Grŵp PCYDDS yn lansio fframwaith Prentisiaeth Gyfreithiol newydd
18.08.2022
Mae Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gan gynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, wedi lansio fframwaith Prentisiaeth Gyfreithiol cyntaf Cymru er mwyn darparu addysg a hyfforddiant arloesol a chynaliadwy ar gyfer y Sector Cyfreithiol.
Yr amcan yw datblygu hyfforddiant cyfreithiol rhagorol, gyda staff proffesiynol profiadol yn gweithio’n agos gyda’r sector i ddatblygu amrywiaeth gynhwysfawr o gyrsiau i fodloni ei anghenion sy’n newid yn gyflym.
Gwnaiff y fframwaith, a gefnogir gan Swyddfa Cymdeithas y Gyfraith, Cymru, helpu cyflogwyr i ddenu staff newydd, yn ogystal ag uwchsgilio staff presennol sy’n awyddus i’w dysgu proffesiynol gamu ymlaen.
Gwnaiff y rhaglenni alinio’n agos â Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Tertiary Education and Research (TER) Bill) newydd Llywodraeth Cymru, gan gynorthwyo dysgwyr i symud yn hawdd o addysg orfodol i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, a thorri lawr rhwystrau er mwyn sicrhau llwybrau dysgwyr haws, a chefnogi buddsoddiad parhaus mewn ymchwil ac arloesiad.
Gwnânt arbenigo mewn hyfforddiant CILEX, a chânt eu hachredu gan y Chartered Institute of Legal Executives (CILEX) i gyflenwi’r cymwysterau CPQ (CILEX Professional Qualification), Lefel 3 a Lefel 5.
Meddai Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd PCYDDS: “Gwnaiff y fframwaith hwn ein galluogi ni i ddarparu addysg a hyfforddiant arloesol a chynaliadwy ar gyfer y Sector Cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.”
“Ein bwriad yw bod yn rhagorol wrth addysgu, yn ysbrydoledig o ran profiad a disgwyliad ein cyflogwyr a’n dysgwyr, ac ar yr un pryd, yn ymroddedig o ran gwaith partneriaeth effeithiol ac arloesol.”
Caiff prentisiaethau eu cynnig fel llwybrau sy’n arwain at y proffesiwn cyfreithiol, gan ddarparu’r cyfle i gyfuno gweithio a dysgu drwy gyfuno hyfforddiant mewn swydd ag astudio oddi ar y safle.
Caiff y Fframweithiau Prentisiaeth hyn eu hariannu’n llawn bellach yng Nghymru.
Meddai Mr Naldo Diana, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymgysylltu â Busnes ac Arloesi yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Mae prentisiaethau’n hyblyg, ac maent wedi’u dylunio er mwyn cynnig rhaglen ddysgu strwythuredig sy’n gweddu i anghenion yr unigolyn a’r cyflogwr, gan ddarparu llwyfan a wnaiff wella gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gwaith, gan wella, yn eu tro, cyflogadwyedd a chamu ymlaen mewn gyrfa.
“O ran cyflogwyr, gall prentisiaethau lanw bylchau sgiliau busnes drwy uwchsgilio neu ailhyfforddi cyflogeion, yn ogystal â helpu recriwtio cyflogeion talentog newydd sydd â photensial i’r busnes. Rydym eisoes yn derbyn nifer mawr o ymholiadau am y cyrsiau sy’n cael eu cynnig.”
Ychwanegodd Mark Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cymdeithas y Gyfraith: “Rwyf wrth fy modd bod Swyddfa Cymdeithas y Gyfraith, Cymru wedi gweithio mor agos gyda CILEX a Llywodraeth Cymru i wireddu’r rhaglen prentisiaeth gyfreithiol arloesol hon.
“Rydym yn croesawu’n fawr iawn y rhaglen brentisiaeth hon a wnaiff ddarparu addysg gyfreithiol reoledig o ansawdd uchel ar gyfer y staff sy’n cael eu cyflogi gan ein haelodau ledled Cymru gyfan.
“Fel Cyfarwyddwr un o’r cwmnïau cyfraith a leolir yn Abertawe, rwy’n gynnwrf i gyd oherwydd bydd PCYDDS, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn gallu cyflwyno’r rhaglen hon yn uniongyrchol i gwmnïau sydd wedi’u lleoli nid dim ond yng Ngorllewin Cymru yn unig ond hefyd ledled Cymru gyfan. Gwnaiff y rhaglen brentisiaeth hon gyfarparu ein gweithlu’r dyfodol â’r sgiliau hynny sy’n hanfodol ar gyfer galluogi cwmnïau cyfraith yng Nghymru i ddatblygu ac i ffynnu, a’u cyfarparu nhw hefyd i wynebu unrhyw heriau a allai godi yn y dyfodol oherwydd datganoli ymhellach i Gymru unrhyw faterion sy’n ymwneud â chyfiawnder”.
O fis Medi 2022 bydd prentisiaid yn gallu cofrestru ar y rhaglenni gyda’r Fframweithiau Prentisiaeth wedi’u cefnogi gan y Cymhwyster Proffesiynol CILEX (CPQ).
Caiff y Fframweithiau Prentisiaeth canlynol bellach eu hariannu’n llawn yng Nghymru.
Lefel 3 Prentisiaeth mewn Gwasanaethau Cyfreithiol
Lefel 5 Uwch-brentisiaeth mewn Gwasanaethau Cyfreithiol
I wneud cais am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lydia.david@colegsirgar.ac.uk
Nodyn i'r Golygydd
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o Grŵp Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy’n gonffederasiwn o nifer o sefydliadau yn cynnwys Prifysgol Cymru, yn ogystal â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn golegau cyfansoddol. Mae’r Grŵp yn cynnig continwwm o addysg bellach i addysg uwch er budd dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.
Gweledigaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw bod yn Brifysgol sydd ag ymrwymiad i lesiant a threftadaeth y genedl wrth galon ei holl weithgareddau. Rhan ganolog y weledigaeth hon yw hyrwyddo a gwreiddio system addysg sector deuol sy’n addysgu dysgwyr o bob oed a chefndir, gan sbarduno datblygiad economaidd yn y rhanbarth, ar draws Cymru a thu hwnt.
Sefydlwyd y Brifysgol yn 1822 a mae’n ei daucanmlwyddiant yn 2022. Ei Siarter Brenhinol a ddyfarnwyd yn 1928 yw’r hynaf o blith holl brifysgolion Cymru. Mae campysau’r Brifysgol yn Abertawe, Caerfyrddin, Llambed, Caerdydd a Llundain, ac mae ganddi Ganolfan Ddysgu yn Birmingham.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ymrwymo i osod myfyrwyr yng nghanol ei chenhadaeth drwy ddarparu cwricwlwm dwyieithog perthnasol ac ysbrydoledig, ynghyd ag amgylchedd dysgu cefnogol, buddsoddi yn ei champysau a’i chyfleusterau a sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn cael cyfle i gyflawni eu potensial.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk