drindod Dewi Sant; maent yn gadael fel artistiaid ac arloeswyr gwirioneddol, i saernïo gweledigaethau a straeon newydd yfory. Mae tapiau arddangos ar ddiwedd y flwyddyn yn parhau i amlygu arbenigedd creadigol graddedigion a'u cryfderau mewn modelu a dylunio animeiddiedig, wrth iddynt lwyddo i gael swyddi anhygoel yn y diwydiant fel artistiaid digidol, gan weithio mewn  timau effeithiau gweledol - neu sicrhau gwaith animeiddio yn y stiwdios cynhyrchu mawr - ar draws y DU, ac ar draws y byd.”

Mae Tiegan wedi canmol yr ymrwymiad a'r gefnogaeth gan academyddion yn ystod y pandemig a'r cymorth a ddarperir i fyfyrwyr, ac yn sgil hyn a'i llwyddiant ar y cwrs israddedig, mae’n dychwelyd i'r Drindod Dewi Sant i gwblhau MA mewn Hysbysebu.  Dymunwn bob lwc i Tiegan yn ei hastudiaethau a'i gyrfa yn y dyfodol.

 
 

Gwybodaeth Bellach

Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM
Principal Communications and PR Officer Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184  (4184) / 07850 321687                                                               
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk