Cyrn carw coch tair mil oed yn dychwelyd i Borth ar gyfer arddangosfa ddiweddaraf Portalis


08.08.2022

Mae arddangosfa newydd yn cynnwys y cyrn carw coch enwog o’r oes efydd wedi agor yn Amgueddfa Gorsaf Borth, Ceredigion.

Martin Bates

Gwelwyd y cyrn am y tro cyntaf ar draeth y Borth gan Julien Culham a Sharon Davies-Culham ym mis Ebrill 2016. Adroddwyd am y darganfyddiad i’r Comisiwn Brenhinol yn Aberystwyth a roddodd wybod i’r Athro Martin Bates, archeolegydd sydd wedi’i leoli ar gampws y brifysgol yn Llambed, am y darganfyddiad. Roedd yr Athro Bates wedi bod yn gweithio yn y Borth yn flaenorol lle mae wedi bod yn ymchwilio i’r goedwig gynhanesyddol a gladdwyd o dan ddŵr a thywod dros 4,500 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r arddangosfa ddiweddaraf hon yn Amgueddfa Gorsaf Borth wedi’i sefydlu fel rhan o brosiect Portalis sy’n brosiect peilot 20 mis sy’n archwilio’r cysylltiad cynharaf rhwng Iwerddon a Chymru, yn dyddio’n ôl i’r cyfnod Mesolithig Cynnar. Mae Portlais, a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, yn cael ei arwain gan Sefydliad Technoleg Waterford ac yn cael ei gefnogi gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Ceredigion a Siambr Fasnach Waterford.

Yn dilyn agor yr arddangosfa, dywedodd yr Athro Martin Bates:

“Roedd y cyrn yn ddarganfyddiad gwych a ddaeth â’r goedwig a’r cyffiniau i’r amlwg. Wedi i mi gael y cyrn o’r môr, fy meddwl cyntaf oedd ‘sut y bydden ni’n gallu eu defnyddio i ehangu ein gwybodaeth o’r ffyrdd yr oedd y draethlin o amgylch Borth wedi datblygu?’ Yr hyn nad oeddwn yn sylweddoli ar y pryd oedd y i ba raddau yr oeddent i ysbrydoli cymaint mwy.

Rydym yn falch iawn o weld y cyrn yn dychwelyd i Amgueddfa Gorsaf Borth fel rhan o’r arddangosfa newydd hon sy’n gysylltiedig â phrosiect Portalis. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at gynnal taith gerdded drwy’r coedwigoedd yn ddiweddarach yn y mis.”

Yn ystod y mis bydd yr Athro Martin Bates hefyd yn arwain taith gerdded ar y blaendraeth yn Borth i archwilio’r goedwig danddwr sydd wedi’i lleoli rhwng Borth a phentref Ynyslas. Trefnir y daith gerdded ar y 27ain o Awst am 2pm. Mae croeso i bawb ac fe'u gwahoddir i gyfarfod yng ngorsaf reilffordd y Borth.

Mae’r arddangosfa ei hun ar agor bob wythnos ar ddydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Sadwrn rhwng 12.00 a 16.00pm drwy gydol mis Awst ac yn dod i ben ar ddydd Sadwrn 3 Medi.

First finds at Llanllyr excavation

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076