Dwy wobr i Thomas wrth raddio yn y Drindod Dewi Sant


08.07.2022

Wrth raddio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant heddiw (8 Gorffennaf) derbyniodd Thomas Clarke dwy wobr.

UWTSD Graduation Makes it a double award winning year for Thomas

Ar ôl derbyn BA (Anrh) mewn Gwareiddiadau Hynafol mewn seremoni ar gampws Llambed y Brifysgol, cafodd Thomas ei alw i’r llwyfan unwaith eto i dderbyn Ysgoloriaeth Goffa Israddedig Helen McCormack-Turner a Gwobr Archaeoleg Cymdeithas Llambed.

Dyfernir Ysgoloriaeth Goffa Helen McCormack-Turner (Israddedig) i fyfyriwr ar raglen Meistr integredig, a dyfernir Gwobr Archaeoleg Cymdeithas Llambed i unigolyn am ragoriaeth yn y maes penodol hwnnw.

Yn dilyn y seremoni, dywedodd Thomas wrthym:

“Rwy’n falch iawn o fod yma heddiw ac i dderbyn y gwobrau hyn. Cefais fy nenu i Lambed gan y campws ychydig yn llai gyda chymuned glos o fyfyrwyr, y cyfle i ymwneud â chymuned ehangach Llanbedr Pont Steffan yn y dref, a’r lleoliad gwledig a oedd yn cynnig digon o gyfle i wneud ymarfer corff.

Dewisais y cwrs hwn ar gyfer yr amrywiaeth o fodiwlau a gynigir, ac roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y modiwlau iaith yr oedd Gwareiddiadau Hynafol yn gofyn i mi eu hastudio. Roeddwn i eisiau dod i ffwrdd gyda gradd a oedd yn adlewyrchu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddiwylliannau y tu hwnt i fy mhrif ddiddordeb yn yr Aifft.

Rhai o’r uchafbwyntiau oedd natur gyfeillgar y darlithoedd, y cyfle i astudio modiwlau na fyddwn i wedi meddwl eu hastudio o’r blaen, megis modiwlau anthropoleg ac iaith. Roeddwn hefyd yn hoffi cyfarfod â phobl o raddau eraill mewn modiwlau a rennir a dysgu am eu diddordebau a'u harbenigeddau hanesyddol. Roedd un modiwl a fwynheais yn arbennig yn cynnwys astudiaeth fanwl ac ymchwil i arteffactau Eifftaidd o Amgueddfa Castell Cyfarthfa. Roeddwn hefyd yn hoff iawn o’r sesiynau ymarferol rhyngweithiol, roedd gwneud ein ffresgo Minoan ein hunain yn llawer o hwyl!”

Byddwn yn argymell y cwrs hwn, gan y gallwch ei deilwra i'ch dewisiadau, gydag ehangder y cyfnodau/pynciau a gwmpesir yn y modiwlau a gynigir, mae'n siŵr y bydd rhywbeth ar eich cyfer chi!”

Mae astudio yn y Drindod Dewi Sant wedi ysbrydoli Thomas i astudio ymhellach ac mae nawr yn edrych ar astudio gradd Meistr. Ychwanegodd:

“Deuthum i ffwrdd o'r cwrs hwn gyda phersbectif newydd ar yr hyn sy'n gyfystyr â gwareiddiad. Mae’r ffordd yr oedd pobl hynafol yn rhyngweithio wedi fy nghyfareddu erioed a thrwy gael y cyfle i gyflwyno meddwl a theori anthropolegol yn ystod fy ngradd, llwyddais i ennill conglfaen academaidd o wybodaeth, a fydd wrth symud ymlaen yn cyfoethogi fy ngwaith ymchwil ac ysgrifennu yn fawr.

I mi, mantais fawr yw gallu dangos i ddarpar gyflogwyr fy mod, trwy astudio Gwareiddiadau Hynafol, wedi ennill dyfnder ehangach o wybodaeth am ddiwylliannau amrywiol, nid yn canolbwyntio'n unig ar gymdeithas benodol.

Mae fy ngradd wedi fy ysbrydoli i astudio ymhellach ac rydw i nawr yn edrych ar astudio gradd Meistr.”

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076