Cyn-fyfyriwr Anthropoleg Y Drindod Dewi Sant yn cael gwahoddiad i gyflwyno sgwrs TEDx


25.04.2022

Yn ddiweddar, gwahoddwyd Malsa Maaz, un o gyn-fyfyrwyr Anthropoleg Y Drindod Dewi Sant, i gyflwyno sgwrs TEDx gyda’r teitl ‘Y stori dynol tu ôl i’r cabinet gwydr’.

Former UWTSD Anthropology student, Malsa Maaz, was recently invited to give a TEDx talk under the title ‘The human story behind the glass cabinet’.

Anthropolegydd diwylliannol yw Malsa ac mae’n angerddol am ddiwylliant y Maldives. Yn fab i longwr, tyfodd i fyny yn gwrando ar straeon o bob rhan o’r byd a chafodd ei hysbrydoli ganddynt.

Ar ôl gorffen ei gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn Archeoleg ac Anthropoleg a Meistr Ymchwil mewn Anthropoleg Gymhwysol yng nghampws Llambed Y Drindod, cynhaliodd waith maes yn archwilio i ddiwylliant cnau coco’r Maldives. Mae ei hymchwil diweddaraf yn archwilio i sut mae’r corff dynol yn dal a throsglwyddo gwybodaeth ddiwylliannol.

Mae sgwrs TEDx yn gyfle i siaradwyr gyflwyno syniadau gwych, cyflawn mewn llai na 18 munud.  Yn ystod ei sgwrs, dadleuodd Malsa bod rhaid i rywun fod yn bresennol, talu sylw a chymryd rhan gyda phobl i ddeall y byd o’u safbwynt nhw.  Yn dilyn ei sgwrs, dywedodd:

“Roedd yn fraint cael fy ngwahodd i gyflwyno’r sgwrs TEDx hon ac i gael cyfle mor wych i gyflwyno fy ngwaith.  

Yn ystod y sgwrs edrychais ar sut y gallwn ddefnyddio dulliau anthropoleg, fel arsylwi gan gyfranogwr i wirioneddol gwerthfawrogi diwylliant tu hwnt i’r cabinet gwydr, a sut i werthfawrogi gwrthrych gorffenedig gyda phopeth sydd ynghlwm ynddo – fel yr amgylchedd o’i gwmpas, y defnyddiau a’r sgyrsiau sy’n digwydd.

Dadleuais fod rhaid i ni fod yn bresennol, talu sylw a chymryd rhan gyda phobl i ddeall y byd o’u safbwynt nhw. Defnyddiais enghreifftiau o’m gwaith maes a thraethawd hir israddedig, sef ‘Coconuts for Life! Exploring the Change and the Continuity of the Coconut Culture in the Maldives'. Mae’r Maldives wedi cael eu dylanwadu gan wahanol ardaloedd y byd, ond rydym wedi cymryd y dylanwadau hyn a rhywsut wedi gwneud popeth yn unigryw o ‘Faldifaidd’.

Siaradais hefyd am y ffordd roeddem yn byw mewn harmoni perffaith gyda’n hamgylchedd naturiol, a gan fod cnau coco ym mhobman yma, gwnaethom ddod o hyd i ffyrdd i ddefnyddio pob un rhan o’r goeden a phob cyfnod o’r ffrwyth. Siaradais hefyd am bwysigrwydd iaith wrth ddeall diwylliant, ei bod yn mowldio’r ffordd rydym yn meddwl. Er enghraifft, yn ein hiaith Dhivehi, mae gennym air ar gyfer yr holl rannau a'r holl gyfnodau ond wrth ei gyfieithu i’r Saesneg neu’r Gymraeg, mae’n troi’n ‘coconut’ neu ‘cneuen coco’ sydd ond yn dangos pa mor bwysig ac arwyddocaol oedd cnau coco yn ein diwylliant.”

Dr Luci Attala, Uwch Ddarlithydd mewn Anthropoleg, oedd tiwtor Malsa yn ystod ei hamser yn y brifysgol.  Ychwanegodd:

“Roeddwn wrth fy modd yn gweld bod Malsa wedi cael y cyfle gwych hwn i gyflwyno ei gwaith. Roedd hi’n fyfyriwr gwych ac mae stori ffantastig ganddi i’w hadrodd.  

Mae ei gwaith ymchwil yn eithriadol o ddiddorol sy’n arwain at sgwrs hynod o ddiddorol.  Roedd yn glir bod gan y gynulleidfa ddiddordeb go iawn yn yr hyn oedd ganddi i’w ddweud ac roeddynt yn awyddus i archwilio’i syniadau ymhellach.  

Mae dyfodol disglair iawn o’i blaen a dymunaf yn dda iddi.”

Dysgwch ragor am ddarpariaeth Anthropoleg Y Drindod Dewi Sant ar wefan y Brifysgol.  

Former UWTSD Anthropology student, Malsa Maaz, was recently invited to give a TEDx talk under the title ‘The human story behind the glass cabinet’.