Gradd-brentisiaeth Ddigidol yn arwain at dechnegau gofal cleifion newydd ar gyfer Gwasanaeth Arennol GIG Cymru
12.07.2022
Mae Mike Wakelyn yn gweithio i Wasanaeth Arennol Cymru yn y GIG fel Peiriannydd Seilwaith Uwch. Penderfynodd ymgymryd â’r Radd-brentisiaeth Ddigidol yn 2017 gan ddisgwyl y byddai’r radd a’r sgiliau a ddysgir yn helpu gyda’i rôl bresennol, ac y byddai ei brofiad a’i ddefnydd o systemau TG cymhleth yn helpu gyda’r astudiaethau gradd. Yn ystod ei radd, datblygodd Mike ddangosfwrdd arloesol ar y we sy’n rhoi golwg fyw i nyrsys o feddyginiaethau y mae cleifion dan eu gofal i fod i’w cael.
Meddai Mike: “Pan fydd claf yn eistedd i lawr i gael dialysis, nid oes siartiau cyffuriau ar bapur wrth eu bwrdd ac nid oes raid i nyrsys ddod o hyd i nodiadau neu chwilio am feddygon i ail-ysgrifennu siartiau annarllenadwy. Mae wedi lleihau nifer y dosiau sy’n cael eu methu ar ddamwain o tua 95% ac wedi gwella arfer gwaith yn sylweddol. Drwy astudio yn Y Drindod cefais yr amser a’r sgiliau roedd arna’i eu hangen i ddatblygu’r dangosfwrdd yn gynt o lawer nag y byddwn fel arall.
Gan astudio a gweithio’n llawn amser, roedd datblygu’r systemau TG mewn gofal Arennol o wasanaeth rhanbarthol i un cenedlaethol yn her i Mike, ac fe ychwanegodd ddyfodiad pandemig byd-eang at y pwysau hyn. Yn ystod y cyfnod hwn, treuliodd Mike fisoedd lawer yn ysgrifennu echdyniadau data cymhleth ac arfau tracio data awtomatig oedd yn monitro iechyd cleifion, sy’n arbennig o bwysig i’r rheiny y bu’n rhaid iddynt leihau eu triniaethau wythnosol o ganlyniad i COVID. O ganlyniad i’w astudiaethau, mae wedi magu hyder, ac wedi datblygu ei allu i berfformio dan bwysau.
Meddai Dr Stephen Hole, Swyddog Cyswllt Prentisiaethau: “Astudiodd Mike yn galed trwy gydol pedair blynedd y rhaglen BSc ac mae’n llawn haeddu’r radd dosbarth cyntaf a gafodd. Mae hyder a set sgiliau Mike wedi tyfu trwy ei astudiaethau, ac mae hyn wedi caniatáu iddo wneud gwahaniaeth sylweddol i ofal cleifion yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Amser i Mike ganolbwyntio ar ei deulu, ei yrfa a physgota. Pob lwc Mike, bu’n bleser dy gefnogi trwy dy astudiaethau. Er iddo gymryd nifer o flynyddoedd i ti gyflawni dy radd faglor rwyt ti, heb os, wedi dangos dy waith caled, penderfyniad a dy sgiliau academaidd a phroffesiynol i bawb.”
Bellach, mae Mike yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda’i deulu a ffocysu ar ei yrfa. Fe fyddai’n argymell y Radd-brentisiaeth Ddigidol i eraill, oherwydd er iddi fod yn heriol mae’r canlyniadau wedi golygu gwelliant enfawr mewn gweithdrefnau i gleifion a staff yn y gwasanaeth arennol o fewn y DID. Hefyd, mae’n gobeithio y bydd ei waith caled a’i ymrwymiad i astudio yn enghraifft i’w blant ifanc o ran pwysigrwydd a gwerth addysg uwch.
Dywedodd Mike: “Fel unrhyw astudiaethau gradd mae’n anodd, ond gyda phwysau proffesiynol a theulu ychwanegol, mae’n galetach fyth. Wedi dweud hynny, roedd staff y brifysgol yn gefnogol ac mae’r cyfan wedi talu ar ei ganfed yn y pendraw.”
Gwybodaeth Bellach
Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM
Principal Communications and PR Officer Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184 (4184)
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk