Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II


08.09.2022

Gyda thristwch mawr y mae’r Brifysgol yn galaru yn sgil marwolaeth Ei Mawrhydi, Y Frenhines. 

Queen Elizabeth II

Hoffai’r Brifysgol estyn ei chydymdeimlad diffuant i Ei Fawrhydi Y Brenin, ein Noddwr Brenhinol, i Gydweddog y Brenin ac i bob aelod o'r Teulu Brenhinol yn eu profedigaeth. 

Yn ystod ei theyrnasiad hir, caiff Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth ei chofio am ei hymdeimlad diwyro o ddyletswydd, ei gwasanaeth ymroddedig, a’i hymrwymiad i'r wlad ac i’r gymanwlad. 

Mawr fydd y golled ar ei hôl drwy’r byd.