Gorymdaith a Gwasanaeth yn Abertawe yn dathlu dechrau addysg uwch yng Nghymru
28.06.2022
Ddydd Gwener, 24 Mehefin, cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant orymdaith drwy ddinas Abertawe o gampws Dinefwr i Eglwys y Santes Fair i ddathlu daucanmlwyddiant y Brifysgol.
Mae’r deucanmlwyddiant yn coffáu sefydlu Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan yn 1822 pan osododd yr Esgob Thomas Burgess, Esgob Tyddewi, y garreg sylfaen a oedd yn nodi dechrau addysg uwch yng Nghymru. Mae’r deucanmlwyddiant yn gyfle i ddathlu cyfraniad holl gampws y Brifysgol ar draws y rhanbarth.
Cynhaliwyd y gwasanaeth dathlu yn Eglwys y Santes Fair i gydnabod cyfraniad campws Abertawe’r Brifysgol i addysg uwch yng Nghymru, ac yn arbennig i gydnabod cyfraniad hanesyddol y Brifysgol i Gelf ac addysg a’i hymrwymiad i ddatblygu dysgu technegol a chymhwysol mewn gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg.
Gweinyddwyd y Gwasanaeth gan y Parchg Sam Aldred, Caplan Campws Abertawe gyda’r Gwir Barchedig John Lomas, Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn bresennol.
Ymhlith y gwestai roedd Mrs Louise Fleet, CStJ, JP, Arglwydd Raglaw EM dros Orllewin Morgannwg, Mr Stephen Rogers, Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Arglwydd Faer Abertawe y Cynghorydd Mike Day, Cynghorwyr Abertawe yn ogystal â myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a staff presennol a chyn-staff.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk