Cynnydd mawr gan Staff Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n dysgu Mandarin
13.01.2022
Ar ôl chwe wythnos o astudio, gwelwyd staff y Drindod Dewi Sant a wnaeth fynychu cwrs Sefydliad Confucius o’r enw ‘Cyflwyniad i Fandarin’ yn derbyn eu tystysgrifau.
Cynlluniwyd y cwrs hwn i gynorthwyo datblygiad proffesiynol ac i roi hyfforddiant sylfaenol mewn sgiliau cyfathrebu Tsieinëeg i aelodau staff sy’n addysgu myfyrwyr Tsieineaidd. Gwnaeth y cwrs gynnwys ymadroddion defnyddiol Tsieinëeg, yn ogystal â chynnig trosolwg hudol o ddiwylliant Tsieineaidd. Gwnaeth y myfyrwyr gynnydd mawr parthed Tsieinëeg lafar, a gwnaeth hyn eu galluogi i gyfarch ei gilydd a thrafod sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Meddai un o’r myfyrwyr sydd ar y cwrs, sef, Dr. Jessica Clapham, Arweinydd ELT Rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol Y Drindod Dewi Sant, Llambed:
"Ymunais â’r cwrs 6-wythnos ‘Cyflwyniad i Fandarin’ yr oedd Cindy Chen o’r Sefydliad Confucius yn ei redeg oherwydd mae gallu cyfathrebu yn yr iaith Fandarin yn agor drysau i fyd hollol newydd ar gyfer teithio a gweithio yn y dyfodol, ond mae hefyd yn ein galluogi ni i gyfathrebu gyda’n grwpiau Ôl-raddedig, sy’n cynnwys yn bennaf myfyrwyr tramor o dir mawr Tsieina.
Roeddwn wrth fy modd yn derbyn fy nhystysgrif ac yn sgwrsio gyda fy nghydweithwyr a chyda arbenigwyr Tsieinëeg a diwylliant Tsieineaidd.
Yn arbennig, gwnes fwynhau’r dulliau addysgu a oedd yn gymysgedd o Addysgu Iaith Cyfathrebol (Communicative Language Teaching - CLT) a Chlywieithrwydd (Audiolingualism). Fel ieithydd cymhwysol, roedd hi’n ddiddorol i mi gael fy addysgu, a chefais fy synnu gan gymaint y gwnaethom ei gyflawni mewn cyfnod byr gyda thiwtoriaid mor frwdfrydig. Cawsom ddigon o gyfleoedd i ymarfer mewn amgylchedd cefnogol ac ymlaciol, a gwnaethom ddysgu iaith a oedd yn berthnasol iawn i’n grwpiau addysgu, gan gael mynediad ar yr un pryd at wareiddiad hynafol.
Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwn!"
Ar ôl meistroli’r egwyddorion sylfaenol, mae rhai o’r garfan bellach am fynd ymlaen i astudio am y prawf HSK hyfedredd mewn Tsieinëeg. Caiff y cwrs HSK 1 newydd hwn ei gynnig o ddiwedd mis Ionawr, ac mae’n golygu dwy awr o ddosbarthiadau ar-lein yr wythnos, sy’n cynnwys y cwricwlwm HSK 1 sefydlog ac sy’n arwain at dystysgrif a gydnabyddir yn rhyngwladol. Gwnaiff y cwrs hwn barhau tan yn gynnar ym mis Mehefin pan gaiff y prawf HSK ei gynnal. Mae croeso i bob aelod o’r staff ymuno.
Meddai’r tiwtor cwrs, Cindy Chen: ‘Rwy’n falch iawn o gyflawniad y myfyrwyr mewn dim ond chwe wythnos o ddysgu Tsieinëeg. Gwnaiff y cwrs HSK 1 adeiladu ar y sail gadarn hon, ac mae ef wedi ei gynllunio i roi i fyfyrwyr hyfforddiant trwyadl mewn Tsieinëeg lafar, yn ogystal â’u galluogi i adnabod llythrennau Tsieinëeg a darllen pinyin.’
Mae’r cwrs Tsieinëeg HSK 1 yn rhad ac am ddim i staff y brifysgol, a chaiff ei gynnal o ddiwedd mis Ionawr ar adeg o’r dydd sy’n gyfleus i staff. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch neges at k.krajewska@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076