"Dwi wedi cael bywyd mor lwcus" – Yr aelod byw hynaf o’r staff yn hel atgofion am addysgu yng Ngholeg Celf Abertawe


20.10.2022

A hithau’n eistedd o dan ei phaentiadau diweddaraf - ffrwydradau o liw a golau - yn ystod lansiad  arddangosfa aml-leoliad ar bwysigrwydd addysg gelf yn Abertawe, teimlai Glenys Cour, sy'n 98 oed, wefr gyffrous o'i chwmpas hi gydol y noson.

Glenys Cour sat beneath her work at Mission gallery

Mae gwaith diweddar Cour i'w weld yn Oriel Mission yn Abertawe yn rhan o arddangosfa gydweithredol a drefnwyd gan  Goleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant  i ddathlu llwyddiant y Brifysgol.  Yn enwog yn lleol ac yn genedlaethol, mae Cour wedi cael gyrfa hir a llwyddiannus yn artist ac addysgwr, ac mae'n parhau i baentio bob dydd.

Mae'r arddangosfa wedi'i chanoli ar addysg gelf a ddarperir gan Goleg Celf Abertawe dros ei hanes hir, ac mae’n cynnwys sioeau unigol a gynhaliwyd gan bum oriel leol a phob un yn gysylltiedig â’r thema hon. Un sioe o'r fath yw Cymdeithas Gelf, Coleg Celf Abertawe: Artistiaid o'r Casgliad yn Oriel Glynn Vivian a GS Artists yng  nghanol y ddinas, sy'n canolbwyntio ar gyn-ddisgyblion a darlithwyr  y coleg.

Bu Cour yn siarad â Jane Simpson, Sylfaenydd GS Artists a Katy Freer, Swyddog Arddangosfeydd yn y Glynn Vivian mewn cyfweliad arbennig er mwyn cofnodi ei hatgofion ar gyfer yr archif.  O gadair freichiau yn ei hystafell fyw liwgar, mae'r artist  yn cyfaddef "dwi wedi cael bywyd mor lwcus".

I grynhoi ei blynyddoedd cynnar ar ôl graddio yn 1945, dysgodd yn Sir Benfro cyn symud "i fyny'r llinell" i Abertawe, gan ddysgu mewn ysgol Ramadeg a dilyn dosbarthiadau tynnu llun rhan-amser yng Ngholeg Celf Abertawe yn ei hamser rhydd.  Meddai wrth Simpson a Freer: "Pan ddes i i Abertawe doedd dim adeiladau o gwbl yn sefyll yng nghanol Abertawe. Rwbel oedd y cyfan, y cwbl oll. Alla i ddim credu'r peth nawr pan dwi'n meddwl yn ôl. Roedd canol Abertawe yn fflat."

Atgof o'r ddinas na all y rhan fwyaf o bobl sy'n fyw heddiw ei ddychmygu, er hynny canfu Cour hapusrwydd a  hwyl ymysg y rwbel, a chwarddodd wrth roi manylion fanylu ar gastiau ieuenctid: partïon gwisg ffansi, arddangosfeydd cynnar a mwynhad ei dosbarthiadau darlunio.

Yn y dosbarthiadau hyn y cyflwynwyd hi i'w darpar ŵr Ronald Cour, a oedd wedi derbyn swydd ddarlithio yn yr Adran Gerflunio  ar ôl graddio o'r Coleg Celf Brenhinol yn 1947, ar ôl i’r ail ryfel byd darfu ar ei astudiaethau. Cariad ar yr olwg gyntaf oedd hi i bob golwg, sonia Cour am aros wrth ddrysau ar ôl i ddosbarthiadau  er mwyn "digwydd" taro i mewn iddo – tacteg lwyddiannus, oherwydd priododd y pâr ar 16 Awst 1949.

"Roeddwn i'n arfer casáu’r ffaith ei fod yn dysgu dosbarthiadau nos," cyfaddefodd wrth Simpson a Freer. "Ro'n i'n arfer cerdded i lawr i'r arhosfa bws, yn mynd i'r coleg a cherdded fyny'r grisiau er mwyn bod gydag e pan oedd e'n dod adre. Allwch chi gredu’r peth?! Faint mae’n rhaid i chi fod mewn cariad i wneud hynny?!

