Darlithydd a merch radd o’r Drindod Dewi Sant i sialensio ‘her rwyfo anoddaf y byd’
07.11.2022
Mae Denise Leonard, darlithydd Addysg Antur Awyr Agored ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn hyfforddi ar gyfer un o’r rasys anoddaf ar y ddaear, sef - The Talisker Whisky Atlantic Challenge.
Gwnaiff Denise, Liz Collyer, merch radd arall o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a astudiodd am radd BA Addysg Antur Awyr Agored, Helen Heaton a Heledd Williams, pob un ohonynt yn dod o Sir Benfro, ymuno â thimau a fydd yn rhwyfo yn ystod 2025 am 3,000 o filltiroedd heb gymorth dros fôr agored, o’r Ynysoedd Dedwydd i’r Caribî.
Mae’r ras laddfaol hon, yn golygu rhwyfo hyd at 60 diwrnod, gyda chyrff a meddyliau yn cael eu profi i’r eithaf. Nid rhywbeth i’r gwangalon yw croesi’r Iwerydd mewn cwch rhwyfo. Mae mwy o bobl wedi dringo Everest nag sydd wedi croesi’r darn o fôr bradwrus hwn, gyda thonnau hyd at 20 troedfedd o uchder i’w hymladd.
Meddai Denise: “Pedair merch gyffredin o Sir Benfro ydym sydd am wneud rhywbeth rhyfeddol. Rydym am ddangos na all unrhyw beth ein hatal rhag cyflawni pethau mawr, nid rhywedd, na’n cyrff sy’n heneiddio, nid hyd yn oed ein meddyliau ein hunain. Mae hwn yn gyfle sy’n dod unwaith mewn oes, ac rydym am ei gipio wrth y rhwyfau.
“Rydym ni, rhai sy’n bwy wrth lan y môr, yn ferched gwydn, ac felly rydym yn gwybod bod gennym y pendantrwydd a’r cymhelliant i orffen y prawf hwn ar ein cyfer ni ein hunain ac ar gyfer ein helusennau dewisedig; RNLI, Sea Trust Wales, Action for Children a The Popham Fund. Rydym wedi enwi ein tîm Merched y Môr (Women of the Sea).”
Meddai Denise mai’r rheswm y mae hi wedi derbyn yr her yw “er mwyn dangos i fy mhlant yr hyn y gallwch ei gyflawni os ydych yn manteisio ar y cyfle ac yn ddigon dewr i roi cynnig arno; ac ar gyfer yr holl fenywod a all feddwl am filiwn o resymau pam na ddylen nhw ei wneud.”
Ychwanegodd Liz: “pan oeddwn yn Y Drindod Dewi Sant, cefais gyfle i archwilio’r hyn yr oedd antur yn ei olygu i mi a sut i ymestyn y ffin honno gyda thair merch ryfeddol, alluog a chryf. Caiff Challenge by Choice ei gymryd i’r lefel nesaf! Bydd pob rhan o’r daith hon yn ymdrech emosiynol, corfforol a deallusol, ond caf fy nghefnogi gan bawb sy’n golygu rhywbeth i mi ... felly, pam lai?!”
Fel rhan o’u hyfforddiant, bydd Denise a’r tîm yn treulio cyfnod yn Academi Chwaraeon newydd y Brifysgol, sy’n ceisio cynorthwyo myfyrwyr a staff sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon perfformiad uchel er mwyn cynnal a datblygu eu perfformiad.
Cânt fynediad at arbenigedd tîm chwaraeon, iechyd a ffitrwydd y Brifysgol, sydd wedi’i leoli ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol, ac a wnaiff ddarparu rhaglen o weithgareddau i’w cynorthwyo i gyrraedd eu nodau chwaraeon. Gwnaiff y rhain gynnwys hyfforddiant megis hyfforddiant sgiliau a thechnegol, cryfder, cyflyru, maeth a diet, therapi chwaraeon, yn ogystal â thechnegau rheoli ffordd o fyw.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk