Gwasanaeth a Gorymdaith yn Llambed yn dathlu 200 mlynedd o Addysg Uwch yng Nghymru


13.08.2022

Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wasanaeth a gorymdaith i ddathlu dau gan mlynedd o addysg uwch yng Nghymru ddydd Gwener, 12 Awst 2022.

A memorial was unveiled by the Bishop of St Davids and Jeremy Miles MP, Welsh Government Minister for Education and the Welsh Language.

Dechreuodd y dathliadau gyda gwasanaeth yn Eglwys San Pedr Llambed ac yna gorymdeithiwyd drwy dref Llambed. Roedd y diwrnod yn nodi union 200 mlynedd ers gosod y garreg sylfaen ar gyfer  Coleg Dewi Sant, Llambed gan yr Esgob Thomas Burgess.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor:

“Roedd y gwasanaeth a’r orymdaith yn gyfle arbennig iawn i ddathlu’r daucanmlwyddiant. Roedd yn bleser gennym i groesawu Jeremy Miles, AS, Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg ac Esgob Tyddewi y Gwir Barchedig Ddr Joanna Penberthy, ynghyd â’n gwesteion i ymuno â ni ar gyfer yr achlysur gorfoleddus hwn.

“Mae’r Daucanmlwyddiant yn nodi dwy ganrif o barhad cyfleoedd addysg uwch i bobl Cymru ac yn dathlu cyfraniad ein prifysgolion a’n colegau yn y stori honno”.

Gwasanaethwyd gan Y Parchedig Ddr Emma Whittick, caplan y Brifysgol yn Llambed a traethwyd y canrifoedd bregeth gan Y Gwir Barchedig Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi.

Yn dilyn y gwasanaeth, fel y digwyddodd yn 1822, cynhaliwyd gorymdaith o’r Eglwys ar hyd strydoedd Llambed i Gampws y Brifysgol. Yno, dadorchuddiwyd cofeb gan Esgob Tyddewi a Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru.  Yna, agorodd y Gweinidog  yr Oriel, sef arddangosfa o hanes campws Llambed sy’n cynnwys y garreg sylfaen wreiddiol.   

The University of Wales Trinity Saint David held a service and procession to celebrate two hundred years of higher education in Wales on Friday, 12 August 2022.

Canwyd y gloch heddwch, a gomisiynwyd gan y Brifysgol fel arwydd symbolaidd i atgyfnerthu yr ymrwymiad a wnaed  200 o flynyddoedd yn ôl i gefnogi astudiaeth o grefyddau’r byd ac i nodi sut mae’r Brifysgol, dros y, wedi datblygu fel canolfan ryngwladol ar gyfer deialog rhyng-ffydd a rhyngddiwylliannol. Mae’r Gloch Heddwch, yr unig un o’i bath yng Nghymru, hefyd yn nodi ymrwymiad y Brifysgol i werthoedd Llywodraeth Cymru fel y’u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).

Yn ystod y diwrnod, lansiwyd y llyfr ‘Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant’ a olygwyd gan Yr Athro John Morgan-Guy.  Comisiynwyd y llyfr gan yr Athro Medwin Hughes fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant. Mae’n llyfr darluniadol llawn sy’n cynnwys detholiad o’r miloedd lawer o weithiau a gedwir yn Llyfrgell ac Archif Roderic Bowen ar gampws Llambed. Mae’r Casgliadau Arbennig yn cynnwys dros 35,000 o weithiau printiedig, 8 llawysgrif ganoloesol, tua 100 o lawysgrifau ôl-ganoloesol, a 69 o incwnabwla. Derbyniwyd y rhain yn bennaf trwy roddion hael llawer o gymwynaswyr, gan gynnwys yr Esgob Thomas Burgess. Mae’r Llyfrau, sy’n ymestyn dros saith can mlynedd, yn cynnwys ysgrifau byrion gan ysgolheigion y mae eu gwybodaeth a’u gwerthfawrogiad o’r gweithiau heb eu hail, yn datgelu cyfoeth yr hyn a elwid unwaith yn ‘llyfrgell fach fwyaf Cymru.”

Diolch i bawb am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth ac yn enwedig Eglwys San Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Cyngor y Dref a Chyngor Sir Ceredigion.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk