Dathlu 40 mlynedd o addysg entrepreneuriaeth


11.11.2022

Drwy gydol y flwyddyn, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn dathlu daucanmlwyddiant addysg uwch yng Nghymru a rôl ei champws yn Llambed yn y stori honno. Mae’r garreg filltir hon yn nodi gosod y garreg sylfaen ar gyfer Coleg Dewi Sant Llambed yn 1822.

Pic of staff receiving Triple E Award

Mae’r flwyddyn hefyd wedi rhoi cyfle i adfyfyrio ar y modd y mae ein prifysgolion wedi addasu i ymateb i angenrheidiau cymdeithasol ac economaidd dros y ddau can mlynedd ddiwethaf. Mae’r sector yn parhau i esblygu i ymateb i anghenion newidiol yr oes sydd ohoni gan ddarparu arlwy amrywiol - o arloesedd ac ymchwil trosi o’r radd flaenaf, i sgiliau technegol a menter gymhwysol – fel y gallwn feithrin gallu, cefnogi cyflogwyr, hwyluso creu swyddi a denu buddsoddiad.

Gyda Chymru’n arwain y DU â’r nifer fwyaf o fusnesau newydd gan raddedigion fesul pen, rydym hefyd yn arwain y ffordd wrth ddatblygu modelau newydd o entrepreneuriaeth ac arloesedd.  Yn gynharach eleni, yng Ngwobrau ‘Triple E’, enillodd y Brifysgol Wobr Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn, a derbyniodd yr Athro David A. Kirby, Athro Ymarfer yn y Drindod Dewi Sant, Wobr Cyflawniad Oes. Yn ogystal mae Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA 2020/21) wedi gosod y Drindod Dewi Sant yn 1af yn y DU am y nifer o fusnesau newydd gan raddedigion a’r nifer o fusnesau sydd wedi bod yn rhedeg am dros 3 blynedd.

Wrth i ni edrych ymlaen at Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang (14-20 Tachwedd) mae’n briodol dathlu cyfraniad y Brifysgol at addysg entrepreneuriaeth dros y 40 mlynedd ddiwethaf.  Cyflwynwyd y ddisgyblaeth i addysg uwch yng Nghymru am y tro cyntaf yn Llambed yn ystod y 1980au o dan ofal y cyfarwyddwr, yr Athro David A. Kirby, a oedd yn aelod o’r staff ar y pryd.

Ers hynny, mae’r Brifysgol wedi bod ar flaen y gad wrth ddatblygu addysg ac arfer entrepreneuraidd yng Nghymru ac mae wedi hwyluso’r trawsnewidiad o addysg i hunan-gyflogaeth a dechrau busnesau newydd.  Helpodd yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (IICED) y Brifysgol, dan arweinyddiaeth yr Athro Andy Penaluna a Dr Kath Penaluna, i ddatblygu’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r Athrofa hefyd wedi dod yn arweinydd a gydnabyddir yn rhyngwladol yn y maes hwn wrth iddi gynghori polisi ac arfer y llywodraeth yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan gynnwys dylanwadu ar waith y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).  Roedd y Drindod Dewi Sant hefyd yn bartner allweddol yn EntreCompEdu, prosiect Erasmus+ gyda 6 gwlad  bartner i gefnogi addysgwyr i addysgu cymwyseddau entrepreneuraidd.  Ymhlith y gwledydd partner roedd Gwald Belg, Sbaen, y Ffindir, Gogledd Macedonia, Sweden a Chymru. Wedi i Felicity Healey-Benson, llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Dafen yn Llanelli, gyflwyno EntreCompEdu i’r ysgol, dyfarnwyd statws Ysgol Arloesi Fyd-Eang gyntaf EntreCompEdu i’r ysgol allan o 52 o wledydd oedd yn rhan o’r prosiect.

Mae’r Brifysgol hefyd wedi lansio’r Gymdeithas Entrepreneuriaeth Gytûn i integreiddio ymagweddau economaidd, eco, dyngarol a chymdeithasol traddodiadol at entrepreneuriaeth i fynd i’r afael â heriau cynaliadwyedd.  Mae partneriaeth â Ship Shape, peiriant chwilio cyfalaf menter sy’n galluogi entrepreneuriaid i ddod o hyd i fuddsoddwyr posibl, hefyd yn cefnogi cenhadaeth y Brifysgol i gysylltu syniadau gwych â chyfleoedd buddsoddi er budd ein myfyrwyr.

Meddai Kath Penaluna, Cyfarwyddwr IICED a rheolwr menter y Drindod Dewi Sant:  “Yn ystod dathliadau daucanmlwyddiant y Brifysgol rydym wedi lansio cyhoeddiad newydd i ddathlu ein gwaith dros y 40 mlynedd ddiwethaf a chyfraniad y rhai sydd wedi gyrru’r agenda hon yn ei blaen yn y Brifysgol. Mae hefyd yn rhoi sylw i rai o’n graddedigion mentrus a’u cwmnïau y mae eu creadigrwydd a’u penderfyniad yn gwneud gwahaniaeth”.   

Mae 40 years of Entrepreneurship Education ar gael i'w lawrlwytho ac mae’n cynnwys astudiaethau achos am raddedigion entrepreneuraidd y Drindod Dewi Sant.