Dyfarnwyd £716,013 i Brosiect Myrddin gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).
02.03.2022
Bwriad y prosiect newydd a chyffrous hwn, a fydd yn cychwyn ar 1 Mawrth 2022, yw creu astudiaeth a golygiad newydd o’r farddoniaeth sy’n gysylltiedig ag enw’r bardd chwedlonol Myrddin.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru – The National Library of Wales
Cysylltir Myrddin yn aml â’r Brenin Arthur mewn chwedloniaeth a cheir corff sylweddol o farddoniaeth wedi ei briodoli iddo mewn llawysgrifau sy’n dyddio rhwng tua 1250 a 1800. Diogelwyd y tair cerdd gynharaf yn Llyfr Du Caerfyddin, y llawysgrif Gymraeg gynharaf. Cedwir y llawysgrif hon yng Nghasgliad Peniarth Llyfrgell Genedlaethol Cymru a gallwch ei gweld ar eu gwefan.
Meddai’r Athro Ann Parry Owen, ‘Dyma ddalen o’r Llyfr Du sy’n cynnwys rhan o un o’r cerddi y byddwn ni’n gweithio arni. Ynddi ceir cyfres o benillion yn cychwyn â’r geiriau ‘Oian a pharchellan’, yn llais Myrddin ei hun. Ar ôl byw bywyd da a chyfforddus yn y gorffennol yn llys ei arglwydd Gwenddolau, daeth tro mawr ar fyd. Lladdwyd Gwenddolau ym Mrwydr Arfderydd, a bellach mae Myrddin wedi mynd yn wallgof ac yn byw mewn unigedd a galar yng Nghoed Celyddon. Yn y penillion hyn mae’n siarad gyda mochyn bach (y parchellan) ac yn rhannu atgofion gydag ef am y gorffennol, ond hefyd yn darogan am ffawd y Cymry sy’n ceisio amddiffyn eu tiroedd a’u hawliau yn wyneb bygythiadau o du’r Normaniaid.
Mae elfen gref o bropaganda politicaidd yn y penillion hyn, ac mae’n amlwg fod Myrddin wedi ei gysylltu â phroffwydoliaeth yn gynnar yn hanes ein llenyddiaeth. Dros y canrifoedd dilynol byddai’r beirdd yn aml yn cyfansoddi eu cerddi darogan yn llais Myrddin, wrth iddynt ymateb i gyfres o fygythiadau i’w gwlad gan y Saeson o’r dwyrain. Yng nghwrs y prosiect byddwn ni’n edrych ar y cerddi diweddarach hynny, ac yn gweld sut yr oedd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o feirdd yn defnyddio llais Myrddin at eu pwrpas eu hunain. Bydd modd edrych hefyd ar bwysigrwydd enw a chwedl Myrddin mewn enwau lleoedd, yn ogystal â gosod y cerddi mewn cyd-destun Ewropeaidd ehangach. Bydd yn waith cyffrous ac amlweddog iawn.
Mae’r farddoniaeth gynharaf yn astrus iawn – ac mae’n hen bryd ailedrych arni yng ngoleuni gwybodaeth newydd sydd gennym am iaith a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol o ganlyniad i ymchwil prosiectau mawr yn y Ganolfan, fel prosiectau Beirdd y Tywysogion, Beirdd yr Uchelwyr a Guto’r Glyn. Yn sylfaen anhepgor i’r holl waith, wrth gwrs, y mae’r ymchwil ar hanes yr iaith yn adran Geiriadur Prifysgol Cymru, sydd hefyd wedi ei lleoli yn y Ganolfan.
Yn ogystal â chyflwyno testun o’r holl gerddi, gyda chyfieithiadau a nodiadau, byddwn hefyd yn cynnwys lluniau o’r llawysgrifau, trawsysgrifiadau, ac adnoddau eraill. Bydd y cyfan ar gael yn rhad ac am ddim ar lein.
Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan, ‘Dyma brosiect ymchwil pwysig iawn sy’n adeiladu ar arbenigedd y Ganolfan ac yn cynnig cyfle arbennig i ni gydweithio eto gydag ysgolheigion ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Rydym yn hynod falch ei fod wedi derbyn nawdd sylweddol o du’r Cyngor Ymchwil a llongyfarchiadau i’r tim cyfan ar y llwyddiant hwn’.
Bydd y prosiect tair blynedd hwn (1 Mawrth 2022 – 28 Chwefror 2025) yn cael ei arwain gan y Prif Ymchwilydd, Dr Dylan Foster Evans o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a bydd tri Chyd-Ymchwilydd yn arwain ar wahanol agweddau ar y gwaith: Dr David Callander o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd; yr Athro Ann Parry Owen o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Geiriadur Prifysgol Cymru; a Dr Alexander Roberts o Brifysgol Abertawe. Penodwyd Dr Ben Guy a Dr Jenny Day i fod yn ymchwilwyr ar y prosiect.
Nodyn i'r Golygydd
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/