"Bod yn briod ag e oedd y peth gorau y gallwn i fod wedi ei wneud, o bosib," mae hi'n parhau,  "oherwydd ei fod yn bwyllog, yn ddoeth iawn, ac yn hynod o ddoniol. A minnau’n dod o gartref lle nad oedd neb yn chwerthin. "

Hwn yw’r union fanylion yr hoffai Simpson a Freer eu cofnodi – atgofion pobl o gwmpas y coleg celf drwy ei fodolaeth, mewn byd sy'n newid yn gyflym.

Glenys Cour with the staff of the Architectural Glass department, 1988

Mae'r cipolwg hwn ar orffennol Cour yn dreiddgar, yn ddifyr ac yn nodedig - o  daro i mewn i’r bardd enwog Dylan Thomas ar ei  noson gyntaf mewn tafarn i gael ei dysgu gan un o artistiaid gorau'r cyfnod, y diweddar fawr Ceri Richards (a oedd hefyd yn gyn-fyfyriwr o Goleg Celf Abertawe),  i   rannu canfyddiadau ar sut i weld lliw a theimlo celf gyda'i myfyrwyr ei hun pan ddechreuodd ddarlithio yn y Coleg ar ddechrau'r 1960au.

 Roedd mynd mawr ar ddosbarthiadau Cour, ac mae'n cyfaddef "Fel arfer byddai ciw y tu allan! Oherwydd roedd beth oeddwn i'n ei ddysgu yn wahanol i beth oedd pawb arall yn ei ddysgu, achos Ceri Richards oedd fy athro i. Doedd yr hyn roeddwn i’n ei wybod heb gyrraedd Abertawe eto. Ac wrth gwrs, roedd pawb eisiau gwybod amdano. "

Gan fwynhau llawer o flynyddoedd hapus yn ddarlithydd ac arbenigo mewn Gwydr Lliw ar ôl i'w gŵr farw yn 1978, roedd Cour yn dal i ddysgu yng Ngholeg Celf Abertawe tan yr 1990au cyn i'w hoedran (roedd hi yng nghanol ei 70au erbyn then) ddod yn hysbys a bu rhaid iddi roi'r gorau iddi’n anfoddog.

Meddai Profost campws Abertawe a chyn-Ddeon Coleg Celf Abertawe, yr Athro Ian Walsh, "Os oes unrhyw un yn haeddu cael ei chanmol yn 'Drysor Cenedlaethol' Glenys yw honno. Mae ei hymroddiad i'w gwaith celf a'i hawch am fywyd yn hollol anhygoel, ac yn rhoi artistiaid hanner ei hoed yn y cysgod. Y Drindod Dewi Sant yw cartref coleg celf hynaf Cymru ac rydyn ni mor falch o alw Glenys yn 'un o'n plith ni'. "

Yn ysbrydoliaeth i lawer, gwelai Glenys Cour bethau'n wahanol ac roedd hi wrth ei bodd yn rhannu'r hyn yr oedd hi'n ei wybod gyda llawer o egin greawdwyr, gan ddeall yr angen am addysg mewn datblygiad cynnar artist. "Mae'n fater o edrych a theimlo," meddai. "Mae'n rhaid i chi gael eich dysgu i wneud hynny mewn gwirionedd, a gorau po gyntaf. Mae'n ofnadwy o bwysig."

Gallwch wrando ar ddarn o'r sgwrs yma:

Glenys Cour, Wedi ei chyfweld gan Katy Freer a Jane Simpson, Awst 2022 ar gyfer achlysur prosiect cydweithredol y Gymdeithas Gelfyddydau gan y Glynn Vivian a GS Artists. Gwrandewch ar y cyfweliad llawn ar wefan GS Artists.  

Bydd yr arddangosfa gydweithredol sy'n cynnwys  gwaith Cour a llawer o artistiaid eraill Abertawe yn parhau ar agor tan 5 Tachwedd a dylai ymwelwyr wirio amseroedd agor ym mhob lleoliad yn unigol.

Glenys Cour with some of the organisers of the collaborative exhibition at mission gallery

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078