Gweithdai Cyflogadwyedd a arweinir gan ddiwydiant ar gyfer myfyrwyr Coleg Celf Abertawe yn eu hail flwyddyn
06.12.2022
Gwnaeth myfyrwyr sy’n astudio am radd BA (Anrh.) Dylunio Graffig ac am radd BA (Anrh.) Hysbysebu Creadigol yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gymryd rhan mewn prynhawn o weithdai, a chawsant gyflwyniad i gyflogadwyedd gan siaradwraig sy’n llwyddiannus yn y diwydiant.
Gwnaeth siaradwraig wadd Rachael Wheatley o Waters Creative, asiantaeth greadigol yn Ne Cymru sy’n arbenigo mewn graffeg, dylunio gwefannau, hunaniaeth frandiau a strategaeth farchnata, roi cyflwyniad i 21 o fyfyrwyr yn eu hail flwyddyn, a chynnal gweithdai ar eu cyfer.
Amlinellodd Rachael ei siwrnai o’r brifysgol i redeg ei hasiantaeth greadigol ei hun, a rhoddwyd ganddi awgrymiadau a chyngor, i’w dilyn gan sesiwn Holi ac Ateb fywiog. Dilynwyd y cyflwyniad gan gyfres o weithdai a gafodd eu rhedeg gan Rachael ac Ian Simmons, darlithydd o Goleg Celf Abertawe, gweithdai a geisiodd ddatblygu sgiliau creadigol, sgiliau byrfyfyr a sgiliau cydweithredol, yn ogystal â datrys problemau.
Perfformiodd y myfyrwyr dasgau grŵp am gyfnodau byrion, megis adeiladu tirnodau o wellt papur, trawsnewid cylchoedd gwag i ddyluniadau creadigol, a defnyddio nodiadau ‘post-it’ i greu portreadau o bobl enwog y gellid eu hadnabod.
Medd Ian Simmons: “Mae darlithoedd a gweithdai gan siaradwyr o’r diwydiant yn rhan werthfawr o brofiad myfyrwyr PCYDDS, oherwydd maent yn atgyfnerthu’r sgiliau rydym yn eu haddysgu ac yn eu datblygu yn ein myfyrwyr. Mae Rachael yn ymwelydd rheolaidd ac mae hi bob amser yn darparu gweithdai a chyflwyniadau ar gyfer ein myfyrwyr sy’n ddiddorol ac sy’n ennyn eu diddordeb.”
Roedd y digwyddiad yn rhan o’r modwl ‘Changemakers: Building your Personal Brand for Sustainable Employment’ ac fe roddwyd iddo adborth eithriadol o gadarnhaol gan y sawl a wnaeth ei fynychu. Meddai Connie Foreman, myfyrwraig Dylunio Graffig yn ei hail flwyddyn: ‘Roedd hi’n brynhawn diddorol a llawn hwyl, ac roedd hi’n wych gweithio gyda Rachael ac ychwanegu ei henw at fy rhwydwaith proffesiynol.”
Ychwanegodd Sophie Wyatt, myfyrwraig Hysbysebu creadigol: “Rwy’n hoff iawn o ymweliadau gan broffesiynolwyr y diwydiant, mae’n wych clywed gan rywun sydd ‘wedi bod yno ac wedi ei wneud’, ac roedd y cyngor a roddwyd i ni gan Rachael yn syfrdanol.”
Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ddarparwr blaenllaw o gyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Celfyddydau, ac mae wedi dod yn 1af yng Nghymru mewn pedwar pwnc Celfyddyd, 4ydd yn y DU am Ffilm a Ffotograffiaeth, 8fed yn y DU am Ddylunio Cynnyrch, a 10fed yn y DU am Ddylunio Graffig.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078