Cynhadledd Canolfan Plant a Phobl Ifanc PCYDDS 2022
18.10.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dod ag academia, arbenigwyr iechyd plant ac asiantaethau partner ynghyd i drafod a dadlau’r heriau sy’n wynebu plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Cynhelir y gynhadledd undydd, ‘A child in Our Times: Supporting children’s and Young People’s needs and well-being: research, practice and policy,’ yn adeilad IQ y Brifysgol, SA1, ddydd Gwener, Hydref 21ain, a bydd hi’n cynnwys sgyrsiau gan ddau brif siaradwr a wnaiff rannu eu profiadau o gefnogi plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed.
Gwnaiff Dr Abigail Wright, awdures @psychedmum ac Uwch Seicolegydd Addysg ac Arbenigwraig Blynyddoedd Cynnar roi sgwrs o’r enw: ‘Supporting babies, children and young people’s wellbeing: recovery or discovery?’
Gwnaiff Dr Helen Jones: Seicolegydd Clinigol a therapydd Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT), CAMHS Arbenigol drafod: ‘Working within the Holy Grail – is it really what we need?’
Caiff amrywiaeth eang o weithdai eu cynnal a’u harwain gan Catherine Slade, Charlotte Greenway, a Paul Darby, darlithwyr yn Y Drindod Dewi Sant. .
Caiff gweithdy ar ‘Supporting mental health and building resilience in young asylum seekers and refugees in Wales: breaking down barriers,’ ei arwain gan y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd. Gwnaiff y gweithdy hwn archwilio’r ffyrdd y mae’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn cefnogi plant a phobl ifanc o gefndiroedd BAME yng Nghymru, a rhannu ei phrofiad o gyd-gynhyrchu, ymgysylltu’n greadigol a chwnsela plant a phobl ifanc o amrywiol ddiwylliannau.
Hefyd, fe fydd gweithdy gan Adele Thomas o Ysgol Gynradd Notais ar flaenoriaethu iechyd meddwl da ymhlith disgyblion ysgolion cynradd yn sgil covid, ac un arall ar gamddefnyddio sylweddau gan bobl ifanc, sef: ‘Support, guidance, and harm reduction’ gan Barod Choices.’
Meddai Dr Ceri Phelps, Seicolegydd a Chyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol: Seicoleg a Chwnsela: ‘Wrth i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) barhau i ddathlu ei Daucanmlwyddiant a’i hanes o gefnogi ac addysgu pobl ifanc a’r sawl sy’n yn eu cefnogi, gwnaiff y gynhadledd rad ac am ddim hon ddod â rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau partner ar draws De a Gorllewin Cymru ynghyd am ddiwrnod o drafod, dadlau a rhwydweithio.
“Gyda dau brif siaradwr ffantastig a wnaiff rannu eu profiad o gefnogi plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, ac amrywiaeth eang o weithdai rhyngweithiol, gallwn fod yn siwr o gael diwrnod cyffrous ac un a wnaiff ysgogi meddwl.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk