Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd 2022
26.04.2022
Bob blwyddyn ar 26 Ebrill mae’r Drindod Dewi Sant yn dathlu Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd. Gan mai’r thema eleni yw ED ac Ieuenctid: Arloesi ar gyfer Gwell Dyfodol, mae hyd yn oed yn fwy perthnasol i ni, wrth i ni gydnabod dyfeisgarwch a chreadigrwydd ein myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr sy’n datblygu syniadau creadigol yn gyson i sbarduno newid cadarnhaol.
Mae Adam Higgins, myfyriwr ar ei flwyddyn olaf sy’n astudio MSc Dylunio Diwydiannol, yn enghraifft nodedig. Ei brosiect arloesol ef yw PreMedPrep, casgliad o deganau paratoi ar gyfer sefyllfaoedd meddygol sy’n anelu at leihau’r pryder a’r ofnau mae plant yn eu hwynebu yn y cyfnod cyn gweithredoedd meddygol cyffredin. Un o’i gynhyrchion yw Elio yr Eliffant, sy’n dangos gweithred feddygol mewn ffordd realistig ac yn defnyddio dysgu drwy weld i roi cymorth emosiynol a gwybyddol i blant. Cafodd ei dreialu’n ddiweddar yn Hosbis Plant Tŷ Hafan, lle’r oedd ei lwyddiant yn glir, gan fod plant eisiau eu tegan Elio eu hunain i fynd adref gyda nhw.
Meddai Adam: “Roeddwn i’n falch i weld canlyniadau cadarnhaol yr astudiaeth brawf; mae wedi rhoi cadarnhad pellach fod y cynnyrch yn fuddiol wrth wneud profion gwaed ar blant. Bu’r gefnogaeth gan Hosbis Plant Tŷ Hafan yn anhygoel drwy gydol cam gwerthuso’r cynnyrch.
Mae’r cynnyrch eisoes wedi cael yr anrhydedd o ymddangos ar y rhestr ‘100 o syniadau i newid y byd’, yn y Global Grad Show 2020, lle cafodd ei ddewis o blith 1,600 o gyflwyniadau o 270 o brifysgolion ledled y byd. Mae’r math hwn o gyhoeddusrwydd yn wych, ond gall hefyd arwain at broblemau os nad yw myfyriwr yn barod ar gyfer y byd Eiddo Deallusol.
Esboniodd Kath Penaluna, Rheolwr Menter y Drindod Dewi Sant ac aelod o grŵp cynghori addysg IPUC Swyddfa Eiddo Deallusol y DU, fod y Twrnai Patent, Tom Baker, yn cefnogi ein myfyrwyr yn rheolaidd gydag arweiniad a chymorth i ddiogelu eu dyfeisiau arloesol. Meddai: “Mae cefnogaeth Tom wedi bod yn hanfodol ac mae’n ein helpu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn elwa o ddatblygu eu heiddo deallusol. Mae Hawliau Dylunio ar gyfer Elio a pherchnogaeth glir o’r hawlfraint mewn unrhyw gyhoeddiadau yn ganolog i fynd â’r ddyfais arloesol hon i’r farchnad. Mae gan y Drindod Dewi Sant hanes ardderchog o helpu ein myfyrwyr i reoli eu heiddo deallusol, fel y gallant symud ymlaen gyda’r hyder sydd ei angen arnynt i lwyddo.”
Ychwanegodd Adam: “Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygiad parhaus PreMedPrep ac yn gweithio tuag at fasnacheiddio'r cynnyrch. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi bod yn cydweithio â Hosbis Plant Tŷ Hafan a thrydydd partïon allanol eraill i hyrwyddo datblygiad y cynnyrch a dilysu’r cynnyrch i’w ryddhau ar y farchnad.
“Mae Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd yn ddiwrnod gwych i gydnabod priodweddau deallusol y cynnyrch a phwysigrwydd diogelu’r dyluniadau. Gyda chyngor a chefnogaeth gan Kath a Tom, rwyf wedi gwneud cais llwyddiannus i gofrestru dyluniad Elio yr Eliffant. Mae hyn yn rhan allweddol o hynt y cynnyrch yn y dyfodol a bydd yn rhoi hyder i mi wrth arddangos y cynnyrch yn gyhoeddus yn sioe New Designers ym mis Gorffennaf.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk