Entrepreneur a myfyriwr Pensaernïaeth PCYDDS i agor caffi gemau bwrdd newydd
02.03.2022
Dechreuodd Ryan Davies, myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gynllunio ei fusnes pan oedd y pandemig ar ei anterth. Ond yn lle rhwystro’r entrepreneur 19 mlwydd oed, gwnaeth y pandemig ei wneud ef yn llawer mwy penderfynol o lwyddo. A'r mis diwethaf fe agorodd drysau Socialdice i'r cyhoedd yn Abertawe am y tro cyntaf.
Medd Ryan mai cyfrinach ei lwyddiant oedd egwyddorion ei gwrs Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Technoleg Bensaernïol yn Y Drindod Dewi Sant, lle dysgodd ef y sgiliau dylunio ac entrepreneuraidd, yn ogystal â chael y gefnogaeth amhrisiadwy angenrheidiol i gael gwynt dan adain ei syniad busnes unigryw.
Yr unig gaffi gemau bwrdd sydd yn Abertawe, wedi ei leoli ar yr enwog Stryd y Gwynt, mae Socialdice yn le cyfeillgar a chroesawgar i chwaraewyr hen a newydd ddod ynghyd i fwynhau llyfrgell sy’n cynnwys 400 o gemau bwrdd, gydag aelodau staff gwybodus a elwir ‘Game Gurus’ wrth law i wneud argymhellion ynglŷn â’r gemau a helpu gyda’r rheolau.
Meddai Ryan: “Penderfynais ar yr enw ‘Socialdice’ sydd yn gyfuniad o 'socialise' a 'dice', oherwydd ein cenhadaeth yw darparu lle cysurus a diogel yn Abertawe i’n cwsmeriaid ddod ynghyd i rannu ac ailddarganfod hud gemau bwrdd.
“Mae pobl wedi chwarae gemau bwrdd drwy gydol hanes. Er bod rhai yn ein byd digidol ni yn eu hystyried yn rhywbeth hiraethlon, rydym yn eu hystyried yn ffordd o ddod â phobl at ei gilydd yn Abertawe.”
Medd Ryan roedd ganddo bob amser feddwl creadigol, ac yn ystod ei fachgendod, gwnaeth dreulio ei oriau hamdden yn dysgu am gelf ddigidol a graffeg.
“Roeddwn bob amser am chwarae rhan rywsut yn y diwydiannau creadigol,” meddai ef. “Dewisais gwrs PCYDDS oherwydd, yn fy marn i, roedd e’n cynnig cymysgedd da a sbringfwrdd ar gyfer datblygu rhai o’m syniadau. Roedd fy narlithydd, Ian Standen, yn ffantastig, yn fy helpu ac yn fy annog i wneud fy ngorau glas.”
Meddai Ryan y gwnaeth ef, ychydig cyn i’r cyfyngiadau symud cyntaf ddigwydd, ddechrau trafodaethau ynglŷn ag agor busnes newydd gyda’i bartner busnes.
“Roedd gwylio rhaglenni fel Dragons Den wedi fy ysbrydoli, ac roeddwn yn gwybod bod gennyf syniad ar gyfer caffi gemau bwrdd y gellid ei ddatblygu. Digwyddodd y cyfyngiadau symud ac er y byddai rhaid i mi eistedd yn ôl am ychydig, ni ddaeth y trafodaethau fyth i ben.”
Pan gafodd y cyfyngiadau teithio eu codi ychydig, ymwelodd y pâr â chaffis tebyg yng Nghaerdydd a Bryste, gan benderfynu ei bod hi’n bryd iddynt wneud rhywbeth.
“Cawsom gymorth gwych gan Business Wales a Dylan Williams Evans, prif swyddog datblygu busnes PCYDDS, ac er roedd pethau’n heriol weithiau, rydym bellach yn barod i agor fis nesaf, ac ni allwn aros i groesawu cwsmeriaid wrth iddynt ddod drwy’r drws.”
Dywedodd Ryan fod y sgiliau trosglwyddadwy a gafodd eu dysgu yn Y Drindod Dewi Sant wedi rhoi iddo’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i sicrhau adeilad a gwneud rhai o’r newidiadau anghenrheidiol ar ei ben ei hunan.
Meddai ef: “Roeddwn wedi astudio modelu 3D, CAD a modylau dylunio, ac felly, roeddwn yn deall yr hyn y byddai eisiau ei wneud. Yn bendant, gwnaeth peth o’r gwaith y gwnes i fel rhan o’m haseiniad cyntaf ar adeilad llyfrgell newydd y Brifysgol yn SA1 fy helpu gyda’n hadeilad newydd ar Stryd y Gwynt.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk