Dathlu lansiad Pwyllgor Myfyrwyr yr Institute of Hospitality Cymru a chynnal digwyddiad O Gymru i’r Byd yn y Senedd


03.05.2022

Bu myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn chwarae rhan flaenllaw mewn digwyddiad a drefnwyd i hyrwyddo cyfleoedd gyrfa a rhwydweithio yn y Diwydiant Lletygarwch ledled Cymru a'r byd.

Group standing outside Senedd

Roedd O Gymru i'r Byd yn ddigwyddiad dwy ran a gynhaliwyd gan Bwyllgor Myfyrwyr newydd yr Institute of Hospitality (IoH) Cymru, yn Adeilad hanesyddol y Pierhead ym Mae Caerdydd a'r Senedd eiconig. Bu amrywiol siaradwyr sy’n dilyn gyrfaoedd yn lleol ac yn fyd-eang yn helpu myfyrwyr sydd â diddordeb mewn meithrin gyrfa yn y maes Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau i gael dirnadaeth go iawn o’r sector, tra hefyd yn annog rhwydweithio o fewn y diwydiant a chefnogi rheolwyr y dyfodol.

Roedd y sesiwn gyntaf wedi'i hanelu at fyfyrwyr iau mewn ysgolion ac Addysg Bellach sy’n awyddus i ymuno â'r sector, tra bod yr ail sesiwn ar gyfer Aelodau’r IoH, myfyrwyr Addysg Uwch, graddedigion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, i ddathlu lansio'r pwyllgor myfyrwyr newydd. 

Penodwyd Philippa Fitzgerald, myfyrwraig ar ei blwyddyn olaf sy’n astudio Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol yn y Drindod Dewi Sant, yn Gadeirydd cyntaf y pwyllgor myfyrwyr newydd. Meddai: "Mae'n anrhydedd cael fy ngwahodd i fod yn Gadeirydd cyntaf y pwyllgor. Mae'r swydd hon wedi rhoi'r cyfle imi gysylltu â myfyrwyr gwych a chynrychiolwyr ysbrydoledig o'r diwydiant tra'n datblygu sgiliau hanfodol i'w defnyddio yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Roedd bod yn rhan o'r tîm anhygoel a gynhaliodd ddigwyddiad cyntaf y pwyllgor myfyrwyr ym mhrifddinas y wlad yn brofiad a fydd yn aros gyda mi am byth.”

Wrth i'r Diwydiant Lletygarwch weld adferiad yn dilyn Covid, mae'r sector yn wynebu prinder staff gweithredol a rheoli medrus, gan ddarparu cyfleoedd cyffrous i bobl ifanc ddilyn llwybr carlam i yrfa hynod lwyddiannus. I gefnogi hyn, rhoddodd y digwyddiad gyfle i gynrychiolwyr y diwydiant, a’r rhai sy’n chwilio am yrfa ledled Cymru, gyfarfod, ymgysylltu a thrafod dyfodol y sector.

Defnyddiwyd astudiaethau achos o’r byd diwydiant go iawn ac astudiaethau achos myfyrwyr o Gymru a'r byd i arddangos cyfleoedd cyffrous, gan helpu i hyrwyddo llwybrau gyrfa ac opsiynau hyfforddi ar draws y meysydd Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau. Ymhlith y siaradwyr sy'n arwain y diwydiant roedd:

  • Damian Jenkins – Llywydd Rhanbarthol The Management Trust California
  • Ed Sims – cyn Brif Swyddog Gweithredol WestJet Canada
  • Helen John – Rheolwr Academi Bluestone Cymru
  • James Hayward – Rheolwr Cyffredinol Celtic Collections, Gwesty Coldra Court
  • Jessie Wakely – Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata Harbour Lights Spirits
  • Mike Philipps – cyn Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol sy’n byw yn Dubai a Chyfarwyddwr FabFour Coffee 

Meddai Jacqui Jones, aelod o Bwyllgor Cangen IoH Cymru a Rheolwr Rhaglen ar gyfer y portffolio Twristiaeth, Digwyddiadau a Rheolaeth Cyrchfannau Hamdden yn y Drindod Dewi Sant: “Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i ddathlu lansio Pwyllgor Myfyrwyr newydd yr Institute of Hospitality Cymru, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr o wahanol brifysgolion ledled Cymru gydweithio i gynrychioli dyfodol y diwydiant.

“Rwy'n falch iawn fod myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant wedi siarad yn y digwyddiad i arddangos cyfleoedd gyrfa ar draws y sectorau Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau, gan ddangos rôl bwysig y Brifysgol wrth ddatblygu arweinwyr y diwydiant yn y dyfodol.”

Mae'r siaradwr Damian Jenkins yn gyn-fyfyriwr y rhaglen Rheolaeth Twristiaeth a Hamdden, tra bod Jessie Wakely yn un o fyfyrwyr cyfredol Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol. Meddai Jessie: “Rwy’n teimlo'n hynod freintiedig fy mod wedi siarad mewn digwyddiad mor fawreddog ac i gael y cyfle i glywed gan bobl ar frig y sector lletygarwch o bob cwr o'r byd, a’r cyfan ar garreg ein drws! P’un a oeddech yn fyfyriwr a oedd yn dymuno mynd i'r diwydiant lletygarwch neu eisoes ar frig eich gêm, roedd y digwyddiad hwn yn ddefnyddiol iawn ac yn ysbrydoliaeth.”

Dywedodd Ed Ryan, Rheolwr Ymgysylltu Rhanbarthol Croeso Cymru, ei fod yn "ddigwyddiad a oedd wir yn ysbrydoli ac a ddangosodd beth yw hanfod twristiaeth a'r swydd rydw i ynddi: cynnwys pobl, gweithio gydag eraill, gweld syniadau gwirioneddol greadigol yn ffynnu. Daeth hynny'n fyw drwy gyfrwng y digwyddiad a'r bobl a oedd yn siarad, boed hynny drwy fideo neu wyneb yn wyneb, ac roedd yn gymaint o ysbrydoliaeth, gan ddangos i fyfyrwyr pa mor bwysig yw’r siwrnai. Yr hyn gafodd ei gyfleu oedd siwrnai pobl o’r man lle roeddwn nhw ar y cychwyn i ble maen nhw nawr.”

Roedd Spencer Barret, myfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, yn bresennol yn y digwyddiad ac meddai , "Fe'n cyflwynwyd i lawer mwy o wybodaeth am y diwydiant a’r hyn y mae’n ymwneud ag ef, yr holl feysydd gwahanol y gallem fynd iddynt, felly roedd yn help mawr ac yn ddefnyddiol iawn.”

Dywedodd Katy Hughes, darlithydd yng Ngholeg Afan a aeth â grŵp o fyfyrwyr i'r digwyddiad, "Mae wedi bod yn anhygoel, yn llawn gwybodaeth, ac yn dipyn o ysbrydoliaeth. Rwy'n credu ei fod wedi rhoi syniad da i fyfyrwyr coleg am yr holl wahanol lwybrau y gallant eu dilyn yn y dyfodol, sydd mor fuddiol, oherwydd nid oes llawer o bobl, yn enwedig myfyrwyr 16 oed, yn gwybod pa lwybrau posibl sydd ar gael. Felly mae gwylio'r gwahanol unigolion hyn yn mynd ar y llwyfan ac yn siarad am ble mae eu llwybrau gyrfa unigryw wedi eu harwain yn rhywbeth mor ysbrydoledig.”

Cefnogwyd a noddwyd y digwyddiad gan yr Aelod o'r Senedd David Rees.

Eleni mae’r Drindod Dewi Sant yn dathlu 200 mlynedd o addysg uwch yng Nghymru. O’r hadau a heuwyd yn Llambed dros ddwy ganrif yn ôl, mae wedi tyfu i fod yn Brifysgol sector deuol, aml-gampws gan ddarparu rhaglenni sy’n berthnasol yn alwedigaethol mewn partneriaeth â chyflogwyr.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk