Grant Entrepreneuriaeth y Drindod Dewi Sant i Fusnesau Newydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr cyfredol a chyn-fyfyrwyr ddatblygu mentrau busnes


08.08.2022

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi lansio grant i gynnig cymorth i fyfyrwyr cyfredol a chyn-fyfyrwyr ddatblygu eu syniadau busnes.

Bydd Grant Entrepreneuriaeth i Fusnesau Newydd gan Gronfa’r Dyfodol yn dyfarnu cyllid o hyd at £500 os gall ymgeiswyr ddangos sut y bydd cymorth ariannol yn eu helpu ar eu taith i ddechrau busnes bach neu ddod yn weithiwr llawrydd. Gallai hyn fod i helpu gyda phrynu deunyddiau, creu gwefan neu dalu am gostau gwasanaethau proffesiynol, megis cyngor cyfreithiol.

Bydd ymgeiswyr yn cael sesiwn cynllunio busnes gydag aelod o’r Tîm Menter i archwilio eu syniad yn fanylach ac i gael arweiniad ynglŷn â’r camau nesaf, ynghyd â chwrs dechrau busnes i sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth a sgiliau angenrheidiol.

Meddai Naomi Seaward, a dderbyniodd y grant i adeiladu ei busnes ei hun ar ôl graddio o’r cwrs Dylunio Patrymau Arwyneb: “Mae mentro ar eich pen eich hun yn y diwydiannau creadigol yn teimlo’n amhosibl weithiau, ond mae’r gefnogaeth a’r arweiniad a gefais gan y Drindod Dewi Sant yn ystod ac ar ôl fy astudiaethau wedi fy helpu i sylweddoli y gallaf gyflawni unrhyw beth rwy’n rhoi fy mryd arno.

"Rwy wedi elwa o allu manteisio ar gyrsiau entrepreneuriaeth a chysylltu â’r gymuned o entrepreneuriaid ifanc a chreadigol eraill yn y diwydiant sy'n rhan o’r gymuned honno. Ar ôl graddio y llynedd, rwy wedi cyflawni cymaint nad oedd gen i’r wybodaeth na’r hyder i’w wneud o’r blaen, gan gynnwys sefydlu fy nghwmni dylunio fy hun a’i lansio ym mhrif arddangosfa ddylunio’r wlad, New Designers, yn rhan o’u harddangosfa ‘One Year In’.

“Diolch i gyfleoedd ariannu, rwy wedi gallu parhau â'm harfer a'i droi'n fusnes drwy brynu offer a deunyddiau sy'n anoddach cael gafael arnynt ar ôl gadael addysg.  Ni fyddai hyn oll wedi bod yn bosibl heb gymorth y Drindod Dewi Sant, ac rwy'n awyddus i barhau i dyfu a datblygu fy musnes, sydd wedi'i gryfhau yn sgil yr arweiniad hwnnw.”   

Meddai Dylan Williams-Evans, Hyrwyddwr Menter yn y Drindod Dewi Sant: “Rhwystr enfawr i'n myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr wrth ddechrau eu busnesau neu’u gyrfaoedd llawrydd yw diffyg hyder a diffyg cyfalaf.

“Trwy'r Grant Entrepreneuriaeth gan Gronfa'r Dyfodol, rydym yn sicrhau y bydd pob person sy'n derbyn grant wedi cael hyfforddiant drwy gwrs Cychwyn Busnes, a dylai hyn, ynghyd â'r grant o £500 sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r hyder angenrheidiol i wneud eu busnesau yn llwyddiant”.

Ceir manylion llawn y gronfa yma.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn mynd ati’n weithredol i baratoi myfyrwyr at yrfaoedd llwyddiannus. Rydym yn ymgorffori cyflogadwyedd o fewn ein cyrsiau ac yn darparu amrywiaeth o adnoddau, cymorth a chyfleoedd i helpu myfyrwyr i ddatgloi eu potensial.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078